William Jones (ieithegwr)

Oddi ar Wicipedia
William Jones
Syr William Jones; engrafiad ar ôl portread gan Joshua Reynolds (1723–1792)
Ganwyd28 Medi 1746 Edit this on Wikidata
Westminster, Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ebrill 1794 Edit this on Wikidata
o llid Edit this on Wikidata
Kolkata Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr, Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethanthropolegydd, ieithydd, barnwr, cyfieithydd, bardd, ysgrifennwr, botanegydd, gwleidydd, dwyreinydd Edit this on Wikidata
Swyddbarnwr Edit this on Wikidata
TadWilliam Jones Edit this on Wikidata
MamMari Jones Edit this on Wikidata
PriodAnna Maria Shipley Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.

Ieithegwr, Indolegwr, ysgolhaig, Prif Ustus India a llywydd yr Asiatic Society of Bengal oedd Syr William Jones (28 Medi 174627 Ebrill 1794). Ganwyd yn Westminster, Llundain, o dras Cymreig: ei dad oedd y mathemategydd Cymreig William Jones.

Beddrod William Jones yn Kolkata

Jones a chydnabyddiaeth teulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd[golygu | golygu cod]

Cofir William Jones heddiw yn bennaf am gofnodi'r berthynas hanesyddol rhwng mwyafrif ieithoedd Ewrop at ei gilydd ac at ieithoedd gogledd India, hynny yw, am gydnabod teulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Roedd ieithyddion cynharach, megis James Parsons ym 1767, wedi adnabod y berthynas hon a sylwi arni, ond William Jones oedd y cyntaf i sylwebu arno mewn ffordd flaengar, er iddo ddefnyddio'r term "ieithoedd Japhetig" i'w disgrifio yn hytrach na'r term modern cyfarwydd. Mae ei sylwadau mewn darlith ar ddiwylliant India ym 1786, yn cydnabod i ieithoedd Ewrop a gogledd India, yn enwedig yr iaith Sansgrit, darddu o'r un ffynhonnell, wedi dod yn fydenwog fel cychwyn ieitheg gymharol fodern:

The Sanskrit language, whatever may be its antiquity, is of wonderful structure; more perfect than the Greek, more copious than the Latin, and more exquisitely refined than either; yet bearing to both of them a stronger affinity, both in the roots of verbs and in the forms of grammar, than could have been produced by accident; so strong that no philologer could examine all the three without believing them to have sprung from some common source, which, perhaps, no longer exists. There is a similar reason, though not quite so forcible, for supposing that both the Gothic and Celtic, though blended with a different idiom, had the same origin with the Sanskrit; and the old Persian might be added to the same family.

Seilir gwaith prif ieithegwyr cymharol y 19g, megis Rasmus Rask, Franz Bopp, August Schleicher a Jakob Grimm, ar y sylwadau hyn.

Jones a diwylliant India[golygu | golygu cod]

Ym marn William Jones, roedd gan bobl Ewrop chwaeth a rheswm, ond roedd yr Asiaid ar y llaw arall wedi esgyn "to loftier heights in the sphere of imagination".[1]

Cyfieithodd Jones ac ysgolheigion eraill lenyddiaeth India mewn ymdrech i ailgipio'r 'oes aur' a gafwyd cyn yr Oesoedd Canol a theyrnasoedd Islamaidd yr isgyfandir. Darparodd ddau gyfieithiad penodol: y Gitagovinda gan Jayadeva o'r 10g a gyfieithiodd ym 1792, a'r ddrama Sakuntala gan Kalidasa ym 1789, testun sy'n dyddio o'r ganrif gyntaf OC. Roedd y ddau gyfieithiad hyn yn boblogaidd iawn yn Ewrop a honnai Jones mai hwy oedd yn bennaf gyfrifol am greu "delwedd" o India a ystyriwyd yn gynrychioliad dilys o'i diwylliant. Fodd bynnag, yn ei gyfieithiadau o destunau Asiaidd, lluniodd Jones a'i gyfoedion y gweithiau i greu "delwedd" a fyddai'n gweddu i'r chwaeth Ewropeaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sengupta, Mashasweta, 'Translation as Manipulation', yn Dingwaney a Maier (gol.), Between Languages and Cultures: Translation and Cross-Cultural Texts