Neidio i'r cynnwys

Ymosodiadau 11 Medi 2001

Oddi ar Wicipedia
Ymosodiadau 11 Medi 2001
Enghraifft o:herwgipio cerbyd awyr, llofruddiaeth dorfol, ymosodiad terfysgol, ymosodiad gan hunanfomiwr Edit this on Wikidata
Dyddiad11 Medi 2001 Edit this on Wikidata
Lladdwyd2,996 Edit this on Wikidata
Rhan oterfysgaeth yn yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan1993 World Trade Center bombing Edit this on Wikidata
LleoliadArlington County, Manhattan, Shanksville Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAmerican Airlines Flight 11, United Airlines Flight 175, American Airlines Flight 77, United Airlines Flight 93 Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres o bedwar cyrch terfysgol ar yr Unol Daleithiau oedd ymosodiadau 11 Medi 2001 (9/11). Fore Mawrth, 11 Medi 2001, meddiannodd 19 o aelodau al-Qaeda,[1][2][3] grŵp terfysgol Islamaidd, bedair awyren fasnachol – trawodd dwy ohonynt i mewn i Dŵr y Gogledd a Thŵr y De yng Nghanolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd, un arall i mewn i'r Pentagon yn Swydd Arlington, Virginia a syrthiodd y llall ar gae yn Swydd Somerset ym Mhennsylvania. Bu farw tua 3,000 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys yr herwgipwyr. Cafodd 25,000 eu hanafu, ac achoswyd problemau iechyd hirdymor, yn ogystal â’r gost ariannol, gydag o leiaf $10 biliwn o ddifrod yn cael ei achosi i eiddo ac adeiladau.[4][5] Dyma oedd yr ymosodiad mwyaf angheuol a gyfeirir ati fel ymosodiad terfysgol, a’r digwyddiad mwyaf angheuol yn hanes gwasanaethau brys yr Unol Daleithiau, gyda 343 o ddynion tân a 72 o blismyn yn cael eu lladd.[6]

Herwgipiwyd pedair awyren teithwyr gan 19 o derfysgwyr al-Qaeda wedi iddynt adael meysydd awyr yng ngogledd-ddwyrain UDA ar eu taith draw i Galiffornia. Trawodd dwy o’r awyrennau, American Airlines Flight 11 ac United Airlines Flight 175, i mewn i dyrau Gogledd a De Canolfan Fasnach y Byd, oedd wedi ei lleoli yn rhan isaf Manhattan, Efrog Newydd. Cwympodd y ddau dŵr, ill dau yn cynnwys 110 o loriau yr un, mewn 1 awr a 42 munud. Hedfanodd trydedd awyren, American Airlines Flight 77, i mewn i adeilad y Pentagon (pencadlys Adran Amddiffyn UDA) yn Swydd Arlington, Virginia. Roedd pedwaredd awyren, United Airlines Flight 93, yn hedfan tuag at Washington D.C, ond disgynnodd mewn cae yn Stoneycreek Township, Pennsylvania wedi i'r teithwyr geisio adennill rheolaeth ar yr awyren oddi ar yr herwgipwyr.

Ymateb yr Unol Daleithiau oedd dechrau "Rhyfel ar Derfysgaeth" gan oresgyn Affganistan i geisio diorseddu'r Taleban a oedd wedi rhoi lloches i derfysgwyr al-Qaeda, y mudiad y credwyd ei fod yn gyfrifol am yr ymosodiad. Roedd bwriad hefyd i estraddodi arweinydd al-Qaeda, sef Osama bin Laden. Mabwysiadodd llawer o wledydd ddeddfwriaeth wrth-derfysg a defnyddio gwasanaethau cudd er mwyn atal ymosodiadau terfysgol pellach. Er bod bin Laden wedi gwadu ar y cychwyn bod ganddo unrhyw gysylltiad â’r ymosodiadau, cyfaddefodd yn 2004 ei gyfrifoldeb a’i rôl yn yr ymosodiadau.[7] Dywedodd al-Qaeda a bin Laden mai presenoldeb milwyr UDA yn Sawdi Arabia, cefnogaeth UDA i Israel a sancsiynau yn erbyn Irac oedd y rhesymau pam lansiwyd yr ymosodiadau. Llwyddodd bin Laden i osgoi cael ei gipio am bron i ddegawd nes iddo gael ei ddarganfod ym Mhacistan yn 2011, a lladdwyd ef mewn cyrch milwrol gan UDA. Cafodd yr ymosodiadau effaith ddifrifol ar economi dinas Efrog Newydd ac ar farchnadoedd y byd. Bu ardal Wall Street ar gau tan 17 Medi a chaewyd gofod awyr UDA a Chanada tan 13 Medi oherwydd yr ofn y byddai ymosodiadau pellach yn digwydd. Erbyn Mai 2002, roedd y gwaith o glirio safle Canolfan Fasnach y Byd, a adnabuwyd erbyn hynny fel ‘Ground zero’, wedi cael ei gwblhau, a chafodd y gwaith o atgyweirio'r Pentagon ei gwblhau o fewn y flwyddyn. Dechreuwyd ailadeiladu Canolfan Fasnach y Byd newydd yn Nhachwedd 2006 ac agorwyd yr adeilad ym mis Tachwedd 2014.[8] Mae nifer o gofebion wedi eu hadeiladu yn Efrog Newydd, yn Virginia ac ym Mhennsylvania, i goffáu’r rhai a gollwyd yn yr ymosodiad.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Al-Qaeda

