Karachi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Karachi
Karachi from above.jpg
CDGKlogo.png
Mathmetropolis, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
PrifddinasGulshan Town Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,910,352 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1729 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wrdw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSindh Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Arwynebedd3,527 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr8 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau24.86°N 67.01°E Edit this on Wikidata
Cod post74000–75900 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholKarachi Metropolitan Corporation Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Karachi Edit this on Wikidata

Karachi ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yw'r ddinas fwyaf ym Mhacistan ac un o'r deg o ddinasoedd mwyaf poblog, gyda dros 14,910,352 (2017)[1] o bobl yn byw ynddi.[2][3] Mae wedi'i lleoli ar Fôr Arabia fymryn i'r gogledd o'r man lle mae Afon Indus yn rhedeg i'r môr ar ddiwedd ei thaith hir o fynyddoedd y Karakoram. Karachi yw prif borthladd Pacistan. Karachi yw dinas fwyaf cosmopolitaidd Pacistan, yn amrywiol o ran iaith, yn ethnig ac yn grefyddol,[4] yn ogystal a bod yn un o ddinasoedd mwyaf seciwlar a rhyddfrydol Pacistan.[5][6][7] Y ddinas yw prif ganolfan ddiwydiannol ac ariannol Pacistan, gydag amcangyfrif o CMC o $ 164 biliwn (PPP) yn 2019.[8]

Yn ddinas fodern, datblygodd yn gyflym fel porthladd yn ystod y 19g. Yn 1947 daeth yn brifddinas y Bacistan newydd a llifodd nifer fawr o ffoaduriaid i mewn i ddinas oedd eisoes yn llawn i'r ymylon. Gwellhaodd y sefyllfa i raddau pan symudwyd y brifddinas i Islamabad yn 1959 a chychwynwyd ar raglen o adeiladu bwrdeistrefi o gwmpas y ddinas yn y 1960au.

Marchnad yn y ddinas

Galwyd hi'n "Ddinas y Goleuadau" yn y 1960au a'r 1970au oherwydd ei bywyd nos bywiog.[9] Yn yr 1980au, fodd bynnag, roedd Karachi;n llawn o wrthdaro ethnig, sectyddol a gwleidyddol, gyda dyfodiad arfau o bob lliw a maint, yn ystod y Rhyfel Sofietaidd-Afghanistan.[10] Erbyn y 2020au roedd Karachi wedi dod yn gartref i fwy na dwy filiwn o fewnfudwyr Bangladeshaidd, miliwn o ffoaduriaid o Affganistan, a hyd at 400,000 o Rohingyas o Myanmar.[11][12]

Karachi yw prif borthladd filwrol y wlad. Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch taleithiau amaethyddol Sind a Punjab yn pasio drwy'r borth. Ymhlith y prif ddiwylliannau ceir: brethyn, cemegau, a serameg.

Un o'r ychydig atyniadau pensaernïol amlwg yn y ddinas yw Mazar-e-Quaid, beddrod Jinnah, sefydlwr Pacistan.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl pob sôn, sefydlwyd Karachi modern ym 1729 fel anheddiad Kolachi-jo-Goth.[13] Dywedir i'r anheddiad newydd gael ei enwi er anrhydedd i Mai Kolachi, y dywedir bod ei mab wedi lladd crocodeil a oedd wedi bwyta'i frawd hynaf gael eu lladd ganddo eisoes. Defnyddiwyd yr enw Karachee, fersiwn fyrrach a llygredig yr enw gwreiddiol Kolachi-jo-Goth, am y tro cyntaf mewn adroddiad o'r Iseldiroedd a sgwennwyd yn 1742 am longddrylliad ger yr fan.[13][14]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r rhanbarth o amgylch Karachi wedi bod yn safle i bobl fyw ynddo ers milenia. Cloddiwyd safleoedd Hen Oes y Cerrig (Paleolithig) a Oes Ganol y Cerrig (Mesolithig Uchaf) ym Mryniau Mulri ar hyd cyrion gogleddol Karachi. Credir mai helwyr-gasglwyr oedd y trigolion cynharaf hyn, gydag offer fflint hynafol wedi'u darganfod mewn sawl safle.

