Canser yr ysgyfaint
| Enghraifft o: | math o glefyd |
|---|---|
| Math | canser y system resbiradol, lung neoplasm |
| Arbenigedd meddygol | Oncoleg |
| Symptomau | Poen y frest, peswch, hemoptysis, blinder meddwl, colli pwysau, anorecsia, diffyg anadl, gwichian wrth anadlu |
| Achos | Asbestosis |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04p3w |
| OMIM | 211980, 608935, 612593, 614210, 612571 |
| UMLS CUI | C0024624, c0153491, c0153492, c0153493 |
| Quora | Lung-cancer |
Mae canser yr ysgyfaint, a elwir hefyd yn garsinoma'r ysgyfaint,[1] yn diwmor ysgyfaint ffyrnig lle mae celloedd ym meinweoedd yr ysgyfaint yn tyfu'n afreolus.[2] Gall y fath dwf ledaenu tu hwnt i'r ysgyfaint drwy broses metastasis, a hynny i feinweoedd cyfagos neu hyd yn oed rannau eraill o'r corff.[3] Mae'r rhan fwyaf o ganserau sy'n dechrau yn yr ysgyfaint, a elwir yn ganserau sylfaenol yr ysgyfaint, yn garsinomâu. Y ddau brif fath yw carsinoma ysgyfaint celloedd bychain (SCLC) a charsinoma ysgyfaint digelloedd bychain (NSCLC).[4] Ymhlith y symptomau mwyaf cyffredin y mae peswch (gan gynnwys peswch gwaed), colli pwysau, prinder anadl, a phoenau ynghylch y frest.[5]
Achosir y mwyafrif helaeth (85%) o achosion canser yr ysgyfaint gan arfer ysmygu tybaco hirdymor.[6] Ceir tua 10–15% o achosion mewn pobl nad ydynt erioed wedi ysmygu.[7] Dim ond oddeutu 10-15% o ddioddefwyr sydd heb arferiad ysmygu. Mae'n bosib esbonio'r achosion hynny drwy gyfuniad o ffactorau genetig ynghyd â datguddiad i nwy radon, asbestos, mwg ail-law, neu fathau eraill o lygredd amgylcheddol.[6] Gellir archwilio canser yr ysgyfaint drwy radiograffau'r frest a sganiau tomograffeg cyfrifiadurol (CT). Caiff diagnosis ei gadarnhau gan fiopsi sydd fel arfer yn cael ei berfformio gan froncosgopi neu gyfarwyddyd CT.[8]
Rhaid osgoi ffactorau risg sylfaenol er mwyn atal y clefyd, er enghraifft ysmygu a datguddiad i amgylched llygredig.[9] Mae'r driniaeth a roddir a'r canlyniadau hirdymor yn ddibynnol ar y math o ganser, y bennod (graddfa lledaenu), ynghyd ag iechyd cyffredinol y dioddefwr. Ni ellir gwella'r rhan fwyaf o achosion. Mae'r triniaethau cyffredin yn cynnwys llawdriniaethau, cemotherapi a radiotherapi. Caiff NSCLC ei drin yn achlysurol drwy lawdriniaeth, fel arfer y mae SCLC yn ymateb yn well i gemotherapi a radiotherapi.[10]
Yn 2012, effeithiodd canser yr ysgyfaint ar 1.8 miliwn o bobl ar draws y byd, gan arwain at 1.6 miliwn o farwolaethau.[11] Hwn felly sy'n achosi'r nifer mwyaf o farwolaethau cysylltiedig â chanser ymysg dynion, a'r nifer mwyaf cyffredin ond un ymysg menywod, ar ôl canser y fron.[12] Yr oedran mwyaf cyffredin ar gyfer diagnosis yw 70. Yn yr Unol Daleithiau, yn yr un flwyddyn, goroesodd 17.4% o ddioddefwyr am bum mlynedd o leiaf wedi eu diagnosis,[13] ond y mae'r cyfartaledd hwnnw dipyn yn is yn y byd sy'n datblygu.[14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Lung Carcinoma: Tumors of the Lungs". Merck Manual Professional Edition, Online edition. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Awst 2007. Cyrchwyd 15 Awst 2007.
- ↑ "Non-Small Cell Lung Cancer Treatment – Patient Version (PDQ®)". NCI. 12 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Chwefror 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016.
- ↑ Falk, S; Williams, C (2010). "Pennod 1". Lung Cancer—the facts (arg. 3ydd). Oxford University Press. tt. 3–4.
- ↑ "Lung Cancer—Patient Version". NCI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016.
- ↑ Horn, L; Lovly, CM; Johnson, DH (2015). "Pennod 107: Neoplasms of the lung". In Kasper, DL; Hauser, SL; Jameson, JL; Fauci, AS; Longo, DL; Loscalzo, J (gol.). Harrison's Principles of Internal Medicine (arg. 19eg). McGraw-Hill.
- 1 2 Alberg, AJ; Brock, MV; Samet, JM (2016). "Pennod 52: Epidemiology of lung cancer". Murray & Nadel's Textbook of Respiratory Medicine (arg. 6ed). Saunders Elsevier.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ "Lung cancer occurrence in never-smokers: an analysis of 13 cohorts and 22 cancer registry studies". PLoS Medicine 5 (9): e185. Medi 2008. doi:10.1371/journal.pmed.0050185. PMC 2531137. PMID 18788891. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2531137.
- ↑ Lu C, Onn A, Vaporciyan AA, et al. (2010). "Pennod 78: Cancer of the Lung". Holland-Frei Cancer Medicine (arg. 8fed). People's Medical Publishing House.
- ↑ "Lung Cancer Prevention–Patient Version (PDQ®)". NCI. 4 Tachwedd 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016.
- ↑ Chapman, S; Robinson, G; Stradling, J; West, S; Wrightson, J (2014). "Pennod 31". Oxford Handbook of Respiratory Medicine (arg. 3ydd). Oxford University Press. t. 284.
- ↑ World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Pennod 5.1.
- ↑ World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Pennod 1.1.
- ↑ "Surveillance, Epidemiology and End Results Program". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016.
- ↑ Majumder, edited by Sadhan (2009). Stem cells and cancer (arg. Online-Ausg.). New York: Springer. t. 193. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Hydref 2015.CS1 maint: extra text: authors list (link)