Camel

Oddi ar Wicipedia
Camelod
Dromedari (Camelus dromedarius)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Camelidae
Genws: Camelus
Linnaeus, 1758
Rhywogaethau

Camelus bactrianus
Camelus dromedarius
Camelus gigas (ffosil)
Camelus hesternus (ffosil)
Camelus sivalensis (ffosil)

Carnolyn mawr sy'n cnoi ei gil, a chanddo goesau main, hir, gyda chrwb neu ddau ar ei gefn yw'r camel. Mae’r camel wedi’i ymaddasu’n arbennig i fyw mewn diffeithdiroedd yn ei allu i fyw ar blanhigion dreiniog gwydn, yn ei allu i gadw dŵr ym meinwe’r corff, ac yn ei draed gyda gwadnau llydan trwchus a chaled a charnau bychain ar flaenau bysedd y traed. Gweithreda'r crwb fel storfa braster a gall oroesi am gyfnodau hiri heb fwyd na diod. Mae'r dromedari (camel uncrwb, camel rhedeg) yn byw yn Arabia a gogledd Affrica; mae'r camel deugrwb yn byw yng nghanolbarth Asia.

Mae camelod yn anifeiliaid gwaith a ddefnyddir gan ddyn i gludo teithwyr a chargo. Ceir tair rhywogaeth: y camel dromedari un crwb (sef 94% o boblogaeth camel y byd), y camel Bactria deugrwb (C. bactrianus) ac sy'n 6%. Y drydedd rhywogaeth yw'r camel Bactria gwyllt (C. ferus) sy'n rhywogaeth ar wahân ac sydd bellach mewn perygl difrifol.

Defnyddir y gair camel hefyd yn anffurfiol mewn ystyr ehangach, a'r term mwy cywir yw "camelid", i gynnwys pob un o'r saith rhywogaeth o'r teulu Camelidae : y camelod gwirioneddol (y tair rhywogaeth uchod), ynghyd â chamelidau'r Byd Newydd: y lama, yr alpaca, y guanaco, a'r ficuña.[1] Daw'r gair ei hun o'r Lladin: camelus a'r Groeg (kamēlos) sy'n tarddu o'r Hebraeg, Arabeg neu Phoenician: gāmāl.[2]

Tacsonomeg[golygu | golygu cod]

Rhywogaethau sy'n bodoli[golygu | golygu cod]

Mae 3 rhywogaeth yn bodoli:[3][4]

Delwedd Enw cyffredin Enw gwyddonol Dosbarthiad
camel Bactrianidd Camelus bactrianus Domestig; Canolbarth Asia, gan gynnwys rhanbarth hanesyddol Bactria.
Dromedari / camel Arabaidd Camelus dromedarius Domestig; y Dwyrain Canol, Anialwch y Sahara, a De Asia; cyflwyno i Awstralia
Camel Bactria gwyllt Camelus ferus Ardaloedd anghysbell gogledd-orllewin Tsieina a Mongolia.

Hen ardal yng nghanol Asia oedd 'Bactria'.

Bioleg[golygu | golygu cod]

Disgwyliad oes camel ar gyfartaledd yw 40 i 50 mlynedd.[5] Mae camel dromedari llawndwf yn sefyll 1.85 metr (6 tr 1 modf) wrth yr ysgwydd a 2.15 metr (7 tr 1 modf) ar frig y crwb.[6] Gall camelod Bactria fod yn droedfedd uwch. Medrant redeg hyd at 65 cilometr yr awr (km/a) sef 40 milltir yr awr am gyfnodau byr a chynnal cyflymder o hyd at 40 km/a (25 mya) am gyfnodau hirach.[7] Mae camelod Bactria yn pwyso 300 i 1,000 cilogram a'r dromedariau 300 i 600 kg. Mae bodiau'r carnau yn darparu gafael ychwanegol ar briddoedd amrywiol.[8]

Mae gan y camel dromedari gwrywaidd organ o'r enw dulla yn ei wddf, sach fawr, chwyddadwy y mae'n ei wthio o'i geg pan fydd yn ceisio denu benywod. Mae'n debyg i dafod hir, chwyddedig, pinc yn hongian allan o ochr ei geg.[9] Mae camelod yn paru ar eu heistedd, gyda'r gwryw yn mowntio o'r tu ôl. Gall y gwryw fel arfer alldaflu dair neu bedair gwaith o fewn un sesiwn paru.[10] Camelidau yw'r unig garnolion i baru ar eu heistedd.[11]

Addasiadau ecolegol ac ymddygiadol[golygu | golygu cod]

Nid yw camelod yn storio dŵr yn uniongyrchol yn eu crwbau (humps); maent yn gronfeydd o feinwe llawn braster. Pan fydd y meinwe hon yn cael ei fetaboli, mae'n cynhyrchu mwy nag un gram o ddŵr am bob gram o fraster a brosesir. Mae'r metaboleiddio braster hwn, tra'n rhyddhau egni, yn achosi dŵr i anweddu o'r ysgyfaint yn ystod resbiradaeth (gan fod angen ocsigen ar gyfer y broses metabolig): yn gyffredinol, mae gostyngiad net mewn dŵr.[12][13]

A portrait of a camel with a visibly thick mane
Mae cot drwchus y camel yn un o'i nifer o addasiadau sy'n ei gynorthwyo mewn amodau tebyg i anialwch.
A leashed pack camel
Camel yn Somalia, sydd â'r boblogaeth camelod fwyaf yn y byd.[14]

