Mari Jones
Mari Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
16 Rhagfyr 1784 ![]() |
Bu farw |
28 Rhagfyr 1864 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
- Am y bregethwraig, gweler Goleuadau Egryn.
Roedd Mary Jones (16 Rhagfyr 1784 - 28 Rhagfyr 1864) yn ferch i wehydd o Lanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionnydd. Yn ôl arferiad yr oes, oherwydd mai Saeson oedd yn cofrestru genedigaethau 'Mary' a sgwennwyd ar ei thystysgrif geni, ond 'Mari' fyddai ei henw o ddydd i ddydd. bu farw yn 80 oed.
Yn ferch ifanc bymtheg oed, yn 1800, dywedir iddi gerdded yn droednoeth o bwthyn bach y teulu, "Ty'n y Ddôl", Llanfihangel-y-pennant i Abergynolwyn, drwy'r Brithdir yr holl ffordd i'r Bala er mwyn prynu Beibl gan y Methodist enwog Thomas Charles. Yn ôl traddodiad dyna'r digwyddiad a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804.
Bu farw'n 80 oed a'i chladdu ym Mryn-crug ble ceir cofeb iddi.
Cofadail yn Llanfihangel-y-pennant[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar flaen y gofadail i Mari Jones a godwyd ar safle adfeilion y bwthyn lle trigai yn Llanfihangel-y-pennant, ger pen gogleddol Pont Ty'n-y-fach, ceir yr arysgrif ddwyieithog hon:
YR HON YN Y FLWYDDYN 1800, LLE HWN I'R BALA, I YMOFYN BEIBL
|
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
|