[golygu | golygu cod]

Mae modd olrhain gwreiddiau al-Qaeda i ymosodiad yr Undeb Sofietaidd ar Affganistan yn 1979. Teithiodd Osama bin Laden i Affganistan er mwyn helpu i drefnu’r mujahideen Arabaidd i wrthsefyll y Sofietiaid.[9] O dan arweinyddiaeth Ayman al-Zawahiri, trowyd bin Laden yn fwy radicalaidd[10] ac, yn 1996, gorchmynnodd bin Laden ei fatwā cyntaf, gan alw ar filwyr America i adael Sawdi Arabia.[11]

Yn ei ail fatwā, a gyhoeddodd yn 1998, dywedodd bin Laden ei fod yn gwrthwynebu polisi tramor UDA tuag at Israel a phresenoldeb milwyr Americanaidd yn Sawdi Arabia ar ôl Rhyfel y Gwlff. Defnyddiai bin Laden destunau Mwslemaidd i ysgogi Mwslemiaid i ymosod ar Americaniaid, sef cynnal jihad neu ryfel sanctaidd, nes bod eu cwynion yn cael eu hateb.[12]

Osama bin Laden

[golygu | golygu cod]
Osama bin Laden yn 1997

Bin Laden oedd prif gynllunydd yr ymosodiadau, er iddo wadu yn y lle cyntaf, ond yna cyfaddefodd yn ddiweddarach bod ganddo law yn yr ymosodiadau terfysgol.[13][14] Dywedodd mewn cyfweliad â gorsaf ddarlledu Al Jazeera yn 2001 nad oedd cysylltiad rhyngddo â gweithredoedd terfysgol 9/11[15] ond dangosodd tystiolaeth fideo ddiweddarach fod ganddo wybodaeth am yr ymosodiadau.[16][17] Ond yn fuan cyn etholiadau arlywyddol UDA yn 2004 cyfaddefodd, mewn datganiad wedi ei dapio, bod al-Qaeda wedi chwarae rôl yn yr ymosodiadau a’i fod ef yn bersonol wedi chwarae rôl uniongyrchol wrth roi cyfarwyddyd i'w ddilynwyr i ymosod ar Ganolfan Fasnach y Byd a’r Pentagon.[18]

Er na wnaeth UDA erioed gyhuddo bin Laden o fod yn gyfrifol am ymosodiadau 9/11 roedd ar restr ‘Most Wanted’ yr FBI yn sgil y bomio terfysgol a ddigwyddodd yn Llysgenhadaeth UDA yn Dar es Salaam, Tansania ac yn Nairobi, Kenya.[19] Bu’r awdurdodau yn chwilio am tua 10 mlynedd, nes i Arlywydd America, Barack Obama, gyhoeddi bod bin Laden wedi cael ei ladd gan luoedd arbennig America yn ei guddfan yn Abbottabad, Pacistan, ar 1 Mai 2011.[20]

Khalid Sheikh Mohammed

[golygu | golygu cod]

Adroddwyd bod Khalid Sheikh Mohammed wedi cyfaddef yn Ebrill 2002 beth oedd ei ran yn yr ymosodiadau, ynghyd â Ramzi bin al-Shibh.[21][22] Dywedwyd yn Adroddiad Comisiwn 9/11, a gyhoeddwyd yn 2004, bod atgasedd Mohammed tuag at UDA yn deillio o’i ‘wrthwynebiad treisgar i bolisi tramor UDA oedd yn ffafrio Israel’. Roedd Mohammed hefyd wedi bod yn gynghorwr ac wedi cyllido ymosodiad Bomio Canolfan Fasnach y Byd yn 1993 ac roedd yn ewythr i Ramzi Yousef, prif fomiwr yr ymosodiad hwnnw.[23][24]

Cymhellion

[golygu | golygu cod]

Roedd cyhoeddiad bin Laden am ‘ryfel sanctaidd’ yn erbyn UDA a’r fatwā, a lofnodwyd gan bin Laden ac eraill yn 1998 yn galw am ladd Americaniaid, yn cael ei weld gan ymchwilwyr fel tystiolaeth o’r rhesymau pam lansiwyd yr ymosodiadau terfysgol. Yn ei ‘Lythyr i America’, yn Nhachwedd 2002, mae bin Laden yn amlinellu’n glir beth oedd rhesymau al-Qaeda am yr ymosodiadau:

  • Cefnogaeth UDA i Israel
  • Cefnogaeth i'r ‘ymosodiadau ar Fwslemiaid’ yn Somalia
  • Cefnogaeth i’r Philipinau yn erbyn Mwslemiaid yng ngwrthdaro Moro
  • Cefnogaeth i erledigaeth Israel yn erbyn Mwslemiaid yn Lebanon
  • Cefnogaeth i weithredoedd Rwsia yn erbyn Mwslemiaid yn Tsetsnia
  • Llywodraethau yn y Dwyrain Canol oedd yn ochri gydag America yn erbyn buddiannau Mwslemiaid
  • Cefnogaeth i ormes India yn erbyn Mwslemiaid yn Kashmir
  • Presenoldeb milwyr America yn Saudi Arabia
  • Sancsiynau yn erbyn Irac[25]