Mae gan gamelod gyfres o addasiadau ffisiolegol sy'n caniatáu iddynt oroesi dros gyfnodau hir heb unrhyw ffynhonnell allanol o ddŵr.[15] Gall y camel dromedari yfed mor anaml ag unwaith bob 10 diwrnod hyd yn oed o dan amodau poeth iawn, a gall golli hyd at 30% o fàs ei gorff oherwydd diffyg hylif.[16] Yn wahanol i famaliaid eraill, mae celloedd gwaed coch camelod yn hirgrwn yn hytrach na siâp crwn ac mae hyn yn hwyluso llif y celloedd hyn yn ystod dadhydradu[17] ac yn eu gwneud yn well am wrthsefyll amrywiad osmotig uchel heb rwygo wrth yfed llawer iawn o ddŵr: a 600 kilogram (1,300 lb) gall camel yfed 200 litr (43 galwyn) o ddŵr mewn tri munud.[18][19] Mae'r Toyota Prius yn dal hyd at 12 galwyn. Felly mae'r camel yn dal cymaint a thri car a hanner o ddŵr. I gymharu rhwng camelod a da byw eraill, dim ond 1.3 litr o hylif mae'r camel yn ei golli bob dydd tra bod gwartheg yn colli 20 i 40 litr y dydd.[20]

Mae camelod yn gallu gwrthsefyll newidiadau yn nhymheredd y corff hefyd. Gall eu tymheredd amrywio o 34 °C (93 °F) ar doriad gwawr hyd ati 40 °C (104 °F) erbyn i'r haul fachlud, cyn iddynt oeri eto dros nos.[15] Mae cynnal tymheredd yr ymennydd o fewn terfynau penodol yn hollbwysig i anifeiliaid; i gynorthwyo hyn, mae gan y camel rwydwaith cymhleth o rydwelïau a gwythiennau yn gorwedd yn agos iawn at ei gilydd sy'n defnyddio llif gwaed gwrthlif i oeri gwaed sy'n llifo i'r ymennydd.[21] Anaml y mae camelod yn chwysu, hyd yn oed pan fydd y tymheredd amgylchynol yn cyrraedd 49 °C (120 °F) .[22] Mae unrhyw chwys sy'n digwydd yn anweddu ar lefel y croen yn hytrach nag ar wyneb eu cnu (neu got); mae gwres anweddiad felly'n dod o wres y corff yn hytrach na gwres amgylchynol. Gall camelod wrthsefyll colli 25% o bwysau eu corff mewn dŵr, tra bod y rhan fwyaf o famaliaid eraill yn gallu gwrthsefyll dim ond tua 12-14% o ddadhydradu cyn i fethiant y galon ddeillio o aflonyddwch yng nghylchrediad y gwaed.[23]

Pan fydd y camel yn anadlu allan, mae anwedd dŵr yn mynd yn sownd yn eu ffroenau ac yn cael ei adamsugno i'r corff fel modd o arbed dŵr.[24] Gall camelod sy'n bwyta llystyfiant gwyrdd lyncu digon o leithder mewn amodau mwynach i gynnal cyflwr hydradol eu cyrff heb fod angen yfed.[25]

Lloi camel domestig neu ddof, yn gorwedd mewn 'safle sternal', safle sy'n ei gynorthwyo i golli gwres

Mae côt drwchus y camel yn ei insiwleiddio rhag y gwres dwys a belydrir o'r haul a thwod yr anialwch; rhaid i gamel sydd wedi ei chneifio chwysu 50% yn fwy i osgoi gorboethi.[26] Yn ystod yr haf mae'r gôt yn ysgafnhau o ran lliw, gan adlewyrchu golau yn ogystal â helpu i osgoi llosg haul.[27] Mae coesau hir y camel yn helpu trwy gadw ei gorff ymhellach o'r ddaear a all gynhesu i hyd at 70 °C (158 °F).[28][29] Mae gan y dromedari bad o feinwe trwchus dros y sternum a elwir yn bedestal . Pan fydd yr anifail yn gorwedd mewn safle sternal, mae'r pedestal yn codi'r corff o'r wyneb poeth ac yn caniatáu i aer oer basio o dan y corff.[21]

Mae gan gegau camelod leinin o ledr trwchus, sy'n eu galluogi i gnoi planhigion anialwch pigog. Mae amrannau hir a blew clust, ynghyd â ffroenau sy'n gallu cau, yn rhwystr yn erbyn tywod. Os bydd tywod yn cael ei osod yn eu llygaid, gallant ei symud drwy ddefnyddio eu trydydd amrant tryloyw. Cerdda camelod a'u traed wedi'u lledu, ac mae hyn yn eu helpu i symud heb suddo i'r tywod.[30][31]

Mae arennau a pherfeddion y camel yn adamsugno dŵr yn effeithiol iawn[32] gyda rhan medwlaidd aren y camel yn gorchuddio dwywaith cymaint o arwynebedd ag aren buwch. Yn ail, mae gan gorffilod arennol ddiamedr llai, sy'n lleihau'r arwynebedd ar gyfer hidlo. Mae'r ddau brif nodwedd anatomegol hyn yn galluogi'r camel i gadw dŵr a lleiha colli dwqr drwy wrin mewn amodau eithafol.[33] Daw wrin camel allan fel surop trwchus, ac mae ysgarthion camel mor sych fel nad oes angen eu sychu pan fydd y Bedouins yn eu defnyddio i'w losgi mewn coelcerth.[34][35][36][37]

Geneteg[golygu | golygu cod]

Mae caryoteipiau gwahanol rywogaethau o'r camelidau wedi'u hastudio'n gan lawer o grwpiau,[38][39][40][41][42][43] ond ni ddaethpwyd i gytundeb ar enwi cromosomau'r camelidau. Roedd astudiaeth yn 2007 yn didoli cromosomau camel gan adeiladu ar y ffaith bod gan gamelod 37 pâr o gromosomau (2n=74), a chanfuwyd bod y caryoteip yn cynnwys un autosom metacentrig, tri isfetacentrig, a 32 acrocentrig. Cromosom metacentrig bach yw'r Y, tra bod yr X yn gromosom metacentrig mawr.[44]

