Qom

Oddi ar Wicipedia
Qom
Mathdinas Iran Edit this on Wikidata
Fa-Qom.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,201,158 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 805 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMorteza Saghaeiannejad Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:30 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Baalbek, Konya, Karbala, Najaf, Santiago de Compostela, Karachi Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Perseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCentral District Edit this on Wikidata
GwladBaner Iran Iran
Arwynebedd123.073 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr935 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.64°N 50.8764°E Edit this on Wikidata
Cod post37100 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMorteza Saghaeiannejad Edit this on Wikidata
Map
Mosg Hazrat Fatimah yn Qom

Mae Qom (Perseg: قم, hefyd Q'um neu Kom) yn ddinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth Iran. Mae'n gorwedd 156 km i'r de-orllewin o Tehran, prifddinas Iran, ac mae'n brifddinas talaith Qom. Amcangyfrifwyd fod ganddi boblogaeth o 1,042,309 yn 2005. Mae'r ddinas yn gorwedd ar lannau Afon Qom.

Ystyrir Qom yn ddinas sanctaidd gan Mwslemiaid Shia, am ei bod yn gartref i gysegrfan Fatema Mæ'sume, chwaer yr Imam `Ali ibn Musa Rida (Perseg: Imam Reza, OC 789-816). Qom yw canolfan bwysicaf ysgolheictod Shi'a yn y byd, ac mae'n ganolfan pererindod bwysig. Yn ogystal mae Qom yn gartref i ran o raglen gofod Iran.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae hanes Qom fel canolfan drefol yn ymestyn yn ôl i'r cyfnod cyn-Islamig. Mae darganyddiadau archaeolegol yn dangos fod pobl yn byw yno ers y 5ed mileniwm CC. Dan yr enw Kum, tyfodd i fod yn ddinas ranbarthol bwysig. Pan gyrhaeddodd yr Arabiaid yn y 7g newidiwyd yr enw i Qom.

Yn cyfnod y Seljukiaid blodeuodd Qom. Ond pan ddaeth y Mongoliaid i oresgyn Persia dioddefodd y ddinas ddinistr ar raddfa sylweddol. Ond yn ddiweddarach, ar ôl i'r frenhinllin Fongolaidd (yr Ilkhanate), droi i Islam yn ystod teyrnasiad Öljeitü (Perseg: Muhammad Khudabænde), adferwyd y ddinas i'w hen ogoniant.

Ar ddiwedd y 14g cafodd y ddinas ei difetha gan Tamerlane a lladdwyd nifer o'r trigolion. Unwaith eto adferwyd y ddinas a daeth yn ganolfan bererindod fawr yng nghyfnod y Safavid. Erbyn 1503 roedd nifer o ysgolion diwinyddol yn Qom.

Dioddefodd eto gan y goresgyniadau Affgan ac yn nheyrnasiad Nadir Shah. Yn 1793 daeth Qom dan reolaeth Agha Muhammad Khan Qajar. Dyma'r cyfnod pan ychwanegwyd yn sylweddol i adeiladwaith trawiadol Mosg Hazrat Fatimeh.

Yn ystod y goresgyniad gan Rwsia yn 1915, symudodd nifer o drigolion Tehran i Qom am ddiogelwch a bu bron i'r brifddinas gael ei symud i Qom. Sefydlwyd "Pwyllgor Amddiffyn Cenedlaethol" yn Tehran, a throes Qom yn un o ganolfannau pwysicaf y gwrthwynebiad gwladgarol i ddominyddiaeth a rheolaeth Rwsia a Phrydain yn Iran.

Yn ddiweddarach, bu Qom yn ganolfan i'r Ayatollah Khomeini yn ei wrthwynebiad i'r Pahlaviaid, cyn ei alltudio o'r wlad, a arweiniodd yn y pen draw at Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979.

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]