Cynllunio

[golygu | golygu cod]

Pensaer yr ymosodiadau oedd Khalid Sheikh Mohammed, a gyflwynodd y trefniadau a’r cynlluniau ymosod i Osama bin Laden yn 1996 yn y lle cyntaf.[26] Yn 1998, rhoddodd bin Laden sêl bendith i Mohammed fwrw ymlaen â threfnu’r ymosodiadau. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd yn gynnar yn 1999 rhwng Mohammed, bin Laden a dirprwy bin Laden, sef Mohammed Atef. Atef oedd yn darparu cymorth gweithredol, fel helpu i ddewis targedau’r ymosodiadau a helpu gyda threfniadau teithio'r herwgipwyr.

Diagram yn dangos yr ymosodiad ar Ganolfan Fasnach y Byd

Darparodd bin Laden arweinyddiaeth a chefnogaeth ariannol a chwaraeodd ran wrth ddewis yr unigolion a fyddai’n cyfrannu at yr ymosodiadau.[3] Tua diwedd 1999, daeth grŵp o ddynion o gell Hamburg yn yr Almaen i Affganistan. Roedd y grŵp yn cynnwys Mohammed Atta, Marwan al-Shehhi, Ziad Jarrah a Ramzi bin al-Shibh.[27] Dewisodd bin Laden y dynion hyn oherwydd eu bod yn addysgedig, yn medru siarad Saesneg ac wedi cael profiad o fyw yn y Gorllewin.[3] Byddai recriwtiaid newydd yn cael eu hasesu’n rheolaidd am sgiliau arbennig a sylweddolwyd yn fuan bod Hani Hanjour yn dal trwydded peilot masnachol yn barod. Dywedodd Mohammed yn ddiweddarach ei fod wedi helpu’r herwgipwyr i ymdoddi i gymdeithas y Gorllewin drwy ddysgu iddynt sut i archebu bwyd mewn bwytai a gwisgo dillad Gorllewinol. Roedd al-Qaeda wedi defnyddio rhwydwaith byd-eang wrth drefnu’r ymosodiadau – o Faleisia yn Asia, i UDA, i Hamburg yn yr Almaen i gysylltiadau yn Dubai yn y Dwyrain Canol.[26]

Cyrhaeddodd Hanjour San Diego ar 8 Rhagfyr 2000, gan ymuno â Nawaf al-Hazmi. Gadawodd y ddau yn fuan am Arizona, lle bu Hanjour ar gwrs gloywi fel peilot. Cyrhaeddodd Marwan al-Shehhi ddiwedd mis Mai 2000, tra cyrhaeddodd Atta a Jarrah ym Mehefin 2000. Gwrthodwyd cais bin al-Shibh am fisa i ddod i UDA sawl gwaith ac felly arhosodd yn Hamburg, yn cydlynu rhwng Atta a Mohammed. Cafodd aelodau cell Hamburg hyfforddiant peilotiaid yn Ne Fflorida gyda chwmni Huffman Aviation. Yng ngwanwyn 2001 dechreuodd yr ail reng o herwgipwyr gyrraedd UDA[28] Llwyddodd rhai o’r herwgipwyr i gael pasport gan swyddogion llygredig o Saudi oedd â chysylltiadau teuluol gyda nhw neu dderbyn pasport ffug er mwyn cael mynediad i America.

Damcaniaeth rhai yw bod y dyddiad 9/11 wedi cael ei ddewis oherwydd ei debygrwydd i rif argyfwng UDA, sef 9-1-1. Er hynny, dywed Lawrence Wright bod yr herwgipwyr wedi dewis y dyddiad oherwydd pwysigrwydd hanesyddol 11 Medi 1683. Dyma’r dyddiad pan wnaeth Brenin Gwlad Pwyl gychwyn brwydr a wnaeth wrthdroi byddinoedd Mwslimaidd yr Ymerodraeth Otomanaidd rhag cipio Fienna, Awstria. Yng ngolwg bin Laden, dyma’r dyddiad pan wnaeth y Gorllewin ennill y llaw uchaf dros dros Islam, a thrwy gynnal yr ymosodiadau ar y dyddiad hwn, roedd yn gobeithio y medrai Islam wneud cam pwysig yn y rhyfel i ennill dylanwad a phŵer byd-eang.[29]

Roedd yr NSA, y CIA a’r FBI yn ymwybodol ers diwedd 1999 bod trefniadau terfysgol yn cael eu cynllunio gan unigolion a oedd â chysylltiadau â mudiadau terfysgol.

Yr ymosodiadau

[golygu | golygu cod]
Y Pentagon wedi i'r awyren ffrwydro ar ôl gwrthdaro â'r adeilad.