Penglog camel hybrid F1, Amgueddfa Osteoleg, Oklahoma

Mae gan y camel heibrid, sef croesryw rhwng camelod Bactria a dromedari, un crwmp, er bod ganddo bant bychan rhyw 4-12 cm sy'n rhannu'r blaen oddi wrth y cefn. Mae'r hybrid 2.15 metr (7 tr 1 mod) wrth yr ysgwydd a 2.32 m (7 tr 7 mod) wrth y crwb. Mae'n pwyso 650 kg (1,430 pwys) ar gyfartaledd a gall gario tua 400 i 450 kg o bwysau, sy'n fwy nag y gall y dromedari neu'r Bactrian.[45]

Yn ôl data moleciwlaidd, gwahanodd y camel Bactria gwyllt (C. ferus) oddi wrth y camel Bactria dof (C. bactrianus) tua miliwn o flynyddoedd yn ôl.[46][47] Gwahanodd camelidau'r Byd Newydd a'r Hen Fyd tua 11 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[48] Er gwaethaf hyn, gall y rhywogaethau hyn groesrywio a chynhyrchu epil hyfyw.[49] Mae'r cama yn hybrid rhwng y camel a'r lama sy'n cael ei fridio gan wyddonwyr i weld pa mor agos yw'r berthynas rhwng y rhiant rywogaethau.[50] Casglodd gwyddonwyr semen o gamel trwy wain artiffisial a semenu lama ar ôl ysgogi ofyliad gyda phigiadau gonadotroffin.[51] Mae'r cama hanner ffordd o ran maint rhwng camel a lama ac nid oes ganddo grwbyn. Mae ganddi glustiau rhwng y camel a'r lama, coesau hirach na'r lama, a charnau rhannol ewin.[52][53] Fel y mul, mae'r cama yn anffrwythlon, er bod gan y ddau riant yr un nifer o gromosomau.[51]

Esblygiad[golygu | golygu cod]

Roedd y camel cynharaf y gwyddys amdano, o'r enw Protylopus, yn byw yng Ngogledd America 40 i 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl (yn ystod yr Eosen).[54] Roedd tua maint cwningen ac yn byw yng nghoetiroedd agored yr hyn sy'n awr yn Dde Dakota.[55][56] Erbyn 35 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y Poebrotherium yr un maint â gafr ac roedd ganddo lawer mwy o nodweddion tebyg i gamelod a lamas.[57][58] Yr oedd y Stenomylus carnog, a gerddai ar flaenau ei draed, hefyd yn bod o gwmpas yr amser hwn, ac esblygodd yr Aepycamelus wddf-hir yn y Miosen.

Ymfudodd cyndad y camel modern, y Paracamelus, i Ewrasia o Ogledd America trwy'r Beringia yn ystod y Miosen hwyr, rhwng 7.5 a 6.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[59][60][61] Yn ystod y Pleistosen, tua 3 i 1 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ymledodd Camelidae Gogledd America i Dde America fel rhan o Gyfnewidfa Fawr America trwy Isthmws Panama a oedd newydd ei ffurfio, lle wnaethant esblygu'n guanacos ac anifeiliaid cysylltiedig.[62][63][64] Parhaodd poblogaethau o Paracamelus i fodoli yn Arctig Gogledd America hyd at y Pleistosen Diweddar.[65][66] Amcangyfrifir bod y creadur yn sefyll tua 2.7 metr (9 troedfedd) o uchder. Gwahanodd camel Bactria oddi wrth y dromedari tua miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ôl y cofnod ffosil.[67]

Y camel olaf a oedd yn frodorol i Ogledd America oedd y Camelops hesternus, a ddiflannodd ynghyd â cheffylau, eirth wyneb-byr, mamothiaid a mastodoniaid, slothiaid daear, cathod ysgithrog, a llawer o fegafawna eraill, yn cyd-daro ag ymfudiad bodau dynol o Asia ar ddiwedd y cyfnod Pleistosen, tua 15-11,000 o flynyddoedd yn ôl.[68][69]

Dofi[golygu | golygu cod]

Camel cerfiedig o Frenhinllin Tang yn cario cyflenwadau ar ei gefn

Fel ceffylau, tarddodd y camel yng Ngogledd America ac yn y pen draw ymledodd ar draws Beringia i Asia. Fe wnaethon nhw oroesi yn yr Hen Fyd, ac yn y diwedd fe'u dofwyd gan fodau dynol a'u lledaenu'n fyd-eang. Ynghyd â llawer o fegafauna eraill yng Ngogledd America, cafodd y camelod gwyllt gwreiddiol eu dileu yn ystod lledaeniad pobloedd brodorol cyntaf America o Asia i Ogledd America, 10 i 12,000 o flynyddoedd yn ôl; er nad yw ffosilau erioed wedi'u cysylltu â thystiolaeth bendant o hela.[70][71]

Mae'r rhan fwyaf o gamelod sydd wedi goroesi heddiw wedi eu dofi.[72][73] Er bod poblogaethau gwyllt yn Awstralia, India a Kazakhstan, dim ond ym mhoblogaeth camelod Bactria gwyllt anialwch Gobi y mae camelod gwyllt yn goroesi.[74]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ceir cryn ddadlau pa bryd y dofwyd y camel. Mae'n bosibl bod y dromedariaid wedi eu dofi am y troi cyntaf yn ne Arabia tua 3,000 CC neu mor hwyr â 1,000 CC, a chamelod Bactria yng nghanol Asia tua 2,500 CC,[75][76][77][78][79] fel yn Shahr-e Sukhteh, Iran.[80]

Mae gwaith Martin Heide yn 2010 ar ddofi’r camel yn dod i’r casgliad fod bodau dynol wedi dofi camel Bactria erbyn canol y trydydd mileniwm rhywle i’r dwyrain o Fynyddoedd Zagros, gyda’r grefft o ddofi'n ehangu i Fesopotamia. Mae Heide'n awgrymu y gallai sôn am gamelod "yn y naratifau patriarchaidd gyfeirio, o leiaf mewn rhai mannau, at gamel Bactria", tra'n nodi nad yw'r camel yn cael ei grybwyll mewn perthynas â Chanaan.[81]

