Rhyfel Affganistan (2001–21)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Rhyfel Affganistan (2001–presennol))
Jump to navigation Jump to search

Rhyfel rhyngwladol oedd Rhyfel Affganistan (2001–21) a sbardunwyd gan oresgyniad Affganistan gan luoedd Unol Daleithiau America yn Hydref 2001. Nod gychwynnol yr Unol Daleithiau oedd i ddymchwel llywodraeth y Taleban ac felly atal al-Qaeda, a gyhuddwyd o gynllunio a chyflawni ymosodiadau 11 Medi 2001, rhag lloches yn Affganistan. Wedi cwymp y Taleban yn Rhagfyr 2001, ffurfiwyd clymblaid y Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol (ISAF) dan arweiniad NATO, gydag awdurdod y Cenhedloedd Unedig, i gadw'r heddwch yn y wlad ac i gynorthwyo lluoedd diogelwch y llywodraeth newydd. Lansiwyd gwrthryfel gan y Taleban yn 2003 i frwydro yn erbyn y llywodraeth a lluoedd ISAF drwy ddulliau anghymesur. Gwaethygodd y trais ar draws y wlad, gan beri ISAF i droi at strategaeth gwrthchwyldroadol a chynyddu niferoedd y lluoedd tramor. Yn 2012, cychwynnwyd ar y broses o drosglwyddo dyletswyddau diogelwch i luoedd Affganaidd, a pharatoi i encilio lluoedd ISAF. Daeth ymgyrchoedd milwrol ISAF i ben yn Rhagfyr 2014, a lansiwyd ôl-ymgyrch gan NATO i hyfforddi a chynghori'r Affganiaid. Pum mlynedd yn ddiweddarach, bu grym y Taleban wedi adfer gymaint iddynt orfodi'r Unol Daleithiau i arwyddo cytundeb heddwch ac i encilio'u holl luoedd o'r wlad, a daeth ôl-ymgyrch NATO yn Affganistan i ben yn 2021. Lansiwyd ymgyrch ymosodol gan y Taleban i orchfygu'r holl wlad, a chipiwyd y brifddinas Kabul ganddynt yn Awst 2021.

Dechreuodd y rhyfel ym mis Hydref 2001 wrth i luoedd arfog yr Unol Daleithiau ymosod ar Affganistan fel ymateb i ymosodiadau terfysgol 11 Medi. Cafodd yr Unol Daleithiau gymorth milwrol gan luoedd Affgani Cynghrair y Gogledd a NATO, yn cynnwys milwyr y Deyrnas Unedig, Canada, Awstralia, Ffrainc, Seland Newydd, yr Eidal a'r Almaen. Y goresgyniad oedd dechrau'r hyn a elwir gan rai y "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth".[1]

Ers i'r rhyfel ddechrau mae miloedd o sifiliaid wedi eu lladd, yn cynnwys dwsinau o ferched a phlant a laddwyd pan fomiodd awyrennau Americanaidd bentref yn ne-orllewin Affganistan ar ddechrau Mai 2009. Mae dros 298 o filwyr Prydeinig wedi colli eu bywydau a 1,836 o filwyr NATO wedi colli eu bywydau ers cychwyn y rhyfel (hyd at Mehefin 2010).[2]

Cyfnod y goresgyniad (2001)[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth y sefyllfa annatrys i ben yn sgil ymosodiadau 11 Medi, 2001 yn Unol Daleithiau America: gwrthododd y Taleban estraddodi Osama bin Laden, arweinydd al-Qaeda a gyhuddwyd gan yr Unol Daleithiau o gynllunio'r ymosodiadau, ac felly ymgynghreiriodd lluoedd arbennig Americanaidd â Chynghrair y Gogledd i oresgyn Affganistan a gyrru'r Taleban ar ffo. Disodlwyd y Taleban erbyn Rhagfyr 2001.

Gwrthryfel y Taleban ac ymrwymiad NATO (2002–08)[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Gwrthryfel y Taleban

Yn sgil cwymp y Taleban, bu lluoedd yr Unol Daleithiau a'r glymblaid ryngwladol ar anterth eu grym. Aethant ati i drechu'r Taleban yn filwrol ym mhob rhan o'r wlad, ar y cyd ag ailadeiladu sefydliadau gwladwriaethol. Yng nghanol y 2000au, cafodd y rhyfel yn Affganistan ei alw weithiau yn "y rhyfel da" o'i gymharu â Rhyfel Irac.

Cyfnod y gwrthchwyldro (2008–14)[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn ymateb i atgyfodiad y Taleban, trodd yr Unol Daleithiau at athrawiaeth glasurol gwrthchwyldroadaeth. Dwysaodd y strategaeth hon yn sgil penderfyniad yr Arlywydd Barack Obama yn 2009 i gynyddu dros dro y niferoedd o luoedd Americanaidd yn Affganistan. Defnyddiwyd yr atgyfnerthiadau hyn i amddiffyn y boblogaeth rhag cyrchoedd y Taleban, ac i gefnogi ymdrechion i adfer cyn-wrthryfelwyr i'r gymdeithas wladol.

Yn 2011, cychwynnwyd ar amserlen i drosglwyddo cyfrifoldebau diogelwch yn raddol i luoedd milwrol ac heddluoedd yr Affganiaid, ac i encilio lluoedd tramor yn ôl o'r wlad. Fodd bynnag, bu cyrchoedd gan wrthryfelwyr a therfysgwyr, a marwolaethau sifilaidd a achoswyd gan weithredoedd milwrol y glymblaid, yn parhau'n uchel, ac nid oedd lluoedd Affganiaid yn medru ymdopi â gwrthsefyll y Taleban. Yn ffurfiol, daeth ymgyrch filwrol yr Unol Daleithiau a NATO yn Affganistan i ben yn Rhagfyr 2014.

Cyfnod yr enciliad (2014–21)[golygu | golygu cod y dudalen]

Buddugoliaeth y Taleban[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Ymgyrch ymosodol y Taleban (2021)

Wrth i'r Unol Daleithiau ddechrau encilio'r gweddill o'u lluoedd yn Affganistan ar 1 Mai 2021, lansiwyd ymgyrch ymosodol gan y Taleban yn erbyn y llywodraeth mewn ymgais i orchfygu'r holl wlad a cheisio adfer yr Emiriaeth Islamaidd. Ym misoedd Mehefin a Gorffennaf 2021, llwyddodd y Taleban gipio mwy o diriogaeth nag ar unrhyw bryd ers eu cwymp yn 2001. Erbyn canol mis Awst amgylchynwyd Kabul, y ddinas fawr olaf yn y wlad dan reolaeth y llywodraeth, gan luoedd y Taleban. Ffoes yr Arlywydd Ashraf Ghani o'r wlad, a chwympodd y llywodraeth genedlaethol. Cipiwyd Kabul ganddynt ar 15 Awst, gan sicrhau buddugoliaeth i'r Taleban.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth", BBC, 7 Mawrth, 2002.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-29. Cyrchwyd 2010-06-12.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]