Am 8:46 y bore trawodd American Airlines Flight 11 a'r pum herwgipiwr ar yr awyren i mewn i ochr ogleddol Tŵr Gogledd Canolfan Fasnach y Byd (1 WTC). Am 9:03 y bore trawodd pum herwgipiwr arall ar awyren United Airlines Flight 175 i mewn i ochr ddeheuol Tŵr y De (2 WTC).

Hedfanodd pum herwgipiwr arall awyren American Airlines Flight 77 i mewn i’r Pentagon am 9:37 y bore. Disgynnodd pedwaredd awyren, United Airlines Flight 93, ger Shanksville, Pennsylvania, i'r de-ddwyrain o Pittsburgh, am 10:03, wedi i’r teithwyr ar yr awyren ymladd yn ôl yn erbyn y pedwar herwgipiwr. Targed tebygol yr awyren hon oedd naill ai’r Adeilad Capitol neu’r Tŷ Gwyn, yn Washington D.C, prifddinas yr Unol Daleithiau. Ceisiodd y teithwyr adennill rheolaeth o'r awyren oddi wrth yr herwgipwyr ar ôl iddynt glywed drwy alwadau ffôn bod Awyrennau 11, 77 a 175 wedi taro i mewn i adeiladau’r bore hwnnw. Unwaith y sylweddolodd yr herwgipwyr y medrent golli rheolaeth yr awyren, gwnaed penderfyniad bwriadol ganddynt i gwympo’r awyren.[30][31]

Defnyddiodd rhai teithwyr ac aelodau’r criw wasanaeth ffôn yr awyren i ddarparu manylion - er enghraifft, bod nifer o herwgipwyr ar fwrdd pob awyren; defnyddiwyd pastwn, nwy dagrau, neu chwistrelli pupur i ffrwyno cynorthwywyr yr awyren ac yn ôl rhai adroddiadau, roedd peilotiaid, rhai o gynorthwywyr yr awyren a rhai teithwyr wedi cael eu trywanu gan yr herwgipwyr.[32][33]

Cwympodd tri adeilad yng Nghanolfan Fasnach y Byd. Dymchwelodd Tŵr y De am 9:59 y bore wedi iddo losgi am 56 munud gan dân a achoswyd gan awyren United Airlines Flight 175 a’r ffrwydrad oherwydd tanwydd yr awyren. Dymchwelodd Tŵr y Gogledd am 10:28 y bore wedi iddo fod ar dân am 102 munud.[34]

Mwg[dolen farw] Canolfan Fasnach y Byd

Am 9:42 y bore cyhoeddodd FAA (Federal Aviation Administration) na fyddai awyrennau mewnol, sifilaidd yn hedfan oddi mewn i ofod awyr UDA, a gorchmynnwyd awyrennau a oedd yn hedfan yn barod i lanio yn syth. Trowyd neu ail-gyfeiriwyd pob awyren dramor sifiliaidd i feysydd awyr yng Nghanada neu Fecsico, a gwaharddwyd hwy rhag glanio ar dir UDA am dri diwrnod.[35] Mewn cyfweliad yn Ebrill 2002, dywedodd Khalid Sheikh Mohammed a Ramzi bin-al Shibh mai targed Awyren 93 oedd y Capitol ac nid y Tŷ Gwyn. Roedd y terfysgwyr ar un adeg wedi ystyried targedu adeiladau lle cedwid arfau niwclear.[26]

Lladdwyd 2,996 o bobl (gan gynnwys 19 o’r herwgipwyr) ac anafwyd mwy na 6,000.[36] Roedd cyfanswm y marwolaethau yn cynnwys 265 ar y pedair awyren (ni oroesodd yr un o'r teithwyr ar yr awyrennau), 2,606 yn adeilad Canolfan Fasnach y Byd a’r ardal gyfagos, a 125 yn y Pentagon.[36] Roedd y rhai a fu farw yn sifiliaid, ynghyd â 343 o ymladdwyr tân, 72 o blismyn, 55 personél milwrol a’r 19 herwgipiwr. Collodd mwy na 90 o wledydd ddinasyddion yn yr ymosodiadau. Collodd 67 o Brydeinwyr eu bywydau yn yr ymosodiadau. Lladdwyd 500 yn rhagor o bobl yn ymosodiadau 9/11 na’r nifer a laddwyd yn ymosodiad Pearl Harbor adeg yr Ail Ryfel Byd ar 7 Rhagfyr 1941. Ymosodiadau 9/11 oedd yr ymosodiadau terfysgol mwyaf angheuol yn hanes y byd.[26]