Darganfu gwaith cloddio archaeolegol diweddar yn Nyffryn Timna gan Lidar Sapir-Hen ac Erez Ben-Yosef yr esgyrn camel dof cynharaf a ddarganfuwyd y tu allan i Benrhyn Arabia, yn dyddio i tua 930 CC.[82][83]

Tecstilau[golygu | golygu cod]

Mae pobl yr anialwch a nomadiaid Mongolaidd yn defnyddio blew camel ar gyfer pebyll, yurts, dillad, dillad gwely ac ategolion eraill. Mae gan gamelod flew gwarchod allanol a meddal i lawr mewnol, ac mae'r ffibrau'n cael eu didoli  yn ôl lliw ac oedran yr anifail. Gellir ffeltio'r blew gwarchod i'w defnyddio fel cotiau gwrth-ddŵr ar gyfer bugeiliaid, tra bod y blew meddalach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer nwyddau premiwm.[84] Gellir nyddu'r ffibrau hyn i'w defnyddio mewn gwehyddu neu ei wneud yn edafedd ar gyfer gwau â llaw neu grosio. Cofnodir bod blew camel pur yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dillad gorllewinol o'r 17g ymlaen, ac o'r 19g defnyddiwyd cymysgedd o wlân a blew camel.[85]

Defnyddiau milwrol[golygu | golygu cod]

Carfan camel BSF arbennig, Gorymdaith Diwrnod y Weriniaeth, New Delhi (2004)

Erbyn o leiaf 1,200 CC roedd y cyfrwyau camel cyntaf wedi ymddangos, a gellid marchogaeth camelod Bactria. Gosodwyd y cyfrwy cyntaf ar gefn y camel, a rheolwyd camel Bactria gyda chymorth ffon. Fodd bynnag, rhwng 500 a 100 CC, daeth camelod Bactria i ddefnydd milwrol. Rhoddwyd cyfrwyau newydd, a oedd yn galed ond wedi'u plygu, dros y twmpathau gan rannu pwysau'r marchog dros yr anifail. Yn y 7g CC datblygodd y cyfrwy milwrol Arabaidd, gan wella'r cynllun rhyw ychydig.[86]

Mae lluoedd milwrol wedi defnyddio marchfilwyr camel mewn rhyfeloedd ledled Affrica, y Dwyrain Canol, ac o fewn i Lu Diogelwch Ffiniau (BSF) modern India. Digwyddodd y defnydd cyntafa ddogfennwyd o farchfilwyr camel ym Mrwydr Qarqar yn 853 CC.[87][88][89] Mae byddinoedd hefyd wedi defnyddio camelod fel anifeiliaid cludo nwyddau yn lle ceffylau a mulod.[90][91]

Cig[golygu | golygu cod]

Dysgl o gig camel a reis ar fwrdd bwyd yn Somali

Mae'r camel yn darparu bwyd ar ffurf cig a llaeth.[92] Mae tua 3.3 miliwn o gamelod a chamelidau'n cael eu lladd yn flynyddol am eu cig ledled y byd.[93] Gall un camel ddarparu swm sylweddol o gig ee

gall carcas y dromedari gwrywaidd bwyso 300-4-- kg, tra bod carcas camel Bactria gwrywaidd yn gallu pwyso hyd at 650 kg.[94] Mae'r brisged, yr asennau a'r ystlys ymhlith y rhannau gorau, ac mae'r crwb yn cael ei ystyried yn ddanteithfwyd.[95] Mae'r cwb yn cynnwys braster gwyn y gellir ei ddefnyddio i wneud y khli (cig wedi'i gadw) o gig dafad, cig eidion neu gamel.[96] Ar y llaw arall, mae llaeth camel a chig yn gyfoethog mewn protein, fitaminau, glycogen, a maetholion eraill sy'n hanfodol yn neiet pobl. O gyfansoddiad cemegol i ansawdd cig, y camel dromedary yw'r brîd a ffafrir ar gyfer cynhyrchu cig.[97] Dywedir bod cig camel yn blasu fel cig eidion bras, ond gall camelod hŷn brofi'n wydn iawn,[98] er bod cig camel yn dod yn fwy tyner po fwyaf y caiff ei goginio.[99][100] Mae cigyddion camel arbenigol yn darparu toriadau arbenigol, gyda'r crwb yn cael ei ystyried fel y mwyaf poblogaidd.[101]


Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Gilchrist, W. (1851). A Practical Treatise on the Treatment of the Diseases of the Elephant, Camel & Horned Cattle: with instructions for improving their efficiency; also, a description of the medicines used in the treatment of their diseases; and a general outline of their anatomy. Calcutta, India: Military Orphan Press.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bornstein, Set (2010). "Important ectoparasites of Alpaca (Vicugna pacos)". Acta Veterinaria Scandinavica 52 (Suppl 1): S17. doi:10.1186/1751-0147-52-S1-S17. ISSN 1751-0147. PMC 2994293. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2994293.
  2. Herper, Douglas. "camel". Online Etymology Dictionary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2013. Cyrchwyd 28 November 2012.
  3. Burger, P. A.; Ciani, E.; Faye, B. (2019-09-18). "Old World camels in a modern world – a balancing act between conservation and genetic improvement". Animal Genetics 50 (6): 598–612. doi:10.1111/age.12858. PMC 6899786. PMID 31532019. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6899786.
  4. Chuluunbat, B.; Charruau, P.; Silbermayr, K.; Khorloojav, T.; Burger, P. A. (2014). "Genetic diversity and population structure of Mongolian domestic Bactrian camels (Camelus bactrianus)". Anim Genet 45 (4): 550–558. doi:10.1111/age.12158. PMC 4171754. PMID 24749721. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4171754.
  5. "Bactrian Camel: Camelus bactrianus". National Geographic. 10 May 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 November 2012. Cyrchwyd 28 November 2012.
  6. "The amazing characteristics of the camels". Camello Safari. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2012. Cyrchwyd 26 November 2012.
  7. "How Fast Can Camels Run and How Long Can They Run For?". Big Site of Amazing Facts. Cyrchwyd 29 November 2012.
  8. Fayed, R. H. "Adaptation of the Camel to Desert environment."
  9. Abu-Zidana, Fikri M.; Eida, Hani O.; Hefnya, Ashraf F.; Bashira, Masoud O.; Branickia, Frank (18 December 2011). "Camel bite injuries in United Arab Emirates: A 6 year prospective study". Injury 43 (9): 1617–1620. doi:10.1016/j.injury.2011.10.039. PMID 22186231. "The male mature camel has a specialized inflatable diverticulum of the soft palate called the "Dulla". and During rutting the Dulla enlarges on filling with air from the trachea until it hangs out of the mouth of the camel and comes to resemble a pink ball. This occurs in only the one-humped camel. Copious saliva turns to foam covering the mouth as the male gurgles and makes metallic sounds. [6 cites to 5 references omitted]"
  10. Mukasa-Mugerwa, E. (1981). The Camel (Camelus Dromedarius): A Bibliographical Review. International Livestock Centre for Africa Monograph. 5. Ethiopia: International Livestock Centre for Africa. tt. 1, 3, 20–21, 65, 67–68.
  11. "Bactrian & Dromedary Camels". Factsheets. San Diego Zoo Global Library. March 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 September 2012. Cyrchwyd 4 December 2012.
  12. Vann Jones, Kerstin. "What secrets lie within the camel's hump?". Sweden: Lund University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 May 2009. Cyrchwyd 7 January 2008.
  13. Rastogi, S. C. (1971). Essentials Of Animal Physiology. New Age International. tt. 180–181. ISBN 9788122412796.
  14. Bernstein, William J. (2009). A Splendid Exchange: How Trade Shaped the World. Grove Press. t. 56. ISBN 9780802144164.
  15. 15.0 15.1 Roberts, Michael Bliss Vaughan (1986). Biology: A Functional Approach. Nelson Thornes. tt. 234–235, 241. ISBN 9780174480198.
  16. "The Camel from Tradition To Modern Times" (PDF).
  17. Eitan, A; Aloni, B; Livne, A (1976). "Unique properties of the camel erythrocyte membraneII. Organization of membrane proteins". Biochimica et Biophysica Acta (BBA) - Biomembranes 426 (4): 647–58. doi:10.1016/0005-2736(76)90129-2. PMID 816376.
  18. "Dromedary". Hannover Zoo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 October 2005. Cyrchwyd 8 January 2008.
  19. Halpern, E. Anette (1999). "Camel". In Mares; Michael A. (gol.). Deserts. University of Oklahoma Press. tt. 96–97. ISBN 9780806131467.
  20. Breulmann, M., Böer, B., Wernery, U., Wernery, R., El Shaer, H., Alhadrami, G., .
  21. 21.0 21.1 Inside Nature's Giants.
  22. "Arabian (Dromedary) Camel". National Geographic. National Geographic Society. 10 May 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 November 2012. Cyrchwyd 25 November 2012.
  23. Halpern, E. Anette (1999). "Camel". In Mares; Michael A. (gol.). Deserts. University of Oklahoma Press. tt. 96–97. ISBN 9780806131467.Halpern, E. Anette (1999).
  24. Lewis, Paul (12 July 1981). "A Pilgrimage To A Mystic's Hermitage In Algeria". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 August 2009. Cyrchwyd 7 March 2009.
  25. "Camels, llamas and alpacas". A manual for primary animal health care worker. FAO Animal Health Manual. FAO Agriculture and Consumer Protection. 1994. ISSN 1020-5187.
  26. Schmidt-Nielsen, K. (1964). Desert Animals: Physiological Problems of Heat and Water. New York: Oxford University Press.
  27. Halpern, E. Anette (1999). "Camel". In Mares; Michael A. (gol.). Deserts. University of Oklahoma Press. tt. 96–97. ISBN 9780806131467.Halpern, E. Anette (1999).
  28. Bronx Zoo. "Camel Adaptations". Wildlife Conservation Society. Archifwyd o'r gwreiddiol (Flash) ar 26 June 2012. Cyrchwyd 29 November 2012.
