Neidio i'r cynnwys

Punjab (Pacistan)

Oddi ar Wicipedia
Punjab
Mathprovince of Pakistan Edit this on Wikidata
PrifddinasLahore Edit this on Wikidata
Poblogaeth127,688,922 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Gorffennaf 1970 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSardar Salim Haider Khan Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPunjab Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Arwynebedd205,344 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaKhyber Pakhtunkhwa, Sindh, Balochistan, Islamabad Capital Territory, India, Punjab Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.33°N 74.21°E Edit this on Wikidata
PK-PB Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolProvincial Cabinet of Punjab Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholProvincial Assembly of Punjab Province Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Governor of Punjab, Pakistan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Punjab Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSardar Salim Haider Khan Edit this on Wikidata
Map
Am ystyron eraill, gweler Punjab (gwahaniaethu).

Un o daleithiau Pacistan yw'r Punjab neu Panjab (Urdu: پنجاب ; Punjabi: پنجاب). Hon yw rhanbarth fwyaf poblog a ffyniannus y wlad o gryn dipyn ac mae'n gartref i Punjabiaid a sawl grŵp ethnig arall. Yr ardaloedd cyfagos yw Sindh (Sind) i'r de, Balochistan a Khyber Pakhtunkhwa i'r gorllewin, Azad Kashmir (y rhan o Kashmir dan reolaeth Pacistan), Jammu a Kashmir yn India, ac Islamabad i'r gogledd, a'r Punjab Indiaidd a Rajasthan i'r dwyrain, yn India. Y prif ieithoedd yw Punjabi, Urdu a Saraiki. Lahore yw'r brifddinas daleithiol. Daw'r enw Punjab o'r geiriau Perseg Pañj (پنج), sy'n golygu "pump", ac Āb (آب) sy'n golygu "dŵr" (cf. afon yn Gymraeg). Ystyr "Punjab" felly yw "(y) pum dŵr (neu 'afon')" - felly "Gwlad y Pum Afon", sy'n cyfeirio at yr afonydd Indus, Ravi, Sutlej, Chenab a'r Jhelum; mae'r pedair olaf yn llednentydd Afon Indus.

Lleoliad Punjab ym Mhacistan

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Dyma ail ranbarth mwyaf Pacistan o ran arwynebedd gyda 205,344 km2 (79,284 mi sgw) ac mae wedi'i lleoli i ogledd-orllewin plat daeaegol India yn Ne Asia.

Mosg yr Ymerodraeth neu'r Mosg Badshahi yn Lahore a godwyd yn 1671

Y prifddinas yw Lahore, a fu'n brifddinas hanesyddol y Punjab ehangach hefyd. Dinasoedd eraill o fewn y rhanbarth yw Faisalabad, Rawalpindi, Gujranwala, Multan, Sialkot, Bahawalpur, Sargodha, Gujrat, Sheikhupura a Jhelum. Ceir chwe prif afon yn nadreddu drwy Punjab, 5 drwy rhan Pacistan o'r Pwnjab: Indus (sy'n llifo o'r Gogledd i'r De), Jhelum, Beas, Chenab, Ravi a Sutlej. Mae bron i 60% o boblogaeth Pacistan yn byw yn Punjab.

Mae mwyafrif yr ardal yn dir ffrwythlon, ar hyd dyffrynoedd yr afonydd ond ceir ychydig o ddiffeithdiroedd ar y ffin â Rajasthan a mynyddoedd Sulaiman gan gynnwys diffeithdiroedd Thal a Cholistan.

Ieithoedd

[golygu | golygu cod]

Prif iaith y rhanbarth yw'r iaith Punjab a ysgrifennir yn y sgript Shahmukhi, a cheir nifer o dafodiaethoedd oddi mewn iddi. Cânt eu siarad gan 60% o Punjabis (neu bobl o Bunjab) ym Mhacistan a'r mwyafrif llethol yn rhanbarth Punjab.[1] Er hyn ni roddir iddi unrhyw gydnabyddiaeth oddi fewn i Gyfansoddiad Pacistan.

Demograffeg

[golygu | golygu cod]

Amcangyfrifir bod y bobloageth yn 2010 yn 93,963,240[2] sef dros hanner poblogaeth y wlad.

Popblogaeth
CyfrifiadY boblogaethTrefolGwledig

195120,540,7623,568,07616,972,686
196125,463,9745,475,92219,988,052
197237,607,4239,182,69528,424,728
198147,292,44113,051,64634,240,795
199873,621,290[3]23,019,02550,602,265
201291,379,615[4]45,978,45145,401,164

Crefydd

[golygu | golygu cod]
Crefydd yn Punjab
crefydd Canran
Islam
  
97.21%
Cristnogaeth
  
2.31%
Arall†
  
0.48%
Y rhaniad crefyddol
†Includes Sikhs, Parsis, Hindus .

O fewn rhanbarth Punjab credir bod 97.21% yn Fwslemiaid gyda'r mwyafrif ohonynt yn Sunni Hanafi a lleiafrif Shia Ithna 'ashariyah. Yr ail grefydd fwyaf yw Cristnogaeth - 2.31% o'r boblogaeth. Ymhlith y crefyddau eraill fe geir Ahmedi, Hindus, Sikhs, Parsis a Bahá'í.[5]

Prif ddinasoedd

[golygu | golygu cod]
Rhestr o brif ddinasoedd y Punjab
Safle Dinas Dosbarth Poblogaeth


Lahore

Faisalabad

Rawalpindi

1LahoreDosbarth Lahore10,500,000
2FaisalabadDosbarth Faisalabad5,280,000
3RawalpindiDosbarth Rawalpindi3,391,656
4MultanDosbarth Multan2,606,481
5GujranwalaDosbarth Gujranwala2,569,090
6SargodhaDosbarth Sargodha600,501
7BahawalpurDosbarth Bahawalpur543,929
8SialkotDosbarth Sialkot510,863
9SheikhupuraDosbarth Sheikhupura426,980
10JhangDosbarth Jhang372,645
11GujratDosbarth Gujrat530,645
12D.G.KhanDosbarth Dera Ghazi Khan630,645
Ffynhonnell:World Gazetteer 2010[6]
Rhestr o boblogaeth ddinesig pob dinas, nid cyfanswm y dosbarthiadau.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ The Languages of Pakistan
  2. ↑ "Punjab – World Gazetteer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-10. Cyrchwyd 29 Mawrth 2012.
  3. ↑ http://www.statpak.gov.pk/depts/pco/statistics/pop_by_province/pop_by_province.html_Pages/statpak.gov.pk/depts/pco/statistics/pop_by_province/pop_by_province[dolen farw]
  4. ↑ Population shoots up by 47 percent since 1998 Archifwyd 2012-07-01 yn y Peiriant Wayback. Thenews.com.pk. Retrieved on 2013-07-12.
  5. ↑ "POPULATION CY RELIGION" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2006-06-17. Cyrchwyd 2015-01-18.
  6. ↑ "Pakistan: Largest cities and towns and statistics of their population". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-17. Cyrchwyd 2011-02-10.