Neidio i'r cynnwys

Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān

Oddi ar Wicipedia
Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān
Enghraifft o:mudiad terfysgol, mudiad gerila, plaid wleidyddol, private army, Intelligence gathering network, troll farm, Cwlt Edit this on Wikidata
IdiolegIslamic socialism Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Medi 1965 Edit this on Wikidata
PencadlysAuvers-sur-Oise compound, Ashraf-3, Camp Liberty, Dinas Ashraf Edit this on Wikidata
Enw brodorolسازمان مجاهدين خلق ايران Edit this on Wikidata
GwladwriaethIran Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mojahedin.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Plaid wleidyddol a mudiad chwyldroadol parafilwrol Iranaidd mewn alltudiaeth sy'n credu mewn sosialaeth Islamaidd yw'r Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān (Perseg سازمان مجاهدين خلق ايران "Mujahedin y Bobl Iran"), a adwaenir hefyd fel y PMOI (People's Mojahedin of Iran) neu'r MEK neu MKO. Ei nod yw dymchwel llywodraeth bresennol Iran. Ei arweinydd yw Maryam Rajavi, a Seddigheh Hosseini yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol. Lleolir ei phencadlys yn Ashraf, de Irac. Cyfeirir at y mudiad yn aml fel "(Mojahedin-e) Khalq".

Sefydlwyd y PMOI yn 1965 i ymladd yn erbyn llywodraeth y Shah Mohammad Reza Pahlavi, cyfalafiaeth, ac imperialaeth Orllewinol.[1] Rhoddodd y mudiad orau i ymgyrchu arfog yn swyddogol yn 2001[2] ac erbyn heddiw y PMOI yw'r prif fudiad yng Nghyngor Cenedlaethol Gwrthsafiad Iran (National Council of Resistance of Iran: NCRI), mudiad ymbarel neu senedd-mewn-alltudiaeth sy'n honni gweithio am sefydlu llywodraeth ddemocrataidd, seciwlar yn Iran. Mae gan/bu gan y PMOI asgell arfog o'r enw Byddin Rhyddhau Iran (National Liberation Army of Iran NLA). Cyfeiria llywodraeth Iran at y PMOI a'i cyngreiriaid fel Monafeqin (yn llythrennol, "Rhagrithwyr") yn hytrach na "Mojahedin", gan faentumio nad ydynt yn blaid Islamaidd mewn gwirionedd.[3]

Ond yn ôl yr Unol Daleithiau, Canada, Irac, y DU, ac Iran, a'r Undeb Ewropeaidd, mae'r NCRI yn ffrynt yn unig i weithgareddau terfysgol y PMOI[4] ac felly mae'r PMOI yn fudiad terfysgol[5] Rhoddodd y PMOI a'r NCRI wybodaeth am raglen niwclear llywodraeth Iran yn 2002 a 2008 sydd wedi poeni rhai o wledydd y Gorllewin, yn enwedig yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Keddie, Nikkie, Roots of Revolution, (1981), t.238
  2. BBC News
  3. http://www.iranfocus.com/modules/news/article.php?storyid=2655 Archifwyd 2008-02-20 yn y Peiriant Wayback iranfocus.com
  4. "nci.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-19. Cyrchwyd 2008-04-17.
  5. "Adran Wladol UDA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-05. Cyrchwyd 2007-05-05.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]