Rawalpindi
| Math | dinas, dinas â miliynau o drigolion, endid tiriogaethol gweinyddol |
|---|---|
| Poblogaeth | 2,098,231 |
| Cylchfa amser | Pakistan Standard Time |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Wrdw |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Rawalpindi Tehsil |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5,286 km² |
| Uwch y môr | 508 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 33.6°N 73.1°E |
| Cod post | 46000 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Rawalpindi Municipal Corporation |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Rawalpindi |
![]() | |
Dinas ar Wastadedd Potwar, talaith Punjab, gogledd Pacistan, ger y brifddinas Islamabad, yw Rawalpindi (Urdu: راولپنڈی). Rawalpindi ("Pindi" i bobl leol) yw lleoliad pencadlys milwrol Llu Arfog Pacistan a gwasanaethodd hefyd fel prifddinas y wlad wrth i ddinas newydd Islamabad gael ei chodi yn y 1960au. Mae'n gartref i sawl diwydiant a ffatri. Lleolir Maes Awyr Rhyngwladol Islamabad yn Rawalpindi ei hun, ac mae'n gwasanaethu'r ddwy ddinas hynny. Gorwedd Rawalpindi yn nhalaith Punjab, 275 km (171 milltir) i'r gogledd-orllewin o Lahore. Hi yw canolfan weinyddol Ardal Rawalpindi. Poblogaeth Rawalpindi yw tua 3,039,550.
Ar 27 Rhagfyr 2007, lladdwyd Benazir Bhutto, cyn-Brif Weinidog Pacistan, gan derfysgwr ar ôl siarad mewn rali gan Plaid Pobl Pacistan mewn parc yng nghanol y ddinas.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Dinas Pharwala
- Haveli Sujaan Sigh
- Parc Jinnah
- Prifysgol Fatima Jinnah
- Purana Qil'aa
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Tikka Khan (1915-2002), milwr
- Duncan Sharpe (g. 1937), cricedwr
- Shaikh Rasheed Ahmad (g. 1950), gwleidydd
