NATO

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd
North Atlantic Treaty Organization (NATO)
Organisation du Traité de l'Atlantique Nord (OTAN)

Baner NATO
Baner NATO

Gwledydd NATO mewn gwyrdd.
Gwledydd NATO mewn gwyrdd.

Pencadlys Brwsel, Gwlad Belg
Aelodaeth 28 o wladwriaethau
Iaith / Ieithoedd swyddogol Saesneg
Ffrangeg
Ysgrifennydd Cyffredinol Anders Fogh Rasmussen
Cadeirydd Pwyllgor Milwrol NATO Giampaolo Di Paola
Sefydlwyd 4 Ebrill 1949
Math Cynghrair milwrol
Gwefan nato.int

Cynghrair milwrol rhynglywodraethol a sefydlwyd ym 1949 i gefnogi Cytundeb Gogledd yr Iwerydd a arwyddwyd yn Washington, D.C. ar 4 Ebrill, 1949 yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (Saesneg: North Atlantic Treaty Organisation neu NATO; Ffrangeg: l'Organisation du Traité de l'Atlantique Nord neu OTAN).

Erthygl bwysicaf y Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yw erthygl V, sy'n dweud fod ymosodiad ar unrhyw aelod y NATO yn golygu ymosodiad ar bawb ac y bydd Siarter y Cenhedloedd Unedig yn sylfaen i amddiffyn milwrol. Y rheswm dros yr erthygl oedd pryder am ymosodiad gan yr Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer. Yn ôl yr erthygl hon mae pob ymosodiad yn golygu ymosodiad ar Unol Daleithiau America, pŵer milwrol mwyaf y byd, ac felly gweithredodd y cynghrair fel atalrym.

Ers diwedd y Rhyfel Oer mae NATO wedi cymryd rhan mewn nifer o ymgyrchoedd y tu allan i'w ardal, hynny yw y tu allan i diriogaeth aelod-wladwriaethau'r cynghrair.

Ymgyrchoedd milwrol[golygu]

Ymyraethau yn y Balcanau[golygu]

"Amddiffyn yn Siarp" (Sharp Guard) oedd ymgyrch filwrol gyntaf NATO yn yr hen Iwgoslafia, a hynny rhwng Mehefin 1993 a Hydref 1996. Ei bwrpas oedd atgyfnerthu trwy rym milwrol ei lynges yr embargo arfau a sancsiynau economaidd yn erbyn Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia yn ystod Rhyfel Bosnia. Ar 28 Chwefror 1994, saethwyd pedair awyren Bosnia-Serb a oedd yn hedfan dros ardal gwaharddiad hedfan yng nghanol Bosnia a Hercegovina. Yn Awst 1995, yn dilyn cyflafan Srebrenica cychwynnodd NATO fomio byddin Republika Srpska. Parhaodd yr ymgyrch hyd at Ragfyr 1995.

Ar 24 Mawrth 1999, ac am gyfnod o 11 wythnos, dechreuodd byddin NATO fomio Gwladwriaeth Ffederal Iwgoslafia mewn ymgyrch a alwyd yn Ymgyrch Grym Cynghreiriol (Operation Allied Force), gyda'r nod i atal byddin Serbia rhag lladd sifiliaid yn Kosovo. Daeth ymgyrch NATO i ben ar 11 Mehefin 1999 pan gyhoeddodd arweinydd Iwgoslafia Slobodan Milošević ei barodrwydd i dderbyn Penderfyniad 1244 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Ymgyrchoedd yn Affganistan[golygu]

Prif erthygl: ISAF.

Ymgyrch Tarian y Cefnfor[golygu]

Gweler hefyd: Môr-ladrad yn Somalia.

Gan ddechrau ar 17 Awst 2009, gosododd NATO llongau rhyfel mewn ymgyrch i amddiffyn gludiant arforol yng Ngwlff Aden a Chefnfor India rhag môr-ladron Somaliaidd.[1]

Ymyrraeth yn Libya[golygu]

Yn ystod gwrthryfel 2011 Libya, ymysg brwydro gan brotestwyr a gwrthryfelwyr yn erbyn llywodraeth Libya dan Muammar al-Gaddafi, ac ar 17 Mawrth 2011 pasiwyd Penderfyniad 1973 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gan alw am gadoediad ac yn awdurdodi gweithredoedd milwrol er mwyn amddiffyn sifiliaid. Dechreuodd clymblaid gan gynnwys nifer o aelod-wladwriaethau NATO weithredu gwaharddiad hedfan dros Libia, ac ar 20 Mawrth cytunodd aelodau NATO i weithredu embargo arfau yn erbyn Libia trwy Ymgyrch Amddiffynnydd Unol. Ar 24 Mawrth cytunodd NATO i gymryd rheolaeth dros y gwaharddiad hedfan. Dechreuodd NATO weithredu Penderfyniad 1973 yn swyddogol ar 27 Mawrth gyda chymorth Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig.

