Caws

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cawsiau amrywiol

Llaeth wedi ceulo yw caws. Mae'n fwyd sy'n llawn o galsiwm. Fe'i gwneir o laeth gwartheg gan amlaf, ond gall gael ei wneud o laeth geifr, llaeth defaid neu laeth buail hefyd.

Ceir rhai mathau o gaws gyda llwydni arnynt.

Rhestr mathau o gaws[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Cosyn Cartref[golygu | golygu cod y dudalen]

Dull[golygu | golygu cod y dudalen]

Enllyn arall derbyniol fyddai cosyn cartref a byddai amryw o'r ffermydd, yn gwneud tipyn o gaws pan fyddai digonedd o laeth. Ffordd arferol i'w wneud byddai defnyddio llaeth drwyddo, hynny yw, y llaeth heb ei hufennu a llaeth sgim. Llaeth wedi codi'r hufen oddiarno, yr un faint o bob un, a'i dwymo i wres gwaed 98F. Wedyn ychwanegu Rennet iddo a'i adael i sefyll gwpl o ddyddiau hyd nes y byddai wedi ffurfio yn grawen yng ngwaelod y pot. Cael yr hyn a elwid yn 'llian caws' a'i daenu arno ac arllwys y gwlybion i lestr arall (dyma'r maidd, fyddai'n gwneud siot mor flasus yn ystod y cynhaeaf gwair, fel y llaeth enwyn o'r fuddai.) Mwyaf yn y byd a dynnid o'r gwlybion, byddai'r grawen, sef y gronynnau caws, yn ffurfio fel lwmp o does. Wedyn, byddai malwr a phigau arno, rhyw fath o beiriant oedd hwn i falu'r grawen cyn ei roi yn y cawswellt ac yna gosod gwasg denau o amgylch a llanw'r cawswellt a'r wasg yn llawn. Amcan y wasg oedd iddi suddo i mewn gyda'r caws o dan bwysau a phan gyrhaeddai'r pwysau a gwyneb y cawswellt byddai cymaint o wasgu ag a fyddai'n bosibl wedi cymryd lle. Dwy garreg las wedi eu gosod mewn ffrâm haearn fyddai yn gwasgu a'r garreg fyddai yn pwyso yn cael ei rheoli gan sgriw bwrpasol. Byddai tyllau mân yng ngwaelod y cawswellt ac hefyd yn y garreg er mwyn i'r sudd gael ei weithio allan. Gollwng ychydig bwysau yn ychwanegol bob dydd fyddai'r gamp fel y byddai'r cosyn yn sychu ac wedi bod yno am rai dyddiau felly byddai cosyn o ddeuddeg i bymtheg pwys yn barod i'w roi ar y silff at wasanaeth y teulu. Edrychid ymlaen at swper a thorri'r cosyn.[1]

Enghreifftiau o wneuthur caws[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Aberdaron 7 Mehefin 1884: sych Thomas Penybryn yn dyfod a [caws cnwc ?crwc]. Talu iddo am y cnwc...[2] Oes yna rhywun yn gyfarwydd a’r term “caws cnwc” tybed?
  • Llansilin sir Ddinbych 28 Ebrill 1942: Troi yn Hafod Caws a hau Gwenith. [Mae yna fferm yng Ngherrig y Drudion o'r enw Hafod y Maidd hefyd][3]
  • Ty Uchaf, Padog 5 Gorffennaf 1946: 5.80 gneifiwr yma yn cneifio, yma tan 6.00yh. Cael ffurflen i brynu bwyd ar rations:-Te libs 2oz, Siwgr 3 a hanner pwys, Margarine 3 a chwarter pwys, Preserves 31bs, Caws 1 a tri chwarter pwys.3 0 pwynt at y cynhaeaf gwair.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am caws
yn Wiciadur.
  1. Gyda chaniatad a diolch i’r teulu ac i Carys Dafydd: “Arferion a Chwaraeon ardal y Parc erstalwm” (pigion o draethawd am rai arferion amaethyddol a arhosai yng nghof “Hen Ddwylo”, cystadleuydd yn un o Eisteddfodau cylch y Parc, Y Bala. Fe’i hysgrifennwyd yng nghanol yr 1960au gan. Tybir mai O.T Jones, Llwynmafon (Tu Du gynt) oedd yr awdur.
  2. Dyddiadur W Jones, Moelfre, Aberdaron
  3. Dyddiadur Hugh Jones, Blaenycwm, Llansilin, Dinbych
  4. Dyddiadur DO Jones, Padog (gyda chaniatad papur bro Yr Odyn a'r teulu)