Credir bod rhanbarth eang Karachi yn hysbys i'r hen Roegiaid, ac efallai mai dyma'r safle a elwyd yn "Barbarikon", porthladd hynafol a oedd wedi'i leoli yng ngheg gyfagos Afon Indus. Cyfeirir at Karachi hefyd fel "Ramya" mewn testunau Groegaidd hynafol.[15][16][17]

Efallai bod safle hynafol Krokola, harbwr naturiol i'r gorllewin o'r Indus lle hwyliodd Alecsander Fawr ei longau ar gyfer Achaemenid Assyria, wedi'i leoli ger ceg Afon Malir Karachi,[18][19][20] er bod rhai'n credu ei fod wedi'i leoli ger Gizri.[21][22] Nid oes harbwr naturiol arall yn bodoli ger ceg yr Indus a allai ddarparu ar gyfer cymaint o longau.[23]

Yn 711 CE, fe orchfygodd Muhammad bin Qasim Ddyffryn Sindh ac Indus a phorthladd Debal, ac oddi yno y lawnsiodd ei luoedd ymhellach i Ddyffryn Indus yn 712.[24] Mae rhai wedi uniaethu’r porthladd â Karachi, er bod rhai yn dadlau bod y lleoliad rywle rhwng Karachi a dinas gyfagos Thatta.[25][26]

Beddrodau Chaukhandi o'r 15g-18g wedi'u lleoli 29 km (18 milltir) i'r dwyrain o Karachi.
Cipiwyd Caer Manora, a adeiladwyd ym 1797 i amddiffyn Karachi, gan Loegr ar 3 Chwefror 1839.

O dan Mirza Ghazi Beg, gweinyddwr Mughal Sindh, anogwyd datblygiad arfordir Sindh a Delta Afon Indus. O dan ei reolaeth ef, roedd amddiffynfeydd y rhanbarth yn effeithiol yn erbyn cyrchoedd Portiwgalaidd a geisiant ymosod ar Sindh. Yn 1553–54, soniodd y llyngesydd Otomanaidd Seydi Ali Reis, am borthladd bach ar hyd arfordir Sindh o’r enw Kaurashi a allai fod yn Karachi.[27][28][29] Adeiladwyd beddrodau Chaukhandi ym maestrefi modern Karachi tua'r adeg hon rhwng y 15g a'r 18g.

Y goresgyniad "Prydeinig"[golygu | golygu cod y dudalen]

Amcangyfrifir bod poblogaeth Karachi ar y pryd rhwng 8,000 a 14,000[30], ac roedd wedi'i gyfyngu i'r ddinas gaerog ym Mithadar, gyda maestrefi yn yr hyn sydd bellach yn Chwarter Serai.[31]

Sefydlodd milwyr Prydain, a lusenwyd yn "Company Bahadur" wersyll i'r dwyrain o'r ddinas wedi iddynt ei goresgyn, a ddaeth yn rhagflaenydd y Treganna (neu Cantonment) Karachi modern. Datblygodd y Prydeinwyr Dreganna Karachi ymhellach fel garsiwn milwrol i gynorthwyo ymdrech rhyfel Prydain yn y Rhyfel Eingl-Afghanistan Cyntaf.[32]

