Robert Oliver Rees

Oddi ar Wicipedia
Robert Oliver Rees
Ganwyd1818 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd22 Mai 1818 Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 1881 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethapothecari, cyhoeddwr, awdur, llyfrwerthwr Edit this on Wikidata

Roedd Robert Oliver Rees (Mai, 181812 Chwefror, 1881) yn fferyllydd, llyfrwerthwr, cyhoeddwr a llenor Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rees yn Nolgellau, yn blentyn i Ellis Rees, siopwr a thafarnwr a Catherine (née Oliver) ei wraig. Dydy union ddyddiad ei eni ddim yn wybyddus, ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys St Mair, Dolgellau ar 22 Mai 1818.[2]. Roedd ei fam yn hanu o deulu Owen, Pantphylip, Llangelynnin, felly roedd Rees yn gallu olrhain ei achau i'r Barwn Lewis Owen ac Ednywain ap Bradwen, un o sylfaenwyr Bymtheg Llwyth Gwynedd.[3]

Fe'i haddysgwyd yn ysgol ramadeg Dolgellau lle ddaeth yn hyddysg mewn Lladin a Groeg. Gan ei fod wedi ei fedyddio yn yr Eglwys wladol cafodd gynnig ysgoloriaeth gan yr eglwys i fynd i brifysgol Rhydychen, pe bai'n ymrwymo i fod yn offeiriad Anglicanaidd wedi graddio. Gan ei fod o erbyn hynny wedi cael tröedigaeth efengylaidd ac wedi dechrau mynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd, gwrthododd y cynnig.[4]

Roedd y Blue Lion, tafarn tad Oliver, yn fan cyfarfod Cymdeithas Cymreigyddion Dolgellau a thrwy hynny daeth dan ddylanwad y beirdd a'r llenorion bu'n cyfarfod yn y dafarn pob wythnos.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi ymadael a'r ysgol bu Rees yn astudio meddygaeth fel prentis o dan Dr Evans feddyg teulu lleol, roedd i fod i aros yn ei brentisiaeth am 5 mlynedd ond wedi 3 blynedd, penderfynwyd nad oedd yn ddigon cryf o gorff i barhau yn y swydd . Symudodd i Aberystwyth am gyfnod lle fu yn dysgu fferylliaeth dan ŵr o'r enw Mr Humphreys. Ar ôl ei gyfnod yn Aberystwyth bu'n gweithio mewn siopau fferyllydd yn Llundain a Lerpwl. Ym 1842 dychwelodd i Ddolgellau i agor siop fferyllydd ei hun. Gan nad oedd siop lyfrau yn Nolgellau dechreuodd gwerthu llyfrau o'i siop fferyllydd.[5]

O 1846 ymlaen bu'n gyfrannwr rheolaidd i'r "Traethodydd", cylchgrawn dan olygyddiaeth ei gyfaill maboed y Parch Roger Edwards. Roedd  yn cyfrannu erthyglau ar bynciau llenyddol a gwyddonol gan amlaf.[4]

Dechreuodd ei yrfa fel cyhoeddwr o ganlyniad i fynd i gyfarfod cystadleuol cylch llenyddol Dolgellau. Roedd rhai o'r darnau prawf yn gerddi gan y bardd lleol Dafydd Ionawr. Cododd hyn diddordeb Rees yng ngwaith y bardd. Cafodd nad oedd casgliad cyflawn o waith Dafydd Ionawr ar glawr a phenderfynodd ganfod gymaint o waith yr hen fardd a galliasai ac i'w cyhoeddi mewn un gyfrol. Roedd y gyfrol hefyd yn cynnwys cofiant i Dafydd Ionawr a ysgrifennwyd gan Oliver Rees. Bu llwyddiant a derbyniad Gwaith Dafydd Ionawr mor dda fel yr aeth ati i gyhoeddi nifer o lyfrau eraill:

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Cysondeb y Pedair Efengyl—sef cyfieithiad o waith y Diwinydd Americanaidd Edward Robinson, A harmony of four Gospels in Greek, according to the text of Hahn[6]
  • Caniadau Cranogwen.[7]
  • Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd[8]

Crefydd[golygu | golygu cod]

Derbyniwyd Oliver Rees yn aelod cyflawn o'r Methodistiaid Calfinaidd pan oedd yn 17 oed. Cafodd ei benodi yn flaenor yng Nghapel Salem Dolgellau ym 1853[10] a phan agorodd yr enwad capel newydd, Bethel, ym 1877 fe'i symudwyd yno fel blaenor profiadol i arolygu'r achos newydd.[11] Gwasanaethodd fel athro dosbarth y dynion ifanc yn ysgol Sul Salem am gyfnod hir. Er bod ei dad a'i daid yn dafarnwyr ac iddo gael ei fagu mewn tafarn bu'n aelod selog o'r achos dirwest. Bu yn arweinydd y Gobeithlu a'r Temlwyr Da ac yn ymgyrchydd o blaid cael deddf i gau tafarnau ar y Sul.[12]

Cododd arian i sicrhau bod carreg dilwng yn cael ei osod ar fedd Mari Jones[13] a fu'n flaenllaw yn yr ymgyrch i godi cofgolofn i Thomas Charles yn y Bala a chofgolofn ei gyfaill Ieuan Gwynedd.[14]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ni fu Rees yn briod

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o glefyd y galon yn ei gartref yn Nolgellau yn  62 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y Marian Dolgellau gerllaw bedd ei rieni.[15]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "REES, ROBERT OLIVER (1819 - 1881), fferyllydd, cyhoeddwr llyfrau, a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-09-11.
  2. Adysgrifau'r Esgob, Eglwys St Mair, Dolgellau 1818
  3. "Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/245 - Wicidestun". cy.wikisource.org. Cyrchwyd 2022-09-11.
  4. 4.0 4.1 4.2 Owen, Robert (1889). Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionnydd . I. Dolgellau: E. W. Evans. tt. 387–391.
  5. "Y Diweddar Mr ROBERT OLIVER REES Dolgellau - Y Dydd". William Hughes. 1881-02-18. Cyrchwyd 2022-09-11.
  6. Robinson, Edward (1853). A harmony of four Gospels in Greek, according to the text of Hahn. Princeton University. Boston, Crocker and Brewster.
  7. Caniadau. Robert Oliver Rees. 1870.
  8. Jones, Evan (1876). Gweithiau barddonol a rhyddieithol Ieuan Gwynedd: ei fywyd a'i lafur. R.O. Rees.
  9. Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl ar Wicidestun
  10. Owen, Robert (1889). Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I . Dolgellau: Evan William Evans. tt. 387–391.
  11. "Blaenoriaid Ymadawedig". Y Drysorfa 605: 109. Mawrth 1881. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2635491/2776916/28#?xywh=-133%2C504%2C2575%2C2316.
  12. "CYFARFOD DIRWESTOL - Y Dydd". William Hughes. 1876-11-10. Cyrchwyd 2022-09-11.
  13. "Cofadail Mary Jones - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1907-06-13. Cyrchwyd 2022-09-11.
  14. "COFGOLOFN IEUAN GWYNEDD - Yr Amserau". Michael James Whitty & William Ellis. 1852-09-01. Cyrchwyd 2022-09-11.
  15. "Marwolaeth a Chladdedigaeth Mr R O REES Dolgellau - Y Goleuad". John Davies. 1881-02-19. Cyrchwyd 2022-09-11.