Yn ninas Efrog Newydd bu farw mwy na 90% o weithwyr ac ymwelwyr oedd yn y ddau dŵr pan drawodd yr awyrennau yn erbyn yr adeiladau. Yn Nhŵr y Gogledd, bu farw 1,355 o bobl oedd yn uwch na’r lefel lle trawodd yr awyrennau, gyda phobl yn cael eu dal ac yn marw oherwydd eu bod wedi anadlu mwg, wedi cwympo neu wedi neidio oddi ar y tŵr er mwyn ceisio dianc rhag y mwg a’r fflamau, a bu farw eraill wrth i’r adeilad ddymchwel. Roedd y ffaith bod y grisiau yn y tŵr wedi cael eu dinistrio yn golygu ei bod hi’n amhosib i unrhyw un oedd uwchben y lefel lle trawodd yr awyrennau ddianc. Bu farw 630 o bobl yn Nhŵr y De. Roedd y nifer a fu farw neu a gawsant anafiadau dipyn llai yn y tŵr hwnnw oherwydd roedd pobl wedi dechrau dianc o’r adeilad pan glywsant fod Tŵr y Gogledd wedi cael ei daro. Neidiodd neu cwympodd o leiaf 200 o bobl i’w marwolaeth wrth geisio dianc o’r ddau dŵr oedd yn llosgi, gan ddisgyn ar y strydoedd neu ar doeau adeiladau is gerllaw. Ceisiodd rhai pobl o’r ddau dŵr ddianc i’r toeau y ddwy tŵr, ond nid oedd hyn yn bosib oherwydd y faint o fwg a gwres a oedd wedi cyrraedd y to.[37] Nid oedd unrhyw gynllun ar waith ychwaith ar gyfer achub pobl drwy ddefnyddio hofrenyddion, ac roedd y gwres ofnadwy yn rhwystro hofrenyddion rhag glanio.

Wythnosau ar ôl yr ymosodiad, amcangyfrifwyd bod nifer y marwolaethau dros 6,000, sef mwy na dwbl y nifer a gadarnhawyd yn y lle cyntaf.[38] Roedd darnau o esgyrn yn cael eu canfod ar y safle mor ddiweddar â 2006 pan oedd gweithwyr yn paratoi i ddymchwel hen adeilad Deutsche Bank. Mae cyrff 1,111 o bobl a oedd yng Nghanolfan Fasnach y Byd ar ddiwrnod yr ymosodiad terfysgol yn dal heb eu canfod.[39]

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]
Canolfan Fasnach y Byd newydd yn Efrog Newydd yn 2013

Bu ymateb uniongyrchol i ymosodiadau 9/11 yn UDA ac ar draws y byd. Pasiodd Cyngres UDA raglen gynhwysfawr a oedd yn rhoi iawndal i’r dioddefwyr a’u teuluoedd.[40]

Yn syth wedi’r ymosodiadau, cynyddodd poblogrwydd Arlywydd UDA, George W. Bush, i 90%.[41] Ar 20 Medi 2001, darlledodd neges i’r wlad a Chyngres UDA am ddigwyddiadau 9/11, lle disgrifiodd ymateb arfaethedig y wlad i’r ymosodiadau. Enillodd ymateb Rudy Giuliani, Maer Efrog Newydd, lawer o ganmoliaeth yn Efrog Newydd ac yn genedlaethol, wrth iddo gymryd rôl flaengar yn yr ymateb i’r digwyddiad.[42]

Sefydlwyd nifer o gronfeydd cymorth i helpu i roi cymorth ariannol i'r rhai a oedd wedi goroesi'r ymosodiadau ac i deuluoedd y rhai a laddwyd. Erbyn 11 Medi 2003, roedd 2,833 o geisiadau wedi eu derbyn gan deuluoedd pobl a laddwyd yn yr ymosodiadau.

Yn 2002 sefydlwyd Comisiwn 11 Medi gan yr Arlywydd Bush, a ddaeth i’r casgliad bod diffygion yn y modd roedd y CIA a’r FBI yn monitro terfysgwyr honedig.[43] Yn 2002 crëwyd adran newydd yn Llywodraeth UDA, sef Adran Diogelwch y Famwlad (Department of Homeland Security). Pasiwyd Deddf Gwladgarwyr UDA hefyd gan y Gyngres, a fyddai’n helpu i ddarganfod a chyhuddo pobl o derfysgaeth a throseddau cysylltiedig. Rhoddwyd pwerau ehangach i’r NSA (National Security Agency) er mwyn brwydro yn erbyn terfysgaeth a rhoddwyd mwy o bwerau i wasanaethau cudd UDA wrth gyfrannu a rhannu gwybodaeth am ddinasyddion UDA a dinasyddion gwledydd eraill ar draws y byd.[44]

Troseddau casineb

[golygu | golygu cod]

Yn fuan wedi’r ymosodiadau, ymwelodd yr Arlywydd Bush â Chanolfan Islamaidd fwyaf Washington D.C. a chydnabod cyfraniad enfawr miliynau o Fwslemiaid i UDA a galw ar bobl i'w parchu.[45] Bu nifer o enghreifftiau o erledigaeth a throseddau casineb yn erbyn Mwslemiaid, pobl o Dde Asia ac yn erbyn Siciaid.[46][47] Bu ymosodiadau eraill ar fosgiau ac adeiladau crefyddol eraill, ymosodiadau ar bobl a bu un llofruddiaeth hefyd. Cofnodwyd sawl adroddiad o droseddau fel fandaliaeth, llosgi bwriadol, ymosodiadau, saethu, erledigaeth a bygythiadau mewn nifer o lefydd.[48][49]

Ymateb Mwslemiaid UDA

[golygu | golygu cod]

