Peshawar

Oddi ar Wicipedia
Peshawar
Mathdinas, prifddinas, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,970,042 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHaji Ghulam Ali Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPeshawar District Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Arwynebedd1,257 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr359 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.0144°N 71.5675°E Edit this on Wikidata
Cod post25000 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHaji Ghulam Ali Edit this on Wikidata
Map

Dinas yng ngogledd-orllewin Pacistan yw Peshawar (Pashto: پېښور; Wrdw: پشاور) sy'n brifddinas Khyber Pakhtunkhwa a chanolfan weinyddol yr Ardaloedd Llwythol dan Weinyddiaeth Ffederal ym Mhacistan. Ystyr "Peshawar" yn yr iaith Berseg yw 'Y Gaer Uchel' ac fe'i gelwir yn Pekhawar yn Pashto (Pukhto). Mae'n gorwedd ar uchder o 510 m (1.673 troedfedd) ar y ffordd hanesyddol sy'n arwain i Fwlch Khyber, am y ffin ag Affganistan, ac mae'n groesffordd a chanolfan fasnach ers canrifoedd lawer. Poblogaeth: tua 2,955,254.

Hanes[golygu | golygu cod]

Golygfa yn 'Hen Beshawar'

Sefydlwyd dinas hynafol Purushpur ar neu ger safle Peshawar gan Kanishk Fawr, un o frenhinoedd y Kushan o Ganolbarth Asia. Bu'n ganolfan dysg Fwdhaidd ryngwladol hyd y 10g ac yn brifddinas teyrnas Indo-Roeg hynafol Gandhara. Dyma pryd codwyd Stupa Fawr Kanishka ar gyrion Peshawar, y dywedir iddo fod yr adeilad uchaf y byd yn ei gyfnod gydag uchder o 700 troedfedd. Sefydlwyd y ddinas bresennol gan yr ymerawdwr Akbar yn yr 16g.

Oherwydd goresgyniad Affganistan gan yr Undeb Sofietaidd yn 1979, ffoes nifer o Affganiaid yno a daeth yn ganolfan wleidyddol i'r Mujahideen gwrth-Sofietaidd. Am fod y sefyllfa yn Affganistan mor fregus mae nifer o'r ffoaduriaid hyn wedi aros ym Mheshawar ac yn byw mewn gwersylloedd ar gyrion y ddinas. Daeth Peshawar i gymryd lle Kabul a Kandahar fel canolfan bwysicaf y bobl Pakhtun yn y cyfnod yma. Mae'n dal i fod yn ddinas sy'n gorwedd yn y canol fel petai rhwng Affganistan a Chanolbarth Asia ar y naill law a gweddill Pacistan ac isgyfandir India ar y llall. Mae hi hefyd yng nghanol y tensiynau rhwng y Taliban gyda'u cynghreiriaid Islamig a chefnogwyr gwleidyddiaeth ryddfrydig a chenedlaetholwyr Pakhtun. Mae o bwys strategol mawr i lywodraeth Pacistan, yn enwedig wrth i'r gwrthdaro yn y rhanbarth waethygu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]