Bual
Bual Amrediad amseryddol: 2–0 Miliwn o fl. CP Pleistosenaidd Cynnar – Diweddar | |
---|---|
Y bual Americanaidd (Bison bison) | |
Y bual Ewropeaidd (Bison bonasus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Bovidae |
Is-deulu: | Bovinae |
Genws: | Bison |
Rhywogaethau | |
B. bison |
Carnolyn eilrif-fyseddog (Lladin: Artiodactyla) sy'n gyfystyr â'r genws Bison yn is-deulu'r bucholion (neu Bovinae) yw'r bual, yr ych gwyllt neu'r beison. Dwy rywogaeth sy'n goroesi: y bual Americanaidd (a rennir yn ddwy is-rywogaeth: bual y gwastadedd a bual y coed) a'r bual Ewropeaidd. O'r pedair rhywogaeth a ddifodwyd, bu tair ohonynt (Bison antiquus, B. latifrons a B. occidentalis) yn byw yng Ngogledd America a'r llall, bual y stepdir (B. priscus), yn byw ar stepdiroedd o orllewin Ewrop drwy ganol a dwyrain Asia hyd at Ogledd America.[1][2] Roedd y ddwy rywogaeth arall ar fin diflannu yn ddiweddar, ond bellach y maent yn cael eu diogelu mewn gwarchodfeydd.
O'r ddwy rywogaeth sydd wedi goroesi, mae'r bual Americanaidd (B. bison) i'w ganfod yng Ngogledd America'n unig; dyma'r math mwyaf niferus. Cam-alwyd ef yn "fyfflo" droeon - yn anghywir felly - er nad yw'n perthyn yn agos ato. Mae gan B. bison ddwy isrywogaeth: bual y gwastatiroedd (B. b. bison) a bual y coed (B. b. athabascae) a gaiff ei enw o "Barc y Coed", Canada. Ailgyflwynwyd y bual Ewropeaidd (B. bonasus) i Ewrop ychydig yn ôl, yn ardal y Cawcasws (ardal y ffin rhwng Ewrop ac Asia).
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r gair yn y bôn o'r Lladin būbalus, trwy'r Llydaweg Canol.[3]
Bual Ewropeaidd
[golygu | golygu cod]Y bual Ewropeaidd (Bison bonasus) yw'r mamal mwyaf o faint sy'n byw ar dir Ewrop. Mae'n perthyn yn agos i'r bual Americanaidd, ond mae ganddo goesau hirach a chorff sy'n llai cydnerth. Yn llawn oed, mae'r gwryw yn sefyll 1.8–2 m ar ei ysgwydd ac yn mesur tua 2.75 m o hyd. Mae'r gwryw yn pwyso 400–920 kg a'r fenyw yn pwyso 300–540 kg. Mae gan y ddwy ryw bennau mawr a chyrn byrion sy'n troi i fyny. Nid yw'r crwb mor amlwg â chefn y bual Americanaidd. Mae ganddo flew hir sy'n tyfu ar y gwddf a'r tal, a barf fer ar yr ên. Yn y gwanwyn, maent yn tyfu haen ychwanegol o flew i amddiffyn rhag yr oerfel.
Roedd y bual yn niferus yn Ewrop ers yr oesoedd cynhanesyddol hyd gychwyn y cyfnod Cristnogol. Cafodd ei hela am gig a'i yrru o'r tir gan ffermwyr, ac erbyn y 11g dim ond dau yrr oedd ar ôl, rhai cannoedd o filod yn unig. Erbyn y flwyddyn 1927, llai na hanner cant o fuail oedd yn byw yn y gwyllt.[4] Sefydlwyd cymdeithas ryngwladol i amddiffyn y rhywogaeth ym 1932, ac ers hynny tyfai'r niferoedd mewn sŵau a gwarchodfeydd coedwigol. Lladdwyd y bual Ewropeaidd gwyllt olaf gan herwheliwr. Yn ddiweddarach yn yr 20g, cafodd buail o'r sŵ eu hailgyflwyno i'w cynefin naturiol. Triga'r mwyafrif o fuail Ewropeaidd yng nghoedwig cyntefig olaf Ewrop ym Mharc Cenedlaethol Bialowieza yng Ngwlad Pwyl. Mae hefyd rhaglenni yn ddiweddar i ailgyflwyno'r bual i ardaloedd yn Rwsia, Belarws, Cirgistan, Lithwania, a'r Wcráin.
Anifail y coedwig ydyw, ac mae'n bwyta dail, rhedyn, blagur, a rhisgl. Fel arfer maent yn byw ger llennyrch gwlyb ac yno'n pori ar laswellt, mwsogl, llysiau, a deiliant eraill. Yn ystod y gwanwyn, yr haf, a'r hydref, treuliasant y mwyafrif o'u hamser yn pori. Yng Nghoedwig Bialowieza bu traddodiad ers canrifoedd o bobl yn porthi'r buail â gwair yn y gaeaf. Heddiw, mae gwarcheidwaid natur yn darparu gwair, ceirch, a betys siwgr i fuail yn y gaeaf.
Mae buail Ewropeaidd benywol a'u lloi yn byw mewn gyrroedd o 20 i 30. Mae'r gwrywod, neu'r teirw, yn byw ar ben eu hunain am y mwyafrif o'r flwyddyn. Ar ddechrau'r tymor paru, ym mis Awst, ymuna'r gwrywod â'r gyrroedd ac maent yn ymladd ei gilydd er cael benyw. Gall un gwryw cymryd tua deuddeg o fenywod i gyplu. Esgora'r fenyw ar un llo, neu weithiau dau, ar ôl cyfnod torogi o 9 i 10 mis. Yn ystod y tymor lloea, tua Mai i Orffennaf, mae'r fenyw yn gadael y gyr. Mae gan y bual Ewropeaidd hyd oes o 25 mlynedd neu fwy.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kurosawa Y.. "モノが語る牛と人間の文化 - ② 岩手の牛たち" (pdf). LIAJ News No.109 (Oshu city Cattle Museum): 29–31. http://liaj.lin.gr.jp/japanese/liajnews/liaj10909.pdf. Adalwyd 2016-04-06.
- ↑ HASEGAWA Y.,OKUMURA Y., TATSUKAWA H. (2009). "First record of Late Pleistocene Bison from the fissure deposits of the Kuzuu Limestone, Yamasuge,Sano-shi,Tochigi Prefecture,Japan" (pdf). Bull.Gunma Mus.Natu.Hist.(13) (Gunma Museum of Natural History and Kuzuu Fossil Museum): 47–52. http://www.gmnh.pref.gunma.jp/research/no_13/bulletin13_5.pdf. Adalwyd 2016-04-06.
- ↑ bual. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 2 Mehefin 2017.
- ↑ (Saesneg) Bison, European yn Endangered Species (Gale, 2004). Adalwyd ar 24 Ebrill 2017.