Beirniadwyd yr ymosodiadau yn syth gan fudiadau a sefydliadau Mwslimaidd, gan alw ar Fwslemiaid Americanaidd i gynnig eu sgiliau a’u hadnoddau i helpu’r bobl a’r teuluoedd a effeithiwyd.[50] Darparodd llawer o’r mudiadau hyn gymorth ariannol a meddygol, bwyd a llety i ddioddefwyr yr ymosodiadau.[51]

Ymateb rhyngwladol

[golygu | golygu cod]

Condemniwyd yr ymosodiadau gan y wasg a llywodraethau ar draws y byd. Dangosodd gwledydd yn fyd-eang eu cefnogaeth a’u hundod gydag UDA.[51] Beirniadwyd yr ymosodiadau gan y mwyafrif o arweinyddion gwledydd y Dwyrain Canol, a chondemniwyd yr ymosodiadau gan Affganistan. Condemniwyd yr ymosodiadau gan Lywydd a Phen Goruchaf Iran.[52][53] Roedd ymateb Irac yn eithriad i’r ymateb hwn.[54] Cynyddodd y tensiynau rhwng Mwslemiaid a phobl eraill yn UDA a gwledydd eraill ar draws y byd.[55]

Beirniadwyd yr ymosodiadau gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, a ddangosodd ei barodrwydd i weithredu yn erbyn unrhyw fath o derfysgaeth yn unol ag amodau ei Siarter.[56] Cyflwynodd nifer o wledydd ddeddfwriaeth gwrth-derfysgaeth a rhewyd cyfrifon banc unigolion a ddrwgdybiwyd o fod â chysylltiadau ag al-Qaeda.[57] Arestiwyd nifer o derfysgwyr honedig mewn nifer o wledydd gan y gwasanaethau cudd ac asiantaethau'r gyfraith.[58][59]

Bu Prif Weinidog Prydain, Tony Blair, yn gadarn ei gefnogaeth i’r Unol Daleithiau gan hedfan i Washington D.C. ychydig ddiwrnodau wedi’r ymosodiadau.[60]

Tua mis wedi’r ymosodiadau, arweiniodd UDA glymblaid o wledydd rhyngwladol i geisio dymchwel cyfundrefn y Taliban yn Affganistan oherwydd bod al-Qaeda wedi cael lloches yno.[61] Rhoddodd Pacistan yr hawl i UDA gael mynediad i’w chanolfannau milwrol ac arestiwyd a throsglwyddwyd dros 600 o aelodau honedig al-Qaeda i UDA.[62][63] Yn sgil hynny, yn Rhagfyr 2001 sefydlodd UDA wersyll carchar Bae Guantánamo, yn ne-ddwyrain Ciwba, er mwyn carcharu unigolion oedd yn cael eu diffinio fel unigolion a oedd yn codi arfau yn erbyn cyfreithiau’r wlad. Mae cyfreithlondeb y gwersylloedd hyn wedi cael ei gwestiynu gan yr Undeb Ewropeaidd a sefydliadau hawliau dynol.[64][65][66]

Rhyfel Affganistan

[golygu | golygu cod]
Milwyr yr Unol Daleithiau yn Afghanistan

Er i Lywodraeth Bush benderfynu mewn cyfarfod yn Camp David ar 15 Medi 2001 na fyddai UDA yn ymosod i ddial ar Irac, penderfynodd yn ddiweddarach, gyda chefnogaeth cynghreiriaid eraill, ei bod am ymosod ar y wlad, gan nodi mai cefnogaeth Saddam Hussein i derfysgaeth oedd y rheswm dros wneud hynny.[67] Roedd 7 allan o bob 10 o bobl America yn credu ar y pryd bod Arlywydd Irac wedi chwarae rhan yn ymosodiadau 9/11,[68] er i'r Arlywydd Bush gyfaddef dair blynedd yn ddiweddarach nad oedd hyn yn wir.

Cyhoeddodd Cyngor NATO bod yr ymosodiadau terfysgol ar UDA yn ymosodiad ar bob un o wledydd NATO. Cyhoeddodd Llywodraeth Bush ‘Ryfel ar Derfysgaeth’ a datgan mai ei fwriad oedd dwyn bin Laden ac al-Qaeda i gyfiawnder a rhwystro rhwydweithiau terfysgol eraill rhag datblygu.[69] Byddai hyn yn digwydd drwy osod sancsiynau economaidd a milwrol ar wledydd oedd yn llochesu terfysgwyr, cynyddu monitro byd-eang ar derfysgaeth a rhannu cudd-wybodaeth.

Ar 14 Medi 2001, pasiodd Cyngres UDA Ddeddf Awdurdodi Grym Milwrol yn Erbyn Terfysgwyr (Authorization for Use of Military Force Against Terrorists), a roddai’r awdurdod a’r pŵer i’r Arlywydd ddefnyddio'r grymoedd angenrheidiol yn erbyn y rhai oedd wedi cynllunio, trefnu, helpu a gweithredu ymosodiadau 11 Medi, neu a oedd wedi rhoi lloches i unigolion yn gysylltiedig â 9/11.

