Rabindranath Tagore
| Rabindranath Tagore | |
|---|---|
| Ffugenw | ভানুসিংহ |
| Ganwyd | 7 Mai 1861 Kolkata |
| Bu farw | 7 Awst 1941 Kolkata |
| Dinasyddiaeth | y Raj Prydeinig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | arlunydd, bardd, cyfansoddwr, dramodydd, awdur ysgrifau, athronydd, celfyddydwr, ysgrifennwr, awdur geiriau, cyfansoddwr caneuon, canwr, cyfarwyddwr ffilm, ymladdwr rhyddid, enillydd Gwobr Nobel, libretydd, actor, awdur storiau byrion, nofelydd, diwygiwr cymdeithasol, awdur teithlyfrau |
| Adnabyddus am | Gitanjali, Ghare-Bhaire, Bhanusimha Thakurer Padabali, Valmikipratibha, Kabuliwala, Kshudhita Pashan, Nastanirh, Noukadubi, Chaturanga, Jogajog, Shesher Kabita, Dak Ghar, Raja, Gora, Q97823937, The Home and the World, Stray Birds, Postmaster |
| Arddull | traethawd, novella |
| Mudiad | Bengali Renaissance |
| Tad | Debendranath Tagore |
| Priod | Mrinalini Devi |
| Plant | Rathindranath Tagore |
| Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, OBE, honorary doctor of the University of Calcutta, Marchog Faglor |
| llofnod | |
Athronydd, dysgeidydd a llenor yn yr iaith Fengaleg oedd Rabindranath Tagore (1861 - 1941), a aned yn Calcutta, yng Ngorllewin Bengal, India. Roedd yn fab i'r diwygiwr crefyddol Debendranath Tagore (1817 - 1905), sefydlydd ashram "Cartref Hedd" yn Calcutta a drowyd yn ganolfan addysg gan ei fab ar ôl ei farwolaeth.[1] Urddiwyd Tagore yn farchog gan Brydain yn 1915 ond fe roddodd heibio'r anrhydedd yn 1919 fel protest yn erbyn Cyflafan Amritsar.
Roedd Tagore yn awdur barddoniaeth, dramâu a ffuglen yn Fengaleg, yn gerddor ddawnus ac yn artist da. Ei waith mwyaf adnabyddus yn y Gorllewin yw'r gyfrol ddylanwadol o gerddi Gitanjali, a gyfieithwyd i'r Saesneg yn 1912. Ennillodd y Wobr Nobel yn Llenyddiaeth ym 1913.[2] Beirniadwyd ef gan Gandhi fel hyn: 'rhowch i ni weithredoedd nid geiriau.' Cafodd hyn effaith drom ar Waldo Williams.[3]
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rabindranath Tagore". Nobel Prize (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Awst 2024.
- ↑ The Nobel Prize in Literature 1913, The Nobel Foundation, http://nobelprize.org/nobel_prizes/literature/laureates/1913/, adalwyd 14 Awst 2009
- ↑ Jâms Nicholas Darlith Goffa Lewis Valentine - Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru, 2000. Tud 12/13