Y tu allan i'r ardal

Oddi ar Wicipedia
Y tu allan i'r ardal

Mae'r term "y tu allan i'r ardal" (Saesneg: out of area) yn cyfeirio at weithredoedd naill ai gan y cynghrair milwrol o NATO neu mewn cyd-destunau arbennig gan wladwriaethau unigol sydd yn aelodau NATO a ddigwyddir mewn tiriogaethau y tu hwnt i ffiniau aelod-wladwriaethau NATO. Yn ôl Erthygl 5 Cytundeb Gogledd yr Iwerydd, y cytundeb a sefydlodd NATO, addewir yr arwyddwyr i ystyried ymosodiad ar un o aelodau'r cynghrair yn ymosodiad ar bob un ohonynt. Diffiniwyd ardal gweithredu NATO, hynny yw yr ardal sydd yn destun i Erthygl 5, gan Erthygl 6, gan gynnwys tiriogaethau'r aelod-wladwriaethau yng Ngogledd America ac Ewrop, tiriogaeth Ffrengig Algeria, lluoedd meddiannu'r aelodau yn Ewrop, ac ynysoedd, llongau, ac awyrennau a berchnogir gan aelodau yn ardal Gogledd yr Iwerydd uwchben Trofan Cancr. Gelwir yr ardal hon yn aml yn ardal Gogledd yr Iwerydd neu'r ardal Ewro-Iwerydd.

Pan arwyddwyd Cytundeb Gogledd yr Iwerydd ym 1949, roedd gan nifer o'r gwladwriaethau a'i arwyddodd ddiddordebau pwysig y tu allan i diriogaeth uniongyrchol y cynghrair. Roedd gan y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, a Phortiwgal i gyd drefedigaethau yn Affrica ac Asia, ac roedd gan yr Unol Daleithiau ddiddordebau economaidd a milwrol o gwmpas y byd. Er nad oedd rhwymedigaeth gyfreithiol gan aelod-wladwriaethau NATO i gynorthwyo'i gilydd y tu allan i'r ardal, yr oedd disgwyliad anffurfiol ymysg gwladwriaethau y gallent ddibynnu ar eu cynghreiriaid am rywfaint o gymorth.[1]

Yn wreiddiol cyfeiriodd y term at ymgyrchoedd brwydro ar raddfa fawr, ond erbyn heddiw mae'n cynnwys amrediad eangach o weithredoedd milwrol, gan gynnwys rheoli argyfyngau, cadw'r heddwch, a heddychu, a ddigwyddir y tu allan i ffiniau aelodau'r cynghrair.[2]

Yn ystod y Rhyfel Oer bu dadleuon dros rôl NATO mewn materion y tu allan i'w ardal a arweiniodd at ambell anghydfod difrifol iawn rhwng cynghreiriaid, yn bennaf argyfwng Suez ym 1956 a'r ymateb i oresgyniad Affganistan gan yr Undeb Sofietaidd ym 1979. Ond ers cwymp Cytundeb Warsaw, gelyn NATO, ar ddiwedd y Rhyfel Oer bu mwy o undod yn y cynghrair parthed materion y tu allan i'w ardal, gan ddechrau â Rhyfel y Gwlff. Yn y 1990au ymyrrodd NATO yn uniongyrchol mewn dau ryfel yn y Balcanau, ac ym 1999 cytunwyd ar Gysyniad Strategol newydd gan y cynghrair i ganiatáu ymgyrchoedd nad oedd yn cwrdd ag amodau Erthygl 5. Parhawyd ymyraethau gan NATO yn yr unfed ganrif ar hugain yn Affganistan a Libia.

Argyfwng Suez[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Argyfwng Suez.

Goresgyniad Affganistan gan yr Undeb Sofietaidd[golygu | golygu cod]

Rhyfel Bosnia[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Rhyfel Bosnia.

Rhyfel Kosovo[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Rhyfel Kosovo.

Rhyfel Affganistan[golygu | golygu cod]

Prif: ISAF

Rhyfel Cartref Libia[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Gwrthryfel Libia, 2011.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thies (2009), t. 202.
  2. Medcalf (2005), t. 50.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Medcalf, J. NATO: A Beginner's Guide (Rhydychen, Oneworld, 2005).
  • Rynning, S. NATO Renewed: The Power and Purpose of Transatlantic Cooperation (Basingstoke, Palgrave Macmillan, 2005).
  • Thies, W. J. Why NATO Endures (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2009).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: y tu allan i'r ardal o'r Saesneg "out of area". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.