Kolkata
![]() | |
Math |
Municipal Corporation of West Bengal, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
4,496,694 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Bobby Hakim ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+05:30 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Kolkata district ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
206.08 km² ![]() |
Uwch y môr |
9 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Hooghly ![]() |
Cyfesurynnau |
22.572672°N 88.363882°E ![]() |
Cod post |
700001 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Bobby Hakim ![]() |
![]() | |

Dinas anferth yng ngogledd-ddwyrain India, a phrifddinas talaith Gorllewin Bengal, yw Kolkata (hen enw Calcutta). Ei phoblogaeth swyddogol yw 12 miliwn (1999), ond cred llawer o bobl fod y ffigwr hyd at dair gwaith hynny mewn gwirionedd.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r ddinas yn sefyll, neu'n hytrach yn gorweddian, ar lan ddwyreiniol Afon Hooghly (yn swyddogol, nid yw tref anferth Howrah â'i slymiau anhygoel, ar y lan orllewinol, yn rhan o ddinas Kolkata ei hun).
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl safonau India, nid yw Kolkata'n ddinas hen iawn. Cafodd ei sefydlu tua 300 mlynedd yn ôl gan y Prydeinwyr. Hyd 1911 Calcutta oedd prifddinas yr India Brydeinig. Yn 1686 rhoddodd y Prydeinwyr y gorau i fyw yn ei bost masnachu yn Hooghly, 36 km i fyny'r afon, a symudasant i dri phentref bach - Sutanati, Govindpur a Kalikata. Y pentref olaf a roddodd ei enw i'r ddinas. Yn 1696 codwyd caer fach ar safle BBD Bagh ac yn 1698 rhoddodd ŵyr Aurangzeb ganiatâd swyddogol i'r Prydeinwyr fyw yno.
Tyfodd y pentrefi'n dref bur sylweddol fesul dipyn. Yn 1756 ymosododd Nawab Murshidabad ar y dref. Dihangodd y mwyafrif o'r trigolion Prydeinig ond daliwyd rhai ohonynt a'u carcharu mewn selar ddanddaear lle bu farw nifer dros nos; dyma'r Twll Du Calcutta enwog. Yn 1757 cipiodd Clive o India y dref yn ôl a threfniwyd heddwch â'r nawab. Yn ddiweddarqch yn yr un flwyddyn cododd Siraj-ud-daula yn erbyn y Prydeinwyr ond gorchfygwyd ef a'i gynghreiriaid Ffrengig ym mrwydr dynghedfennol Plassey. Mewn canlyniad codwy caer newydd, gryfach o lawer, a gwnaethpwyd Calcutta'n brifddinas India.
Tyfodd yn gyflym yn hanner cyntaf y 19g. Ym mlynyddoedd olaf y Raj roedd Calcutta yn ganolfan bwysig i ymyrchwyr dros annibyniaeth i India ac felly symudwyd y brifddinas i Ddelhi. Ar ôl annibyniaeth daeth nifer o ffoadurion o ddwyrain Bengal (Bangladesh heddiw) i Galcutta. Mae nifer o bobl o'r cefn gwlad yn symud i'r ddinas bob blwyddyn hefyd ac mae'r boblogaeth yn cynyddu mewn canlyniad. Erbyn heddiw mae gor-boblogaeth yn broblem anferth yn y ddinas.
"Kolkata" fu'r enw mewn Bengaleg erioed, ond yn 2001 newidiwyd yr enw yn swyddogol o "Calcutta" i "Kolkata".
Atyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymhlith atyniadau Kolkata gellid crybwyll Amgueddfa India a Teml Kalighat, Pont Howrah, y Maidan (parc), y Gerddi Botanegol a'r Farchnad Newydd. Yng nghanol y ddinas rhan o'r awyrgylch yw'r hen adeiladau crand o gyfnod y Raj, er enghraifft swyddfeydd llywodraeth Gorllewin Bengal ar sgwâr hanesyddol BBD Bagh (Sgwâr Dalhousie).
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- William Jones, ieithegwr
- Rabindranath Tagore
- Y Fam Teresa
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cofforaeth Ddinesig Kolkata
- Kolkata City Information spanish Archifwyd 2013-06-07 yn y Peiriant Wayback.
- Kolkata City Information
- Awdurdod Datblygu Dinesig Kolkata
- Popeth am y ddinas
- Llywodraeth Gorllewin Bengal
- Map o'r ddinas[dolen marw]
- Gwybodaeth ymarferol, Map, Dolenni, Lluniau & Ryseitiau bwyd
- Y Tywydd heddiw yn Kolkata
- Albym Lluniau gan aelodau o luoedd arfog UDA, 1945 Archifwyd 2008-05-12 yn y Peiriant Wayback.
- Lluniau o Calcutta @ Flickr
- Kolkata: Dinas Palasau
- Calcuttaweb: arweiniad cynhwysfawr i'r ddinas
- Calcutta heddiw
- Map rhyngweithredol o'r ddinas yn Google Maps API Archifwyd 2007-02-21 yn y Peiriant Wayback.