Y Fam Teresa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Fam Teresa
MotherTeresa 090.jpg
Ganwyd 26 Awst 1910 Edit this on Wikidata
Skopje Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Medi 1997 Edit this on Wikidata (87 oed)
Achos: methiant y galon Edit this on Wikidata
Kolkata Edit this on Wikidata
Man preswyl Skopje, Rathfarnham, Kolkata Edit this on Wikidata
Galwedigaeth lleian Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 5 Medi Edit this on Wikidata
Tad Nikollë Bojaxhiu Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd Ramon Magsaysay, Templeton Prize, Gwobr Balza, Gwobr Heddwch Nobel, Pacem in Terris Award, Bharat Ratna, Damien-Dutton Award, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aur y Gyngres, Urdd y Wên, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Honorary citizen of the United States, Gwobr Albert Schweitzer, Honorary Companion of the Order of Australia, Pacem in Terris Award, Medal Aur y Gyngres, Padma Shri, Grand Order of Queen Jelena, National Order of Honour and Merit, honorary doctorate at the Laval University, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.motherteresa.org/ Edit this on Wikidata
Llofnod
Mother Teresa, signature.svg

Lleian Gatholig a chenhades o dras Albaniaidd oedd y Fam Teresa (ganwyd Agnes Gonxhe Bojaxhiu) (26 Awst 19105 Medi 1997) yn ninas Skopje sydd heddiw yng Ngweriniaeth Macedonia.

Yn ddeunaw oed, gadawodd Agnes ei chartref i ddod yn lleian ac i weithio fel cenhades gyda sefydliad Chwiorydd Loreto yng Ngweriniaeth Iwerddon, ble dysgodd hi Saesneg, yr iaith a ddefnyddiwyd gan leianod i addysgu plant yn India.[1] Ni welodd ei mham na'i chwaer wedi hyn. Yna symudodd i India i weithio fel athrawes daearyddiaeth mewn ysgol yn y wlad honno. Yn ystod y cyfnod hwn, newidodd hi ei henw i Teresa, ar ôl nawddsant cenadesau. Yn 1952, sefydlodd y Fam Teresa gartref i gysuro pobl a oedd yn marw ac yn dioddef mewn hen deml Hindŵaidd yn ninas Calcutta a oedd eisoes yn anghyfannedd. Gelwir y sefydliad yma yn Kalighat Home for the Dying. Fe enillodd hi Wobr Heddwch Nobel yn 1979 am ei gwaith yn helpu'r tlawd a'r bobl a oedd yn marw. Fe farwodd hi ar y pumed o Fedi 1997. Wedi ei marwolaeth, am ei gweithredoedd dyngarol yn ystod ei bywyd, gwynfydwyd hi gan y Pab Ioan Pawl II.

Maes Awyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2002 ail-enwyd maes awyr Rinas yn Faes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa mewn cydnabyddiaeth i waith ac enwogrwydd y Fam Teresa. Lleolir yr awyrfa 11km o'r brifddinas, Tirana. Dyma brif faes awyr Albania.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Clucas, Joan Graff. (1988). Mother Teresa. New York. Chelsea House Publications, tt. 28–29. ISBN 1-55546-855-1.
Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.