Symudwyd prifddinas Sindh o Hyderabad i Karachi ym 1840 hyd 1843, pan atodwyd Karachi i’r Ymerodraeth Brydeinig ar ôl i’r Uwchfrigadydd Charles James Napier gipio gweddill Sindh yn dilyn ei fuddugoliaeth yn erbyn y Talpurs ym Mrwydr Miani. Yn dilyn uniad 1843, unwyd y dalaith gyfan o fewn "Arlywyddiaeth Bombay" am y 93 mlynedd nesaf. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1846, dioddefodd Karachi achos mawr o golera, a arweiniodd at sefydlu Bwrdd Cholera Karachi (rhagflaenydd llywodraeth ddinesig y ddinas).[33]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Pakistan's 10 most populous cities revealed". 28 Awst 2017. Cyrchwyd 22 Ionawr 2021.
  2. "Maint poblogaeth a thwf dinasoedd mawr" (PDF). Pakistan Bureau of Statistics. 1998.
  3. Amer, Khawaja (10 Mehefin 2013). "Population explosion: Put an embargo on industrialisation in Karachi". The Express Tribune. Cyrchwyd 16 Mehefin 2017.
  4. Inskeep, Steve (2012). Instant City: Life and Death in Karachi. Penguin Publishing Group. t. 284. ISBN 978-0-14-312216-6. Cyrchwyd 30 Hydref 2016.
  5. Paracha, Nadeem F. "Visual Karachi: From Paris of Asia, to City of Lights, to Hell on Earth". Dawn. Cyrchwyd 8 March 2016.
  6. Abbas, Qaswar. "Karachi: World's most dangerous city". India Today. Cyrchwyd 24 Hydref 2016. Karachi, Pakistan's largest city, with a population of approx. 3.0 crore (Mumbai has 2 crore people) is the country's most educated, liberal and secular metropolis.
  7. "Pakistani journalists face threats from Islamists". Deutsche Welle. Cyrchwyd 24 Hydref 2016. This all happened in the heart of KarachiNodyn:Snda relatively liberal city with a population of more than 15 million.
  8. "PIGJE". pigje.com.pk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Medi 2014. Cyrchwyd 25 Chwefror 2016.
  9. Gayer, Laurent (2014). Karachi: Ordered Disorder and the Struggle for the City. Oxford University Press. t. 18. ISBN 978-0-19-023806-3.
  10. "2011 brings a violent and bloody year of ethnic conflict to Karachi, Pakistan". Public Radio International. 19 Ionawr 2012. Cyrchwyd 16 Hydref 2016.
  11. "Falling back". Daily Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Awst 2011. Cyrchwyd 24 Awst 2010.
  12. "Chronology for Biharis in Bangladesh". Center for International Development and Conflict Management, University of Maryland. 10 Ionawr 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2010. Cyrchwyd 6 Mai 2010.
  13. 13.0 13.1 Askari, Sabiah (2015). Studies on Karachi: Papers Presented at the Karachi Conference 2013. Cambridge Scholars Publishing. ISBN 978-1-4438-7744-2. Cyrchwyd 30 Hydref 2016.
  14. Gayer, Laurent (2014). Karachi: Ordered Disorder and the Struggle for the City (yn Saesneg). Oxford University Press. ISBN 978-0-19-935444-3.
  15. Whitfield, Susan (2018). Silk, Slaves, and Stupas: Material Culture of the Silk Road. University of California Press. t. 118. ISBN 978-0-520-95766-4.
  16. Tan, Chung; Geng, Yinzeng (2005). India and China: twenty centuries of civilization interaction and vibrations. Project of History of Indian Science, Philosophy and Culture, Centre for Studies in Civilizations. ISBN 978-81-87586-21-0.
  17. The Month (yn Saesneg). 1912.
  18. Kapoor, Subodh (2002). Encyclopaedia of Ancient Indian Geography (yn Saesneg). Cosmo Publications. ISBN 978-81-7755-298-0.
  19. Pithawalla, Maneck B. (1950). An Introduction to Karachi: Its Environs and Hinterland. Times Press.
  20. Pithawalla, Maneck B. (1959). A Physical and Economic Geography of Sind: The Lower Indus Basin. Sindhi Adabi Board.
  21. Samad, Rafi U. (2002). The Greeks in ancient Pakistan (yn Saesneg). Indus Publications. ISBN 978-969-529-001-9.
  22. McCrindle, John Watson (1896). The Invasion of India by Alexander the Great as Described by Arrian, Q. Curtius, Diodoros, Plutarch and Justin: Being Translations of Such Portions of the Works of These and Other Classical Authors as Describe Alexander's Campaigns in Afghanistan, the Punjâb, Sindh, Gedrosia and Karmania (yn Saesneg). A. Constable and Company.
  23. Pithawalla, Maneck B. (1938). Identification and description of some old sites in Sind and their relation with the physical geography of the region (yn Saesneg).
  24. [1] Archifwyd 24 September 2013 yn y Peiriant Wayback.
  25. Cunningham, Alexander (28 Mawrth 2013). The Ancient Geography of India: The Buddhist Period, Including the Campaigns of Alexander, and the Travels of Hwen-Thsang (yn Saesneg). Cambridge University Press. ISBN 978-1-108-05645-8.
  26. Elliot, Henry Miers (1853). Appendix to the Arabs in Sind, Cyfr.III, Part 1, of the Historians of India [sic]. S. Solomon & Company. t. 222.
  27. Bloom, Jonathan; Blair, Sheila (2009). Grove Encyclopedia of Islamic Art & Architecture: Three-Volume Set. OUP USA. ISBN 978-0-19-530991-1.
  28. Baillie, Alexander Francis (1890). Kurrachee: (Karachi) Past, Present and Future (yn Saesneg). Thacker, Spink.
  29. Balocu, Nabī Bak̲h̲shu K̲h̲ānu (2002). Sindh, Studies Historical (yn Saesneg). Pakistan Study Centre, University of Sindh. ISBN 978-969-8135-13-3.
  30. Baillie, Alexander Francis (1890). Kurrachee: (Karachi) Past, Present and Future (yn Saesneg). Thacker, Spink.
  31. "Preserving cultural assets". Dawn. Pakistan. 10 Chwefror 2008. Cyrchwyd 13 Ebrill 2020.
  32. Gayer, Laurent (2014). Karachi: Ordered Disorder and the Struggle for the City. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-935444-3.
  33. Anwar, Farhan, gol. (2018). LOCAL AND CITY GOVERNMENT HANDBOOK – PROVINCE OF SINDH AND KARACHI CITY (PDF). Shehri. ISBN 978-969-9491-14-6.