Ar 7 Hydref 2001, dechreuodd y Rhyfel yn Affganistan pan ddechreuodd lluoedd UDA a Phrydain gynnal cyrchoedd bomio o’r awyr yn targedu gwersylloedd y Taliban ac al-Qaeda. Goresgynnwyd Affganistan drwy ddefnyddio milwyr tir y Lluoedd Arbennig. Arweiniodd hyn yn y pen draw at chwalu rheolaeth y Taliban yn Affganistan gyda Chwymp Kandahar ar 7 Rhagfyr 2001 o dan arweiniad UDA a lluoedd clymbleidiol. Mae’r gwrthdaro yn Affganistan rhwng cefnogwyr y Taliban a lluoedd Affganistan, sy’n cael cefnogaeth gan NATO, yn parhau hyd heddiw.[70]

Atgyweiriwyd y rhannau o’r Pentagon a ddifrodwyd o fewn blwyddyn i’r ymosodiadau[71] a dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Canolfan Fasnach y Byd newydd yn 2006, gyda'r adeilad hwnnw'n cael ei ailagor ar 3 Tachwedd 2014. Ailadeiladwyd nifer o dyrrau eraill hefyd ar y safle.[72]

Cofebion

[golygu | golygu cod]

Mae nifer o gofebion wedi eu hadeiladu hefyd i gofnodi beth ddigwyddodd ac enwau’r bobl a fu farw. Agorwyd Cofeb ac Amgueddfa Genedlaethol 11 Medi gyferbyn â safle Canolfan Fasnach y Byd yn 2011 a 2014.[43] Mae ysgoloriaethau ac elusennau wedi cael eu sefydlu gan deuluoedd yr unigolion a fu farw a dioddefwyr yr ymosodiadau, gyda sefydliadau ac unigolion preifat yn cyfrannu at eu creu a'u sefydlu.[73]

Yn Efrog Newydd, mae enwau’r unigolion a fu farw yn yr ymosodiad yn cael eu darllen yn gyhoeddus yn flynyddol yno. Mae Arlywydd UDA yn mynychu gwasanaeth coffa yn y Pentagon[74] ac mae Arlywydd UDA yn gofyn bod Diwrnod Gwladgarwyr yn cael ei goffáu bob blwyddyn gyda munud o dawelwch.

Marwolaethau yn ôl gwlad

[golygu | golygu cod]
Gwlad Marwolaethau Cyfeirnod(au)
Baner Antiga a Barbwda Antiga a Barbwda 3 [75]
Baner Yr Ariannin Yr Ariannin 4 [76]
Baner Armenia Armenia 1
Baner Awstralia Awstralia 11 [77]
Baner Awstria Awstria 1
Baner Aserbaijan Aserbaijan 1
Baner Y Bahamas Y Bahamas 1
Baner Bangladesh Bangladesh 6 [78]
Baner Barbados Barbados 3 [75]
Baner Belarws Belarws 1 [79]
Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 1 [80]
Baner Belîs Belîs 1
Baner Bermuda Bermuda 3 [75][81]
Baner Bolifia Bolifia 1
Baner Brasil Brasil 3 [82]
Baner Canada Canada 24 [83][84][85][86]
Baner Tsile Tsile 3 [87]
Baner Tsieina Tsieina 3
Baner Colombia Colombia 18 [87]
Baner Costa Rica Costa Rica 1
Baner Ciwba Ciwba 1
Baner Cyprus Cyprus 1
Baner Tsiecia Tsiecia 1
Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo 1
Baner Dominica Dominica 2 [75]
Baner Gweriniaeth Dominica Gweriniaeth Dominica 47 [87][88]
Baner Ecwador Ecwador 13 [87]
Baner Yr Aifft Yr Aifft 1
Baner El Salfador El Salfador 2
Baner Ethiopia Ethiopia 3 [89]
Baner Ffrainc Ffrainc 4 [90]
Baner Y Gambia Y Gambia 1
Baner Georgia Georgia 1
Baner Yr Almaen Yr Almaen 11
Baner Ghana Ghana 2
Baner Gwlad Groeg Gwlad Groeg 39 [91]
Baner Grenada Grenada 1
Baner Gwatemala Gwatemala 1
Baner Gaiana Gaiana 22 [75]
Baner Haiti Haiti 7 [75]
Baner Hondwras Hondwras 1
Baner India India 41 [92]
Baner Indonesia Indonesia 1 [93]
Baner Iran Iran 1
Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon 6 [94][95]
Baner Israel Israel 5 [96]
Baner Yr Eidal Yr Eidal 10 [97][98]
Baner Y Traeth Ifori Y Traeth Ifori 1
Baner Jamaica Jamaica 19 [75][99]
Baner Japan Japan 24 [85][100]
Baner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen 2 [101][102][103]
Baner Casachstan Casachstan 1
Baner Cenia Cenia 1
Baner Libanus Libanus 3
Baner Liberia Liberia 1
Baner Lithwania Lithwania 1
Baner Lwcsembwrg Lwcsembwrg 1
Baner Maleisia Maleisia 3 [104]
Baner Mali Mali 1
Baner Mecsico Mecsico 16 [87]
Baner Moldofa Moldofa 1
Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd 1
Baner Seland Newydd Seland Newydd 2 [105][106]
Baner Nicaragwa Nicaragwa 1
Baner Nigeria Nigeria 1
Baner Norwy Norwy 1
Baner Pacistan Pacistan 8 [107]
Baner Panamâ Panamâ 1
Baner Paragwái Paragwái 1
Baner Periw Periw 5
Baner Y Philipinau Y Philipinau 16 [108][109]
Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl 6
Baner Portiwgal Portiwgal 5 [110]
Baner Rwmania Rwmania 4 [111]
Baner Rwsia Rwsia 1
Baner Sant Kitts-Nevis Sant Kitts-Nevis 1
Baner Sant Lwsia Sant Lwsia 2 [75]
Baner Sant Vincent a'r Grenadines Sant Vincent a'r Grenadines 1
Baner Slofacia Slofacia 1
Baner De Affrica De Affrica 2
Baner De Affrica De Affrica 28 [85][112]
Baner Sbaen Sbaen 1 [113]
Baner Sri Lanca Sri Lanca 1 [114]
Baner Sweden Sweden 1 [115][116]
Baner Y Swistir Y Swistir 2
Baner Taiwan Taiwan 1
Baner Gwlad Tai Gwlad Tai 2 [117]
Baner Togo Togo 1
Baner Trinidad a Thobago Trinidad a Thobago 14 [75]
Baner Twrci Twrci 1
Baner Wcráin Wcráin 1
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig 67 [85][118][119]
Baner Wrwgwái Wrwgwái 1 [120]
Baner Wsbecistan Wsbecistan 1
Baner Feneswela Feneswela 1
Baner Fietnam Fietnam 1
Baner Iemen Iemen 1 [121]
Baner Sambia Sambia 1
Baner Simbabwe Simbabwe 1

