Gogledd Macedonia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gweriniaeth Macedonia)
Gogledd Macedonia
Republlika Severna Makedonija
ArwyddairNorth Macedonia Timeless Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlgogledd, Macedonia Edit this on Wikidata
PrifddinasSkopje Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,836,713 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1991 Edit this on Wikidata
AnthemDenes nad Makedonija Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethDimitar Kovačevski Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Macedoneg, Albaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Ddwyrain Ewrop, post-Yugoslavia states, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi Edit this on Wikidata
Arwynebedd25,713 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAlbania, Serbia, Bwlgaria, Gwlad Groeg, yr Undeb Ewropeaidd, Cosofo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.65°N 21.71667°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Macedonia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Gweriniaeth Macedonia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Llywydd Gweriniaeth Macedonia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethStevo Pendarovski Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gweriniaeth Macedonia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethDimitar Kovačevski Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$13,825 million, $13,563 million Edit this on Wikidata
Ariandenar (Macedonia) Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.524 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.77 Edit this on Wikidata

Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop ar Orynys y Balcanau yw Gogledd Macedonia a arfer cael ei galw yn Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (neu Gweriniaeth Macedonia). Newidiwyd yr enw yn swyddogol ar 12 Chwefror 2019 er mwyn cydymffurfio â Chytundeb Prespa drwy'r Cenhedloedd Unedig â Gwlad Groeg.[1]

Mae'n llenwi tua 38% o diriogaeth rhanbarth hanesyddol Macedonia. Mae'n rhannu ffiniau â Serbia i'r gogledd, Bwlgaria i'r dwyrain, Gwlad Groeg i'r de ac Albania i'r gorllwein. Tan 8 Medi 1991, roedd yn rhan o Iwgoslafia. Tynnodd allan o ffederasiwn Iwgoslafia yn ddiweddarach na Slofenia a Chroatia. Ei phrifddinas yw Skopje, dinas o tua 600,000 o drigolion. Prif ddinasoedd eraill y wlad yw Bitola, Prilep, Tetovo, Kumanovo, Ohrid, Veles, Štip a Strumica. Mae poblogaeth Macedonia yn gymysg iawn. Y grŵp mwyaf yw'r Macedoniaid (Slafonaidd) (1,300,000, tua 64% o'r boblogaeth), ond mae hefyd leiafrif sylweddol Albaniaid (500,000, tua 25% o'r boblogaeth) a lleiafrifoedd llai o Dwrciaid, Sipswn a Serbiaid. Mae'r berthynas rhwng y ddau grŵp mwyaf wedi bod yn anodd ond mae'n gwella ers 2001, pryd cytunodd llywodraeth Macedonia dderbyn llu cadw heddwch o'r Cenhedloedd Unedig ac i ddatganoli grym i'r lleiafrif Albaneg. Yr iaith swyddogol yw Macedoneg.

Mae Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, ac yn ymgeisydd i ddod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Derbyniwyd cais gweriniaeth i ymaelodu â NATO ar 6 Chwefror 2019.[2] fel rhan o'r Cytundeb drwy'r Cenhedloedd Unedig ar newid enw'r wladwriaeth i 'Gweriniaeth Gogledd Macedonia'.

Enw'r wlad[golygu | golygu cod]

Ar hyn o bryd mae Macedonia (Macedoneg: Македонија/Makedonija) yn defnyddio dau enw. Enw swyddogol y wlad yw Gweriniaeth Macedonia (Macedoneg: Република Македониjа/Republika Makedonija). Nid oedd yr enw hwn yn dderbyniol gan lywodraeth Gwlad Groeg, gan fod gan wlad Groeg ranbarth o'r un enw. Felly mae Macedonia wedi cytuno i ddefnyddio'r enw Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (Macedoneg: Поранешна Југословенска Република Македонија/Poranešna Jugoslovenska Republika Makedonija) fel enw dros dro yn y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, ac mewn mudiadau rhyngwladol eraill. Cytunwyd ar yw enw Gweriniaeth Gogledd Macedonia ar 12 Chwefror 2019.[1]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]