Chwyldro Islamaidd Iran

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pwnc yr erthygl hon yw'r chwyldro Islamig yn Iran yn 1978/79. Am y mudiad gwleidyddol yn Iran yn ystod y 13 mlynedd cyn hynny, gweler Chwyldro Gwyn.

Y Chwyldro Islamaidd (Perseg: انقلاب اسلامی, Enghelābe Eslāmi) neu Chwyldro Iran neu Chwyldro Islamaidd Iran oedd y chwyldro a drawsfurffiodd Iran o frenhiniaeth dan y Shah Mohammad Reza Pahlavi, i weriniaeth Islamaidd dan yr Ayatollah Ruhollah Khomeini, arweinydd y chwyldro a sefydlydd y Weriniaeth Islamaidd. Mae'n cael ei ddisgrifio gan rai fel "y trydydd chwyldro mawr," ar ôl y Chwyldro Ffrengig a'r Chwyldro Bolshefic. Ei amcan oedd rhyddhau Iran a'r Trydydd Byd yn gyffredinol o afael gwladychiaeth a newydd-wladychiaeth.

Er bod lle i ddadlau ei fod yn broses barhaol, fel sawl chwyldro arall, gellir dweud iddo ddechrau yn Ionawr 1978 gyda'r gwrthdystiadau mawr cyntaf yn erbyn llywodraeth y Shah ac iddo orffen gyda chymeradwyo'r Cyfansoddiad theocratig newydd — a droes Khomeini yn Arweinydd Pennaf y wlad — yn Rhagfyr 1979. Yn sgîl hynny, gadawodd Mohammad Reza Pahlavi y wlad i alltudiaeth yn Ionawr 1979 ar ôl i streiciau a phrotestiadau baralysu'r wlad, ac ar 1 Chwefror, 1979, dychwelodd Ayatollah Khomeini o alltudiaeth yn Ffrainc i Tehran i gael ei groesawu gan rai miliynau o Iraniaid. Daeth cwymp terfynol y brenhinllin Pahlavi yn fuan wedyn ar 11 Chwefror pan gyhoeddodd arweinwyr lluoedd miwrol Iran eu "niwtraliaeth" ar ôl i filwyr chwyldroadol orchfygu milwyr teyrngar i'r Shah mewn brwydro arfog ar y strydoedd. Daeth Iran yn Weriniaeth Islamaidd ar 1 Ebrill, 1979 pan bleidleisiodd y mwyafrif llethol o bobl y wlad i'w gwneud felly.

Un o'r mudiadau mwyaf grymus sy'n gwrthwynebu'r Chwyldro Islamaidd ar ei ffurf bresennol yw'r Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān, mudiad sosialaidd-Islamaidd mewn alltudiaeth sy'n ceisio dymchwel llywodraeth Iran.

Flag of Iran.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iran. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Islam template b.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.