  29. Rundel, Philip Wilson; Gibson, Arthur C. (30 September 2005). "Adaptations of Mojave Desert Animals". Ecological Communities And Processes in a Mojave Desert Ecosystem: Rock Valley, Nevada. Cambridge University Press. t. 130. ISBN 9780521021418.
  30. Bronx Zoo. "Camel Adaptations". Wildlife Conservation Society. Archifwyd o'r gwreiddiol (Flash) ar 26 June 2012. Cyrchwyd 29 November 2012.Bronx Zoo.
  31. Silverstein, Alvin; Silverstein, Virginia B; Silverstein, Virginia; Silverstein Nunn, Laura (2008). Adaptation. Twenty-First Century Books. tt. 42–43. ISBN 9780822534341.
  32. "Morphometric analysis of heart, kidneys and adrenal glands in dromedary camel calves (PDF Download Available)". ResearchGate (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-04. Cyrchwyd 2017-03-03.
  33. Rehan S and AS Qureshi, 2006.
  34. Davidson, Alan; Davidson, Jane (15 October 2006). Jaine, Tom (gol.). The Oxford Companion to Food (arg. 2nd). Oxford University Press, USA. tt. 68, 129, 266, 762. ISBN 978-0192806819.
  35. "Kidneys and Concentrated Urine". Temperature and Water Relations in Dromedary Camels (Camelus dromedarius). Davidson College. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 25, 2003.
  36. "Fun facts about the Camel". The Jungle Store. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 November 2012. Cyrchwyd 3 December 2012.
  37. Fedewa, Jennifer L. (2000). "Camelus bactrianus". Animal Diversity Web. University of Michigan Museum of Zoology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 May 2013. Cyrchwyd 4 December 2012.
  38. Taylor, K.M.; Hungerford, D.A.; Snyder, R.L.; Ulmer Jr., F.A. (1968). "Uniformity of karyotypes in the Camelidae". Cytogenetic and Genome Research 7 (1): 8–15. doi:10.1159/000129967. PMID 5659175.
  39. Koulischer, L; Tijskens, J; Mortelmans, J (1971). "Mammalian cytogenetics. IV. The chromosomes of two male Camelidae: Camelus bactrianus and Lama vicugna.". Acta Zoologica et Pathologica Antverpiensia 52: 89–92. PMID 5163286.
  40. Bianchi, N. O.; Larramendy, M. L.; Bianchi, M. S.; Cortés, L. (1986). "Karyological conservatism in South American camelids". Experientia 42 (6): 622–4. doi:10.1007/BF01955563.
  41. Bunch, Thomas D.; Foote, Warren C.; Maciulis, Alma (1985). "Chromosome banding pattern homologies and NORs for the Bactrian camel, guanaco, and llama". Journal of Heredity 76 (2): 115–8. doi:10.1093/oxfordjournals.jhered.a110034.
  42. O'Brien, Stephen J.; Menninger, Joan C.; Nash, William G., gol. (2006). Atlas of Mammalian Chromosomes. New York: Wiley-Liss. t. 547. ISBN 978-0-471-35015-6.
  43. Di Berardino, D.; Nicodemo, D.; Coppola, G.; King, A.W.; Ramunno, L.; Cosenza, G.F.; Iannuzzi, L.; Di Meo, G.P. et al. (2006). "Cytogenetic characterization of alpaca (Lama pacos, fam. Camelidae) prometaphase chromosomes". Cytogenetic and Genome Research 115 (2): 138–44. doi:10.1159/000095234. PMID 17065795.
  44. Balmus, Gabriel; Trifonov, Vladimir A.; Biltueva, Larisa S.; O’Brien, Patricia C.M.; Alkalaeva, Elena S.; Fu, Beiyuan; Skidmore, Julian A.; Allen, Twink et al. (2007). "Cross-species chromosome painting among camel, cattle, pig and human: further insights into the putative Cetartiodactyla ancestral karyotype". Chromosome Research 15 (4): 499–515. doi:10.1007/s10577-007-1154-x. PMID 17671843.
  45. Potts, Danel. "Bactrian Camels and Bactrian-Dromedary Hybrids". Silkroad 3 (1). http://www.silkroadfoundation.org/newsletter/vol3num1/7_bactrian.php. Adalwyd 2012-11-29.
  46. Mohandesan, Elmira; Fitak, Robert R.; Corander, Jukka; Yadamsuren, Adiya; Chuluunbat, Battsetseg; Abdelhadi, Omer; Raziq, Abdul; Nagy, Peter et al. (30 August 2017). "Mitogenome Sequencing in the Genus Camelus Reveals Evidence for Purifying Selection and Long-term Divergence between Wild and Domestic Bactrian Camels" (yn En). Scientific Reports 7 (1): 9970. Bibcode 2017NatSR...7.9970M. doi:10.1038/s41598-017-08995-8. ISSN 2045-2322. PMC 5577142. PMID 28855525. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5577142.
  47. Ji, R; Cui, P; Ding, F; Geng, J; Gao, H; Zhang, H; Yu, J; Hu, S et al. (August 2009). "Monophyletic origin of domestic bactrian camel (Camelus bactrianus) and its evolutionary relationship with the extant wild camel (Camelus bactrianus ferus)". Animal Genetics 40 (4): 377–382. doi:10.1111/j.1365-2052.2008.01848.x. ISSN 0268-9146. PMC 2721964. PMID 19292708. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2721964.
  48. Stanley, H. F.; Kadwell, M.; Wheeler, J. C. (1994). "Molecular Evolution of the Family Camelidae: A Mitochondrial DNA Study". Proceedings of the Royal Society B: Biological Sciences 256 (1345): 1–6. Bibcode 1994RSPSB.256....1S. doi:10.1098/rspb.1994.0041. PMID 8008753.
  49. Skidmore, J. A.; Billah, M.; Binns, M.; Short, R. V.; Allen, W. R. (1999). "Hybridizing Old and New World camelids: Camelus dromedarius x Lama guanicoe". Proceedings of the Royal Society B: Biological Sciences 266 (1420): 649–56. doi:10.1098/rspb.1999.0685. PMC 1689826. PMID 10331286. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1689826.
  50. "Meet Rama the cama ..." BBC. 21 January 1998. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 October 2012. Cyrchwyd 29 November 2012.
  51. 51.0 51.1 Fahmy, Miral (21 March 2002). "'Cama' camel/llama hybrids born in UAE research centre". Science in the News. The Royal Society of New Zealand. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2013. Cyrchwyd 28 November 2012.
  52. Campbell, Duncan (15 July 2002). "Bad karma for cross llama without a hump". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 August 2013. Cyrchwyd 2 March 2009.
