Llinell amser o ymaelodaethau gwledydd NATO. Dynodir gwledydd oedd yn aelodau NATO yn barod ar y pryd gan las tywyll. Dynodir aelodau newydd gan las golau.
Cynghrair milwrol sydd yn cynnwys 29 o aelod-wladwriaethau o Ogledd America ac Ewrop yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Y ddwy aelod o Ogledd America yw Canada a'r Unol Daleithiau . Mae gan bob un o'r aelodau luoedd milwrol, er nad oes gan Wlad yr Iâ fyddin arferol (ond mae ganddi gwylwyr y glannau milwrol ac uned fechan o filwyr ar gyfer ymgyrchoedd i gadw'r heddwch ). Mae gan dri o aelodau NATO arfau niwclear : Ffrainc , y Deyrnas Unedig , a'r Unol Daleithiau .
Aelod-wladwriaethau yn ôl dyddiad eu hymaelodaeth [ golygu | golygu cod ]
Dyddiad
Gwlad
Ehangiad
Nodiadau
4 Ebrill 1949
Gwlad Belg
Sefydlwyr
Canada
Denmarc
Nid yw aelodaeth Denmarc o NATO yn cynnwys Føroyar na'r Ynys Las , yn wahanol i'w haelodaeth yn yr Undeb Ewropeaidd .
Ffrainc
Gadawodd Ffrainc reolaeth filwrol gyfunol NATO ym 1966 i ddilyn system amddiffyn annibynnol ond dychwelodd at aelodaeth lawn ar 4 Ebrill 2009.
Gwlad yr Iâ
Ymunodd Gwlad yr Iâ, yr unig aelod sydd heb fyddin sefydlog, ar yr amod ni fydd rhaid iddi sefydlu un. Er hyn, roedd yn aelod pwysig oherwydd ei leoliad daearyddol strategol yng Nghefnfor yr Iwerydd . Mae ganddi wylwyr y glannau ac yn ddiweddar llu cadw'r heddwch gwirfoddol, a hyfforddir yn Norwy ar gyfer NATO.
Yr Eidal
Lwcsembwrg
Yr Iseldiroedd
Norwy
Portiwgal
Y Deyrnas Unedig
Unol Daleithiau America
18 Chwefror 1952
Groeg
Cyntaf
Tynodd Gwlad Groeg ei luoedd yn ôl o strwythur rheolaeth filwrol NATO rhwng 1974 a 1980 o ganlyniad i densiynau rhyngddi a Thwrci yn sgîl goresgyniad Cyprus gan Dwrci ym 1974.
Twrci
9 Mai 1955
Yr Almaen
Ail
Ymaelododd fel Gorllewin yr Almaen ; adunodd â Saarland ym 1957 a thiriogaethau Berlin a'r cyn-Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR) ar 3 Hydref 1990. Roedd y DDR yn aelod o Gytundeb Warsaw , 1956-1990.
30 Mai 1982
Sbaen
Trydydd
12 Mawrth 1999
Tsiecia
Pedwerydd
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia .
Hwngari
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
Gwlad Pwyl
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
29 Mawrth 2004
Bwlgaria
Pumed
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
Estonia
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd .
Latfia
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Lithwania
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Rwmania
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
Slofacia
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia.
Slofenia
Cyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia , 1945-1991 (Amhleidiol )
1 Ebrill 2009
Albania
Chweched
Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1968.
Croatia
Cyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol)
5 Mehefin 2017
Montenegro
Seithfed
Cyn-weriniaeth Iwgoslafia
27 gorymdaith 2020
Gogledd Macedonia
Seithfed
Cyn-weriniaeth Iwgoslafia