Ffoadur

Oddi ar Wicipedia
Ffoadur
Enghraifft o'r canlynoldosbarth cymdeithasol, galwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathperson dadleoledig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffoaduriaid o Syria ac Affganistan yn Dobova, Slofenia, 23 Hydref 2015
Gwersyll i ffoaduriaid Rwandaidd yn Saïr, 1994

Person sy'n ffoi rhag rhywbeth neu'i gilydd yw ffoadur (Saesneg: refugee). Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn ei ddiffinio fel:

Owing to a well-founded fear of being persecuted for reasons of race, religion, nationality, membership of a particular social group, or political opinion, is outside the country of their nationality, and is unable to or, owing to such fear, is unwilling to avail him/herself of the protection of that country.

Gelwir person sy'n ceisio gael ei adnabod fel ffoadur yn geisiwr lloches.

'Cenedl Noddfa - fideo-animeiddiad gan Lywodraeth Cymru.

Arweinir cydgordio mewn argyfwng gan Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR). Ar Ragfyr 2006, y gwledydd oedd â'r niferoedd mwyaf o ffoaduriaid oedd: Palesteina, Affganistan, Irac, Myanmar a Swdan. Y flwyddyn honno roedd 8.4 miliwn o ffoaduriaid wedi cofrestru'n swyddogol ledled y byd - y swm lleiaf ers 1980.[1] Erbyn 2015 roedd adroddiad gan UNHCR yn datgan fod 21.3 miliwn: 16.1 dan ofalaeth UNHCR a 5.2 miliwn o Balisteiniaid, dan ofalaeth UNRWA. Y grŵp mwyaf yn 2015 oedd y ffoaduriaid o Syria (4.9 miliwn).[2] Y flwyddyn cyn hynny, o Affganistan y daeth y grŵp mwyaf, yn flynyddol am y 30 mlynedd cyn hynny.[3] Yn 2016 y gwledydd a wedi cymryd y mwyaf o ffoaduriaid, yn ôl UNHCR, oedd Twrci (2.5 miliwn), Pacistan (1.6 miliwn) a Libanus (1.1 miliwn).[2] Yn 2015, roedd cyfanswm y ffoaduriaid ledled y byd yn uwch nag a fu ar unrhyw gyfnod arall (ers cadw cofnodion).[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Refugees by Numbers 2006 edition, UNHCR
  2. 2.0 2.1 "Global Trends: Forced Displacement 2015". UNHCR. 20 Mehefin 2016. Cyrchwyd 20 Mehefin 2016.
  3. "UNHCR – Global Trends –Forced Displacement in 2014". UNHCR. 18 Mehefin 2015.
  4. "Refugees at highest ever level, reaching 65m, says UN". BBC News. 20 Mehefin 2016. Cyrchwyd 20 Mehefin 2016.