  53. "Joy for world's first camel and llama cross". Metro UK. 6 April 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 November 2012. Cyrchwyd 29 November 2012.
  54. Mukasa-Mugerwa, E. (1981). The Camel (Camelus Dromedarius): A Bibliographical Review. International Livestock Centre for Africa Monograph. 5. Ethiopia: International Livestock Centre for Africa. tt. 1, 3, 20–21, 65, 67–68.Mukasa-Mugerwa, E. (1981).
  55. Harington, C. R. (June 1997). "Ice Age Yukon and Alaskan Camels". Yukon Beringia Interpretive Centre. Government of Yukon, Department of Tourism and Culture, Museums Unit. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 January 2013. Cyrchwyd 3 December 2012.
  56. Bernstein, William J. (6 May 2009). A Splendid Exchange: How Trade Shaped the World. Grove Press. tt. 54–55. ISBN 9780802144164.
  57. North Dakota Industrial Commission Department of Mineral Resources. Poebrotherium. North Dakota State Government. https://www.dmr.nd.gov/ndfossil/poster/PDF/Poebrotherium.pdf. Adalwyd 3 December 2012.
  58. "Fossil camel skull (Poebrotherium sp.)". Science Buzz. Science Museum of Minnesota. January 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 October 2012. Cyrchwyd 3 December 2012.
  59. Heintzman, Peter D.; Zazula, Grant D.; Cahill, James A.; Reyes, Alberto V.; MacPhee, Ross D.E.; Shapiro, Beth (September 2015). "Genomic Data from Extinct North American Camelops Revise Camel Evolutionary History" (yn en). Molecular Biology and Evolution 32 (9): 2433–2440. doi:10.1093/molbev/msv128. ISSN 0737-4038. PMID 26037535. https://academic.oup.com/mbe/article-lookup/doi/10.1093/molbev/msv128.
  60. Rybczynski, Natalia; Gosse, John C.; Richard Harington, C.; Wogelius, Roy A.; Hidy, Alan J.; Buckley, Mike (June 2013). "Mid-Pliocene warm-period deposits in the High Arctic yield insight into camel evolution" (yn en). Nature Communications 4 (1): 1550. Bibcode 2013NatCo...4.1550R. doi:10.1038/ncomms2516. ISSN 2041-1723. PMC 3615376. PMID 23462993. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3615376.
  61. Singh; Tomar. Evolutionary Biology (arg. 8th revised). New Delhi: Rastogi Publications. t. 334. ISBN 9788171336395.
  62. Mukasa-Mugerwa, E. (1981). The Camel (Camelus Dromedarius): A Bibliographical Review. International Livestock Centre for Africa Monograph. 5. Ethiopia: International Livestock Centre for Africa. tt. 1, 3, 20–21, 65, 67–68.Mukasa-Mugerwa, E. (1981).
  63. Harington, C. R. (June 1997). "Ice Age Yukon and Alaskan Camels". Yukon Beringia Interpretive Centre. Government of Yukon, Department of Tourism and Culture, Museums Unit. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 January 2013. Cyrchwyd 3 December 2012.Harington, C. R. (June 1997).
  64. Bernstein, William J. (6 May 2009). A Splendid Exchange: How Trade Shaped the World. Grove Press. tt. 54–55. ISBN 9780802144164.Bernstein, William J. (6 May 2009).
  65. Rybczynski, Natalia; Gosse, John C.; Harington, C. Richard; Wogelius, Roy A.; Hidy, Alan J.; Buckley, Mike (March 5, 2013). "Mid-Pliocene warm-period deposits in the High Arctic yield insight into camel evolution". Nature Communications 4 (3): 1550. Bibcode 2013NatCo...4.1550R. doi:10.1038/ncomms2516. PMC 3615376. PMID 23462993. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3615376.
  66. Buckley, Michael; Lawless, Craig; Rybczynski, Natalia (March 2019). "Collagen sequence analysis of fossil camels, Camelops and c.f. Paracamelus, from the Arctic and sub-Arctic of Plio-Pleistocene North America" (yn en). Journal of Proteomics 194: 218–225. doi:10.1016/j.jprot.2018.11.014. PMID 30468917. https://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S1874391918304044.
  67. Geraads, Denis; Didier, Gilles; Barr, Andrew; Reed, Denne; Laurin, Michel (April 2020). "The fossil record of camelids demonstrates a late divergence between Bactrian camel and dromedary=Acta Palaeontologica Polonica" (yn en). Acta Palaeontologica Polonica 65 (2): 251–260. doi:10.4202/app.00727.2020. ISSN 0567-7920.
  68. Worboys, Graeme L.; Francis, Wendy L.; Lockwood, Michael (30 March 2010). Connectivity Conservation Management: A Global Guide. Earthscan. t. 142. ISBN 9781844076048.
  69. MacPhee, Ross D. E.; Sues, Hans-Dieter (30 June 1999). Extinctions in Near Time: Causes, Contexts, and Consequences. Springer. tt. 18, 20, 26. ISBN 9780306460920.
  70. Worboys, Graeme L.; Francis, Wendy L.; Lockwood, Michael (30 March 2010). Connectivity Conservation Management: A Global Guide. Earthscan. t. 142. ISBN 9781844076048.Worboys, Graeme L.; Francis, Wendy L.; Lockwood, Michael (30 March 2010).
  71. MacPhee, Ross D. E.; Sues, Hans-Dieter (30 June 1999). Extinctions in Near Time: Causes, Contexts, and Consequences. Springer. tt. 18, 20, 26. ISBN 9780306460920.MacPhee, Ross D. E.; Sues, Hans-Dieter (30 June 1999).
  72. Fedewa, Jennifer L. (2000). "Camelus bactrianus". Animal Diversity Web. University of Michigan Museum of Zoology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 May 2013. Cyrchwyd 4 December 2012.Fedewa, Jennifer L. (2000).
  73. Walker, Matt (22 July 2009). "Wild camels 'genetically unique'". Earth News. BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 August 2011. Cyrchwyd 4 December 2012.
  74. "Bactrian Camel: Camelus bactrianus". National Geographic. 10 May 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 November 2012. Cyrchwyd 28 November 2012."Bactrian Camel: Camelus bactrianus" Archifwyd 2010-02-07 yn y Peiriant Wayback..
