Gwylwyr y glannau
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | sefydliad achub ar y môr, specialist law enforcement agency, cangen o'r fyddin ![]() |
Rhan o | llynges ![]() |
![]() |
Badau gwylwyr glannau Japan yn ymarfer yn erbyn cwch o "fôr-ladron".
Llu arforol sydd yn gorfodi deddfau'r wlad ar y môr ac yn cynorthwyo llongau yw gwylwyr y glannau. Mewn rhai gwledydd mae gwylwyr y glannau yn un o ganghennau'r lluoedd arfog, ac yn aml hefyd yn un o'r gwasanaethau brys ac yn ymddwyn fel heddlu'r arfordir a gwasanaeth achub.
Gall gwylwyr y glannau fod yn gyfrifol am batrolio'r arfordir i atal smyglo a môr-ladrad, cynnal a chadw goleudai, bwiau, a chymhorthion mordwyo eraill, rhoi cymorth mewn argyfyngau i forwyr ac i'r rhai sy'n dioddef o drychinebau naturiol megis llifogydd a chorwyntoedd, torri'r iâ ar ddyfrffyrdd mewn gwledydd oer, a chasglu data meteorolegol.