Ruhollah Khomeini

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ayatollah Khomeini)
Ruhollah Khomeini
Ganwyd17 Mai 1900 Edit this on Wikidata
Khomein Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1989 Edit this on Wikidata
Tehran Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIran Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, bardd, arweinydd crefyddol, akhoond, diwinydd, cyfrinydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Arweinydd Aran Edit this on Wikidata
Adnabyddus amForty Hadith, Kashf al-Asrar, Islamic Government, Q5948537 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Weriniaethol Islamaidd Edit this on Wikidata
TadSeyyed Mostafa Khomeini Edit this on Wikidata
PriodKhadijeh Saqafi Edit this on Wikidata
PlantMostafa Khomeini, Ahmad Khomeini, Zahra Mostafavi Khomeini, Farideh Mostafavi Edit this on Wikidata
PerthnasauHassan Khomeini Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.imam-khomeini.ir/ Edit this on Wikidata
llofnod
Ruhollah Khomeini
Arweinydd Goruchel Cyntaf
Yn ei swydd
3 Rhagfyr 1979 – 3 Mehefin 1989
ArlywyddAbolhassan Banisadr
Mohammad-Ali Rajai
Ali Khamenei
Prif WeinidogMehdi Bazargan
Mohammad-Ali Rajai
Mohammad-Javad Bahonar
Mahdavi Kani
Mir-Hossein Mousavi
Rhagflaenwyd ganMohammed Reza Pahlavi
fel 'Shah Iran
Dilynwyd ganAli Khamenei

Gwleidydd ac arweinydd crefyddol o Iran oedd Ruhollah Mostafavi Moosavi Khomeini (Persieg: روح‌الله خمینی) "Cymorth – Sain" ynganiad , 24 Medi 19023 Mehefin 1989), a adwaenir hefyd fel Aiatola Khomeini. Ef oedd arweinydd Chwyldro Islamaidd Iran a sbardunwyd yn 1979 ac a welodd ddymchwel y Shah cyfredol sef Mohammad Reza Pahlavi. Yn dilyn y chwyldro hwn, gwnaed Khomeini yn Arweinydd Goruchel Cyntaf (First Supreme Leader), swydd a grëwyd oddi fewn i gyfansoddiad y wlad i fod yn bennaeth crefyddol a gwleidyddol; bu yn y swydd hon hyd at ei farwolaeth yn 1989. Wedi cymryd awenau'r wlad, aeth ati i ddifa mausoleum y 'Reza Shah' a dienyddiwyd nifer o'i wrthwynebwyr gwleidyddol a llofruddwyr, o bosib cannoedd o filoedd ohonynt.[1]

Roedd Khomeini yn awdur dros 40 o lyfrau ond fe'i adwaenir yn bennaf fel gwleidydd. Cyn ei benodi'n Arweinydd Goruchel treuliodd dros 15 mlynedd yn alltud gan iddo anghytuno â'r Shah ar y pryd. Datblygodd syniadau Usuli oddi fewn i'w grefydd Shi'a (a alwodd yn velayat-e faqih) a nododd y dylai rheolaeth o'r wlad fod yn nwylo crefyddwyr y wlad.[2] Yn ddiweddarach cyfunwyd yr athroniaeth hon o fewn cyfansoddiad y wlad,[3] yn dilyn refferendwm democrataidd.[4]

Yn 1979 creodd yr Aiatola Khomeini (fel y gelwid ef) y Basij Mostazafan, sef mudiad gwirfoddol o bobl ifanc (gan mwyaf). Pan ddechreuodd Rhyfel Irac ac Iran yn 1980, cyhoeddodd Khomeni 'fatwa', gyda'r addewid o baradwys a chyfunwyd y mudiad Basij Mostazafan gyda'r fyddin.

Yn 1979 fe'i enwebwyd ef gan y cylchgrawn TIME fel person mwyaf dylanwadol ei oes, yn rhyngwladol,[5] ac fe'i disgrifiwyd fel "wyneb rhithwir Islam o fewn Diwylliant y Gorllewin""[6] ble erys yn gymeriad dadleuol.Er enghraifft, cefnogodd gymeryd gwystlon yn ystod argyfwng Iran[7] ac am alw Llywodraeth yr Unol Daleithiau "Y Satan Mawr"; galwodd Rwsia "Y Satan Lleiaf" a dywedodd na ddylai Iran genogi'r naill na'r llall.[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.telegraph.co.uk/news/worldnews/middleeast/iran/1321090/Khomeini-fatwa-led-to-killing-of-30000-in-Iran.html
  2. Abrahamian, Iran, (1982) tud.478–479
  3. Moin, Khomeini, (2000), p.218
  4. "NYU Law: A Guide to the Legal System of the Islamic Republic of Iran". Nyulawglobal.org. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2011.
  5. "TIME Person of the Year 1979: Ayatullah Khomeini". Time. 7 Ionawr 1980. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-23. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2008.
  6. Nasr, Vali, The Shia Revival, Norton, (2006), tud.138
  7. "The Mystic Who Lit The Fires of Hatred". Time. 7 Ionawr 1980. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-20. Cyrchwyd 19 Mawrth 2010.
  8. Katz, Mark N. (2010). "Iran and Russia". In Wright, Robin B. (gol.). The Iran Primer: Power, Politics, and U.S. Policy. United States Institute of Peace. t. 186. ISBN 978-1-60127-084-9.