Cymdeithas y Beibl
Gwedd
| Enghraifft o: | sefydliad elusennol, Bible society, Christian missionary organization |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 7 Mawrth 1804 |
| Sylfaenydd | William Wilberforce |
| Aelod o'r canlynol | United Bible Societies |
| Gweithwyr | 130, 134, 146, 148, 127, 157, 166 |
| Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
| Pencadlys | Swindon |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.biblesociety.org.uk/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02s7dz |
Cymdeithas anenwadol i gyflenwi copïau o'r Beibl trwy'r byd yw Cymdeithas y Beibl, yr enw llawn yw Y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor (Saesneg: British and Foreign Bible Society).
Ffurfiwyd y gymdeithas yn Llundain ar 4 Mawrth 1804. Rhoddwyd y sbardun i greu'r gymdeithas pan gerddodd Mary Jones 25 milltir o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i geisio prynu Beibl gan Thomas Charles.
Ar ymweliad a Llundain yn nechrau 1802, soniodd wrth nifer o gyfeillion am yr hanes, gan bwysleisio'r prinder o Feiblau Cymraeg. Ymhlith y rhai oedd yn amlwg yn y gymdeithas yn ei dyddiau cynnar roedd William Wilberforce. Erbyn hyn, mae gwaith y gymdeithas wedi lledu ar draws y byd.