Aiatola

Oddi ar Wicipedia
Aiatola
Enghraifft o'r canlynolteitl anrhydeddus, Islamic religious occupation Edit this on Wikidata
MathIslamic cleric, Shia Muslim Edit this on Wikidata
Rhan oMuslim clergy Edit this on Wikidata
Enw brodorolآیت‌الله Edit this on Wikidata

Arweinydd crefyddol Shïa, un o ddwy brif gangen Islam, yw aiatola[1][2] (Perseg: آيت‌الله, sy'n tarddu o Arabeg: آية الله‎ "Arwydd Duw"). Teitl anrhydeddus yn nhraddodiad Usuli y Deuddeg Imam yw "Aiatola" a roddir i glerigwr sy'n arbenigo mewn astudiaethau Islamaidd megis cyfreitheg, darllen y Corân, ac athroniaeth Islamaidd.

Ymddangosodd yr enw yn ystod oes ddiweddar brenhinllin Qajar, a deyrnasodd dros Aruchel Wladwriaeth Persia o 1789 hyd 1925. Ni ddefnyddir y teitl ymhlith Shïaid Libanus, Pacistan, ac India, a fe'i defnyddir yn Irac dim ond mewn achos ysgolhaig y gyfraith o dras Iranaidd.[3] Daeth yn fwyfwy boblogaidd yn ail hanner yr 20g, ac mae nifer o aiatolas cyfoes yn meddu ar ddylanwad gwleidyddol.

Gallai aiatola gyhoeddi penderfyniadau a elwir ffatwa. Yn gywir, mae gan y ffatwa awdurdod i'r rheiny sy'n ei darllen ac yn cytuno â'i gynnwys yn unig, ond mae nifer o aiatolas yn denu dilynwyr sydd yn ystyried pob ffatwa ganddynt yn orfodol.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Enw Perseg ydy آيت‌الله (llythrennau Rhufeinig: āyatullāh) sy'n tarddu o'r gair Arabeg آية الله (āyatullāh), cyfuniad o آيات (ʾāyat), sef enw ar adnodau'r Corân a ffurf luosog ar arwydd, tystiolaeth, neu wyrth, ac الله (allāh), sef Duw.

Aiatolas o nod[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  aiatola. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Mawrth 2019.
  2. Geiriadur yr Academi, "Ayatollah".
  3. (Saesneg) "Ayatollah" yn The Oxford Dictionary of Islam (golygwyd gan John L. Esposito). Adalwyd ar Oxford Islamic Studies Online ar 14 Mawrth 2019.