Cynghrair milwrol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cytundeb i gydweithredu ym maes amddiffyn a chydymladd yn achos rhyfel yw cynghrair milwrol. Offeryn yw cynghrair sydd yn galluogi gwladwriaeth i weithredu diddordebau'r wlad, i wella diogelwch cenedlaethol, ac i gyfuno'i hadnoddau â gwladwriaethau eraill er lles holl aelodau'r cynghrair.[1]

Cafwyd nifer o gytundebau o'r fath dros y canrifoedd. Yn ôl prosiect ATOP bu 648 o gynghreiriau rhwng 1815 a 2003.[1] Dominyddwyd hanes ail hanner yr 20fed ganrif gan yr anghydfod a chystadlu rhwng gwledydd NATO, cynghrair a sefydlwyd gan rai o wledydd Ewrop a Gogledd America, a gwledydd Cytundeb Warsaw dan arweinyddiaeth yr hen Undeb Sofietaidd.

Diffiniad[golygu]

Ceir nifer o wahanol fathau o gynghrair. Wrth geisio eu diffinio, gellir dosbarthu cynghreiriau yn gategorïau gan gynnwys amddiffynnol, ymosodol, cytundebau i beidio ag ymosod, cytundebau amhleidioldeb, a chytundebau ymgynghori. Gall y categorïau hyn gorgyffwrdd ei gilydd.[2] Mae cynghreiriau ymosodol pur yn brin iawn, ac ymddangosir eu bod yn ffenomen o'r 19eg ganrif.[3]

Gwahaniaethir rhwng cynghreiriau, sy'n cryfhau diogelwch eu haelodau parthed gweithredyddion allanol, a threfniadau diogelwch cyfunol eraill megis cytundebau rheoli arfau sydd yn cryfhau diogelwch eu haelodau parthed ei gilydd. Dibynnir cynghreiriau ar rym milwrol i atal fygythiadau allanol.[2]

Gan amlaf gwahaniaethir rhwng cynghreiriau ac ymochreddau, megis y Mudiad Amhleidiol yn ystod y Rhyfel Oer.[4]

Damcaniaethau ar ffurfio cynghreiriau[golygu]

Wrth ymuno â chyngrair, mae gwladwriaeth yn ystyried y buddion diogelwch a ddaw o ymaelodaeth yn erbyn y costau a ddaw, megis dibynniaeth ar rym gwladwriaethau eraill a cholli ymreolaeth.[5] Mae'r penderfynyddion rhyngwladol sy'n effeithio ar ffurfio cynghrair yn cynnwys cydbwysedd grym, cydbwysedd bygythiad, ac i reoli partneriaid o fewn y cynghrair.[6] Mae'r penderfynyddion mewnwladol yn cynnwys cyfeiriadeddau gwleidyddol tebyg gan lywodraethau: gwerthoedd, diddordebau, a chanfyddiadau bygythiadau cyffredin. Gall newidiadau mewn unrhyw o'r penderfynyddion hyn arwain at chwalfa'r cynghrair.[7]

Parhad a chwymp[golygu]

Ers yr ugeinfed ganrif yn hanes cysylltiadau rhyngwladol, mae cynghreiriau yn tueddu i oroesi'n hirach nac ynghynt, yn arbennig y rhai nad sydd yn ymosodol o gwbl.[3] Oes cyfartalog cynghreiriau yn y cyfnod 1815–1865 oedd 8.7 mlynedd, i gymharu â 17.7 mlynedd yn y cyfnod 1945–1995. Yn ôl Duffield, Michota, a Miller, "mae rhyfeloedd mawr yn tueddu i ddifa cynghreiriau o'r tir".[5] Enghraifft o hyn yw'r Ail Ryfel Byd: ar ôl dod i ben, chwalodd nid yn unig Cynghrair yr Axis a gollodd y rhyfel ond hefyd y Cynghreiriaid buddugol.

Mae'n werth nodi bod cynghreiriau rhwng democratiaethau rhyddfrydol yn tueddu i barhau am hirach, gan fod trawsnewidiadau esmwyth o rym mewnwladol.[8]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Duffield, Michota, a Miller (2008), t. 292.
  2. 2.0 2.1 Duffield, Michota, a Miller (2008), t. 293.
  3. 3.0 3.1 Duffield, Michota, a Miller (2008), t. 294.
  4. Leeds (2008), t. 9.
  5. 5.0 5.1 Duffield, Michota, a Miller (2008), t. 295.
  6. Duffield, Michota, a Miller (2008), t. 296.
  7. Duffield, Michota, a Miller (2008), t. 297.
  8. Duffield, Michota, a Miller (2008), t. 298.

Ffynonellau[golygu]

  • Bellamy, A. J. Security Communities and their Neighbours (Basingstoke, Palgrave Macmillan, 2004).
  • Duffield, J. S., Michota, Cynthia, a Miller, S. A. 'Alliances', yn Security Studies: An Introduction, golygwyd gan Paul Williams (Llundain, Routledge, 2008), tt. 291–306.
  • Leeds, B. A. 'Alliance', yn Encyclopedia of International Relations and Global Politics, golygwyd gan Martin Griffiths (Efrog Newydd, Routledge, 2008), tt. 9–11.

Darllen pellach[golygu]

  • Snyder, G. H. Alliance Politics (Ithaca, Gwasg Prifysgol Cornell, 1997).