Malakand (dosbarth)

Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Dosbarth Malakand.

Ardal weinyddol yw Dosbarth Malakand yn Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan. Mae'n cynnwys rhan o'r ardal draddodiadol, Malakand, ond yn llai o gryn dipyn.

Mae gan Malakand arwynebedd o 952 km2 ac mae tua 567,000 o bobl yn byw yno (amcangyfrif 2004-05). Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn bobl Pashtun sy'n siarad Pashto.

Yn Ebrill a Mai 2009 gwelwyd ymladd difrifol rhwng Byddin Pacistan a'r Taliban a'u cefngowyr yn y dosbarth ac ar draws rhanbarth Malakand, sy'n cynnwys Dir a Swat. Dros yr ardal gyfan roedd rhai cannoedd o filoedd o bobl wedi cael eu disodli gan yr ymladd ac roedd cyrffiw yn cael ei weithredu.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Clashes, curfews and displacement across Malakand" Archifwyd 2009-05-11 yn y Peiriant Wayback. Dawn News (Pacistan), 08.05.2009.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Flag of Pakistan.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Bacistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.