Sgwrs:Aelod-wladwriaethau NATO

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gwladwriaethau NATO[golygu cod]

Bore da Adam! Mae rhywbeth yn chwithig yn y teitl 'Aelod-wladwriaethau NATO'. 'Member States' ydy'r Saesneg, ond yn y Gymraeg, pan ddywedwn 'Gwladwriaethau NATO', mae'n amlwg mai 'Y gwladwriaethau hynny sy'n perthyn i NATO' a olygir. Mewn gwirionedd, mae'r gair 'Aelod' yn ein ffwndro ac yn ddiangen. Ond os mai dyma a ddefnyddir mewn mannau eraill... Be wyt ti'n ei feddwl? Llywelyn2000 06:04, 14 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Helo Llywelyn. "Aelod-wladwriaeth" neu "aelod wladwriaeth" a ddefnyddir gan lywodraeth y Cynulliad [1], llywodraeth San Steffan [2], awdurdodau lleol yng Nghymru [3] [4], a gwefannau eraill wrth chwilio Google. Yn ogystal dwi'n cofio dysgu am "aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd" am TAG Safon Uwch mewn Gwleidyddiaeth. Mae'r enghreifftiau hyn i gyd yng nghyd-destun yr UE, ond ceir enghraifft yma yng nghyd-destun y Cenhedloedd Unedig [5]. Credaf gallwn ni defnyddio'r un derm wrth gyfeirio at aelodau NATO. Hwyl, —Adam (sgwrscyfraniadau) 13:43, 14 Mai 2011 (UTC)[ateb]
Rwyt yn llygad dy le ac mae angen parhau gyda'r geiriad. Dydy hynny ddim yn golygu mod i'n hapus gydag o! Hen air gwneud, artiffisial ydy o; ych-a-fi! Ga i ddweud hefyd mod i'n gwerthfarwogi dy waith caled yn ddiweddar. Dw i'n methu a rhoi cymaint o amser y dyddiau hyn.... a chymaint i'w wneud! Hwyl! Llywelyn2000 21:45, 14 Mai 2011 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr Llywelyn, yr un fath i dithau am dy waith dros y blynyddoedd! Mae'r Wici yn teimlo braidd yn unig y dyddiau hyn, mae angen cymaint o help arni ag sy'n bosib. —Adam (sgwrscyfraniadau) 00:05, 15 Mai 2011 (UTC)[ateb]