Bwlch Khyber
Math | rail mountain pass, bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Khyber Pakhtunkhwa |
Gwlad | Affganistan Pacistan |
Uwch y môr | 1,072 metr |
Cyfesurynnau | 34.11°N 71.1117°E |
Cadwyn fynydd | Safēd Kōh |
Bwlch enwog yng nghadwyn Safid Kuh yn yr Hindu Kush yw Bwlch Khyber (neu Khaybar neu Khaibar). Mae'r bwlch yn gorwedd 1072m (3518 troedfedd) i fyny mewn tir lled-anial ac mae'r ffordd sy'n ei groesi yn cysylltu Kabul, prifddinas Affganistan a thref Peshawar ym Mhacistan.
Mae'r Khyber yn fwlch o bwys strategol mawr ers cyn cof. Mae'n gorwedd ar y llwybr rhwyddaf sydd i'w gael i groesi mynyddoedd creigiog uchel yr Hindu Kush rhwng gogledd eithaf y gadwyn honno a bryniau isel Wasiristan i'r de.
Ar yr ochr Affganaidd mae'r ffordd iddo yn codi rhwng clogwynni syrth anferth ar lan ddeheuol Afon Kabul, yn bennaf, o gyfeiriad tref Jalalabad. Ar yr ochr Bacistanaidd mae'r tir yn fwy agored ac mae'r ffordd yn croesi'r ffin yng nghanol clwstwr o fryniau bach ac yna'n disgyn ar gwrs igam-ogam i lawr i'r gwastadeddau a Peshawar.
Mae'r Khyber yn gorwedd yn nhiriogaeth led-annibynnol llwyth yr Affridiaid ac yn rhan o dalaith Khyber Pakhtunkhwa. Sawl gwaith dros y canrifoedd mae'r Affridiaid, sy'n barod iawn i warchod eu hannibyniaeth, wedi ymosod ar fyddinoedd estron a geisiai groesi'r bwlch, gan gynnwys byddin Prydain yn y 19eg a hanner cyntaf yr 20g.