  75. Mukasa-Mugerwa, E. (1981). The Camel (Camelus Dromedarius): A Bibliographical Review. International Livestock Centre for Africa Monograph. 5. Ethiopia: International Livestock Centre for Africa. tt. 1, 3, 20–21, 65, 67–68.Mukasa-Mugerwa, E. (1981).
  76. Scarre, Chris (15 September 1993). Smithsonian Timelines of the Ancient World. London: D. Kindersley. t. 176. ISBN 978-1-56458-305-5. Both the dromedary (the seven-humped camel of Arabia) and the Bactrian camel (the two-humped camel of Central Asia) had been domesticated since before 2000 BC.
  77. Bulliet, Richard (20 May 1990) [1975]. The Camel and the Wheel. Morningside Book Series. Columbia University Press. t. 183. ISBN 978-0-231-07235-9. As has already been mentioned, this type of utilization [camels pulling wagons] goes back to the earliest known period of two-humped camel domestication in the third millennium B.C.
  78. Richard, Suzanne (2003). Near Eastern Archaeology: A Reader. ISBN 9781575060835. Cyrchwyd 2016-01-08.
  79. Magee, Peter (2016). "When was the dromedary domesticated in the ancient Near East?". Zeitschrift für Orient-Archäologie 253-278: 253–278. https://www.researchgate.net/publication/292977089. Adalwyd 25 May 2021.
  80. Hirst, K. Kris. "Camels". About.com Archaeology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 January 2014. Cyrchwyd 6 February 2014.
  81. Heide, Martin (2011). "The Domestication of the Camel: Biological, Archaeological and Inscriptional Evidence from Mesopotamia, Egypt, Israel and Arabia, and Literary Evidence from the Hebrew Bible". Ugarit-Forschungen 42: 367–68. doi:10.13140/2.1.2090.8161.
  82. Hasson, Nir (Jan 17, 2014). "Hump stump solved: Camels arrived in region much later than biblical reference". Haaretz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 January 2014. Cyrchwyd 30 January 2014.
  83. Sapir-Hen, Lidar; Erez Ben-Yosef (2013). "The Introduction of Domestic Camels to the Southern Levant: Evidence from the Aravah Valley". Tel Aviv 40 (2): 277–285. doi:10.1179/033443513x13753505864089. http://archaeology.tau.ac.il/ben-yosef/pub/Pub_PDFs/Sapir-Hen&Ben-Yosef13_CamelAravah_TelAviv.pdf. Adalwyd 16 February 2014.
  84. Petrie, OJ (1995). Harvesting of textile animal fibres. Food and Agriculture Organization of the United Nations. ISBN 978-92-5-103759-1. Cyrchwyd 14 March 2017.
  85. Cumming, Cunnington, Cunnington, Valerie, CW and PE (2010). The Dictionary of Fashion History. Oxford: Bloomsbury. ISBN 9781847887382.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  86. Fagan, Brian M, gol. (2004). "Transportation". The Seventy Great Inventions of the Ancient World. London: Thames & Hudson. tt. 150–152. ISBN 978-0-500-05130-6.
  87. Gabriel, Richard A. (2007). Soldiers' Lives Through History: The Ancient World. Greenwood Publishing Group. t. xvi. ISBN 9780313333484.
  88. Bhatia, Vimal (23 July 2012). "BSF to ditch camels to ride sand scooters". The Times of India. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 July 2012. Cyrchwyd 4 December 2012.
  89. Gann, Lewis Henry; Duignan, Peter (1972). Africa and the World: An Introduction to the History of Sub-Saharan Africa from Antiquity to 1840. University Press of America. t. 156. ISBN 9780761815204. The camel was acclimatized in Egypt long before the time of Christ and was subsequently adopted by the Berbers of the desert, who used camel cavalry to fight the Romans. The Berbers spread the use of the camel across the Sahara.
  90. Fleming, Walter L. (February 1909). "Jefferson Davis's Camel Experiment". The Popular Science Monthly. 74 (8). Bonnier Corporation. t. 150. ISSN 0161-7370. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-04. Other trials of the camel were made in 1859 by Major D. H. Vinton, who used twenty-four of them in carrying burdens for a surveying party...All in all, he concluded, the camel was much superior to the mule.
  91. Mantz, John (20 April 2006). "Camels in the Cariboo". In Basque, Garnet (gol.). Frontier Days in British Columbia. Heritage House Publishing Co. tt. 51–54. ISBN 9781894384018.
  92. Tariq, M., Rabia, R., Jamil, A., Sakhwat, A., Aadil, A., & Muhammad S., 2010.
  93. "FAOSTAT". www.fao.org. Cyrchwyd 2019-10-25.
  94. Mukasa-Mugerwa, E. (1981). The Camel (Camelus Dromedarius): A Bibliographical Review. International Livestock Centre for Africa Monograph. 5. Ethiopia: International Livestock Centre for Africa. tt. 1, 3, 20–21, 65, 67–68.Mukasa-Mugerwa, E. (1981).
  95. Yagil. Camels Products Other Than Milk.
  96. Madame Guinaudeau (2003). Traditional Moroccan Cooking: Recipes from Fez. London: Serif. ISBN 978-1-897959-43-5.
  97. Aleme, A., D., 2013.
  98. "The amazing characteristics of the camels". Camello Safari. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2012. Cyrchwyd 26 November 2012."The amazing characteristics of the camels".
  99. Rubenstein, Dustin (23 July 2010). "How to Cook Camel". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 October 2012. Cyrchwyd 7 December 2012. He cut the pieces very small and cooked them for a long time. I decided to try something a bit different the following night and cut the pieces a bit bigger and cooked them for less time, as I like my meat rarer than he does. This was a bad idea. It seems that the more you cook camel, the more tender it becomes. So we had what amounted to two pounds or more of rubber for dinner that night.
  100. Jasra, Abdel Wahid; Isani, G. B.; Camel Applied Research and Development Network (2000). Socio-economics of camel herders in Pakistan. The Camel Applied Research and Development Network. t. 164.
  101. Anyone for camel meat?

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]