Khyber Pakhtunkhwa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad y dalaith ym Mhacistan.

Lleolir Khyber Pakhtunkhwa (Wrdw: خیبر پختونخوا, Pashto: خیبر پښتونخوا) yng ngogledd-orllewin Pacistan am y ffin ag Affganistan. Talaith Ffin y Gogledd-Orllewin (Wrdw: śhumāl maġribī sarhadī sūbha شمال مغربی سرحدی صوبہ, Saesneg: North-West Frontier Province neu NWFP) oedd enw'r dalaith tan 2010. Tarddodd yr enw o gyfnod reolaeth Prydain ar is-gyfandir India gan gyfeirio at yr is-gyfandir cyfan yn hytrach na thiriogaeth y Pacistan bresennol. Dyma'r lleiaf o bedair talaith Pacistan. Mae'n cynnwys rhan fawr o fynyddoedd uchel yr Hindu Kush. Y brifddinas yw Peshawar, wrth droed y Bwlch Khyber enwog. Mae'n gartref i'r bobl Pashtun ('Pakhtun' yn lleol), sy'n siarad Pashto, ac fe'i gelwir yn Pakhtunistan hefyd o'r herwydd. Ceir sawl grŵp ethnig arall, llai, yn yr ardal. Poblogaeth: tua 20 miliwn.

O fewn Pacistan, mae'r dalaith yn ffinio â'r rhanbarth a elwir heddiw yr Ardaloedd Llwythol dan Weinyddiaeth Ffederal neu FATA (Federally Administred Tribal Areas) i'r de-orllewin, a fu yn rhan o'r NWFP hanesyddol ar un adeg, gyda Gilgit–Baltistan i'r gogledd-ddwyrain, y Kashmir Bacistanaidd i'r dwyrain, ac Islamabad a'r Punjab i'r de. Mae'n gyffwrdd hefyd â darn o orllewin Gweriniaeth Pobl Tsieina yn y gogledd eithaf.

Rhennir y dalaith yn sawl dosbarth ac ardal yn cynnwys Chitral, Dir, Swat, Buner a Kohal yn y gogledd a Handu a Dera Ismail Khan yn y de.

Llywodraeth ranbarthol[golygu]

Map o ddosbarthau Khyber Pakhtunkhwa a FATA.
Ym mynyddoedd y gogledd.

Rheolir y dalaith gan Gynulliad Daleithiol gyda 124 sedd.

Dosbarthau[golygu]

Ceir 24 dosbarth (district) yn Khyber Pakhtunkhwa.

Dinasoedd[golygu]

Gweler hefyd[golygu]