Brethyn
Jump to navigation
Jump to search
Math o ddeunydd sydd wedi'i wehyddu neu ei lawbannu o wlân yw brethyn, er y gall hefyd fod wedi'i wneud o gotwm neu ddeunydd arall.[1] Byddai'n cael ei gynhyrchu fel rhan o'r diwydiant gwlân - un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru yn ystod y 18g - ac roedd yn cael ei ddefnyddio at nifer fawr o ddibenion, yn cynnwys dillad, blancedi, addurniadau, a glanhau. Gelwid blanced a wnaed o frethyn yn 'garthen'. Mae gwisgoedd traddodiadol Cymreig hefyd fel arfer wedi'u gwneud o frethyn.
Mae'r term 'brethyn cartref' yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun diwylliannol i gyfeirio at y lleol a'r gwerinol, a hynny yn gadarnhaol.
Mae'r defnydd cynharaf o'r gair 'brethyn', wedi'i sillafu 'uredhyn', yn dod o'r 13g.[2]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". welsh-dictionary.ac.uk. Cyrchwyd 2018-09-18.
- ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". welsh-dictionary.ac.uk. Cyrchwyd 2018-09-18.