Aelodaeth[golygu]

Map yn dangos cysylltiadau â NATO yn Ewrop
NATO affiliations in Europe.svg
     Aelodau NATO     Cynllun Gweithredol i Ymaelodi     Deialog Ddwys trafodaethau i ymaelodi bron wedi eu cwblháu       Cynllun Gweithredol dros Bartneriaeth Unigol cytundebau unigol gyda NATO
      Partneriaeth dros Heddwch

Mae NATO yn cynnwys 28 o aelodau: Albania, yr Almaen, Bwlgaria, Canada, Croatia, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Norwy, Portiwgal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, y Weriniaeth Tsiec, Twrci, a'r Unol Daleithiau.

Ychwanegwyd 16 aelod newydd i NATO y 50 mlynedd ers iddo ffurfio ym 1949. Ymunodd Gwlad Groeg a Thwrci ym mis Chwefror 1952. Ymunodd yr Almaen ddwywaith: un waith fel Gorllewin yr Almaen ym 1955 ac ar ôl aduniad yr Almaen ym 1990 daeth dwyrain y wlad newydd yn aelod o NATO, hefyd. Ymunodd Sbaen ar 30 Mai 1982 a Gwlad Pwyl, Hwngari, a'r Weriniaeth Tsiec, cyn-aelodau Cytundeb Warsaw, ar 12 Mawrth 1999. Ymunodd cyn-aelodau Cytundeb Warsaw Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Rwmania, a Slofacia, a chyn-weriniaeth Iwgoslafia Slofenia ar 9 Mawrth 2004. Ymunodd Albania a Chroatia ar 1 Ebrill 2009.

Ehangu yn y dyfodol[golygu]

Prif erthygl: Ehangu NATO.

Daw aelodaeth newydd i'r cynghrair yn bennaf o Ddwyrain Ewrop a'r Balcanau, yn cynnwys cyn-aelodau Cytundeb Warsaw. Yn uwchgynhadledd 2008 yn Bucureşti, gwnaed addewid i wahodd tair gwlad i ymuno yn y dyfodol: Gweriniaeth Macedonia,[2] Georgia, a'r Wcráin.[3] Er iddi gyflawni'r gofynion am aelodaeth, ataliwyd esgyniad Macedonia gan Wlad Groeg, hyd nes ceir datrysiad i'r anghydfod dros enw Macedonia.[4] Yn ogystal nid yw Cyprus wedi agosáu tuag at gysylltiadau pellach, yn rhannol oherwydd gwrthwyneb gan Dwrci.[5]

Mae gwledydd eraill bydd o bosib yn ymaelodi yn cynnwys Montenegro a Bosnia a Hercegovina, a ymunodd â'r Siarter Adriatig o aelodau posib yn 2008.[6] Parheir Rwsia wrth wrthwynebu ehangu pellach gan NATO, gan ei weld yn anghyson â chytundebau rhwng yr arweinydd Sofietaidd Mikhail Gorbachev ac Arlywydd yr Unol Daleithiau George H. W. Bush tua diwedd y Rhyfel Oer a alluogwyd am aduniad heddychlon o'r Almaen. Ystyrid polisi ehangu NATO gan Foscfa fel parhad o geisiadau y Rhyfel Oer i amgylchynu ac ynysu Rwsia.[7]

Hanes[golygu]

17 Mawrth, 1948: Arwyddodd gwledydd Benelwcs, Ffrainc a'r Deyrnas Unedig Gytundeb Brwsel, rhagflaenydd Cytundeb NATO.

4 Ebrill, 1949: Arwyddwyd Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yn Washington, DC.

14 Mai, 1955: Arwyddwyd Cytundeb Warsaw gan yr Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop er mwyn gwrthbwyso NATO. Gwrthwynebant ei gilydd yn ystod y Rhyfel Oer, ond ar ôl cwymp y Llen Haearn dechreuodd Cytundeb Warsaw ddatgymalu.

1966: Penderfynodd Charles de Gaulle, arlywydd Ffrainc, ddiddymu cydweithrediad Ffrainc yng nghyngor milwrol NATO a dechrau rhaglen amddiffyn niwclear ei hun. Mewn canlyniad, symudwyd pencadlys NATO o Baris i Frwsel ar 16 Hydref, 1967.

31 Mawrth, 1991: Daeth Cytundeb Warsaw i ben (yn swyddogol ar 1 Gorffennaf).

8 Gorffennaf, 1997: Gwahoddwyd Hwngari, y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl i ymuno â NATO. Ymunasant yn 1999.

24 Mawrth, 1999: Cyrch milwrol cyntaf NATO yn ystod y Rhyfel yn Kosovo; gweler uchod.

12 Medi, 2001: Gweithredwyd Erthygl 5 y cytundeb am y tro cyntaf erioed ar ôl yr ymosodiad terfysgol ar Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd.

21 Tachwedd, 2002: Gwahoddwyd Estonia, Latfia, Lithwania, Slofenia, Slofacia, Bwlgaria a Romania i ymuno â NATO. Ymunasant ar 29 Mawrth, 2004. Mae'n bosibl bydd Albania a Chyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn cael ymuno yn y dyfodol, ond bydd rhaid cyflawni amodau economaidd, gwleidyddol a milwrol cyn hynny. Ymgeisiodd Croatia ymuno yn 2002.

10 Chwefror, 2003: Roedd NATO yn wynebu argyfwng am fod Ffrainc a Gwlad Belg ddim yn cytuno ar fesurau i amddiffyn Twrci pe bai rhyfel yn erbyn Irac. Doedd yr Almaen ddim yn anghytuno yn swyddogol, ond roedd yn dweud bod hi'n cefnogi'r feto.

16 Ebrill, 2002: Cytunodd NATO i anfon y Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol (ISAF) i Affganistan. Dyma oedd y tro cyntaf i NATO benderfynu gweithredu y tu allan i'w ffiniau gweithredu swyddogol.

19 Mehefin, 2003: Newidiwyd strwythur milwrol NATO: Sefydlwyd Trawsnewidiad Rheolaeth y Cynghrair (Allied Command Transformation) i gymryd lle Prif Reolwr y Cynghrair (Supreme Allied Commander).

29 Mawrth, 2004: Ymunodd Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Romania, Slofacia a Slofenia â NATO.

Ysgrifenyddion Cyffredinol NATO[golygu]

  1. Yr Arglwydd Ismay (Y Deyrnas Unedig): 4 Ebrill, 1952 - 16 Mai, 1957
  2. Paul-Henri Spaak (Gwlad Belg): 16 Mai, 1957 - 21 Ebrill, 1961
  3. Dirk Stikker (Yr Iseldiroedd): 21 Ebrill, 1961 - 1 Awst, 1964
  4. Manlio Brosio (Yr Eidal): 1 Awst, 1964 - 1 Hydref, 1971
  5. Joseph Luns (Yr Iseldiroedd): 1 Hydref, 1971 - 25 Mehefin, 1984
  6. Yr Arglwydd Carington (Y Deyrnas Unedig): 25 Mehefin, 1984 - 1 Gorffennaf, 1988
  7. Manfred Wörner (Yr Almaen): 1 Gorffennaf, 1988- 13 Awst, 1994
  8. Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 13 Awst - 17 Hydref 1994
  9. Willy Claes (Gwlad Belg): 17 Hydref, 1994 - 20 Hydref, 1995
  10. Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 20 Hydref - 5 Rhagfyr, 1995
  11. Javier Solana (Sbaen): 5 Rhagfyr, 1995 - 6 Hydref, 1999
  12. George Robertson (Y Deyrnas Unedig): 14 Hydref, 1999 - 1 Ionawr, 2004
  13. Jaap de Hoop Scheffer (Yr Iseldiroedd): 1 Ionawr, 2004 - 1 Awst 2009
  14. Anders Fogh Rasmussen (Denmarc): 1 Awst, 2004 - presennol.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Operation Ocean Shield. Manw.nato.int.
  2. Mewn datganiadau swyddogol NATO, cyfeirir at y wlad fel "cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia", gyda throednodyn yn dweud "mae Twrci yn adnabod Gweriniaeth Macedonia dan ei enw cyfansoddiadol"; gweler anghydfod dros enw Macedonia.
  3. George J, Teigen JM (2008). NATO Enlargement and Institution Building: Military Personnel Policy Challenges in the Post-Soviet Context, European Security, Cyfrol 17, Rhifyn 2, tud. 346. DOI:10.1080/09662830802642512URL
  4. "Croatia & Albania Invited Into NATO", BalkanInsight, 3 April 2008.
  5. Simsek, Ayhan. "Cyprus a sticking point in EU-NATO co-operation", Southeast European Times, 14 Mehefin 2007.
  6. Ramadanovic, Jusuf a Rudovic, Nedjeljko. "Montenegro, BiH join Adriatic Charter", Southeast European Times, 12 Medi 2008.
  7. "Condoleezza Rice wants Russia to acknowledge United States's interests on post-Soviet space", Pravda, 4 Mai 2006.

Dolenni allanol[golygu]