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Moghadam, Assaf, 1974- (2008). The globalization of martyrdom : Al Qaeda, Salafi Jihad, and the diffusion of suicide attacks. Baltimore: Johns Hopkins University Press. ISBN 978-0-8018-9055-0. OCLC 213765665.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. "Special Reports - The Salafist Movement | Al Qaeda's New Front | FRONTLINE | PBS". www.pbs.org. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  3. 3.0 3.1 3.2 Wright, Lawrence, 1947-. The looming tower : Al-Qaeda and the road to 9/11 (arg. First edition). New York. ISBN 978-0-375-41486-2. OCLC 64592193.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  4. "The Cost of September 11". www.iags.org. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  5. The impact of 9/11 on politics and war. Morgan, Matthew J. (arg. 1st ed). New York: Palgrave MacMillan. 2009. ISBN 978-0-230-60763-7. OCLC 226357114.CS1 maint: others (link) CS1 maint: extra text (link)
  6. Congress, U. S. (2006). Congressional Record, V. 148, PT. 7, May 23, 2002 to June 12, 2002 (yn Saesneg). U.S. Government Printing Office. ISBN 978-0-16-076125-6.
  7. "Bin Laden claims responsibility for 9/11". CBC News.
  8. "World Trade Center Re-opens as Tallest Building in America - One World Trade Center". web.archive.org. 2015-09-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-04. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  9. "Al-Qaeda's origins and links" (yn Saesneg). 2004-07-20. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  10. Gunaratna, Rohan, 1961- (2002). Inside Al Qaeda : global network of terror. New York: Columbia University Press. ISBN 0-231-50182-X. OCLC 52079138.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  11. "Online NewsHour: Bin Laden's Fatwa". web.archive.org. 2001-10-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2001-10-31. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  12. "Al Qaeda's Second Fatwa | PBS NewsHour | Feb. 23, 1998 | PBS". web.archive.org. 2013-11-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-28. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  13. "Pakistan inquiry orders Bin Laden family to remain". BBC News (yn Saesneg). 2011-07-06. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  14. "FOXNews.com - Pakistan to Demand Taliban Give Up Bin Laden as Iran Seals Afghan Border - U.S. & World". web.archive.org. 2010-05-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-23. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  15. "Al Jazeera English - Archive - Full Transcript Of Bin Ladin's Speech". web.archive.org. 2007-06-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-13. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  16. "Bin Laden on tape: Attacks 'benefited Islam greatly'". web.archive.org. 27 Rhagfyr 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  17. "Transcript: Bin Laden video excerpts" (yn Saesneg). 2001-12-27. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  18. "Bin Laden 9/11 planning video aired - World - CBC News". web.archive.org. 2013-09-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-30. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  19. "FBI — USAMA BIN LADEN". web.archive.org. 2010-10-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-11. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  20. Baker, Peter; Cooper, Helene; Mazzetti, Mark (1 May 2011). "Bin Laden Is Dead, Obama Says". New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  21. "'We left out nuclear targets, for now' | The Guardian | Guardian Unlimited". web.archive.org. 2008-01-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-23. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  22. "September 11 suspect 'confesses'". www.aljazeera.com. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  23. http://www.washingtontimes.com, The Washington Times. "White House power grabs". The Washington Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  24. "Khalid Sheikh Mohammed Terror Indictment Unsealed, Dismissed - Businessweek". web.archive.org. 2011-04-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-17. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  25. Staff, Guardian (2002-11-24). "Full text: bin Laden's 'letter to America'". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  26. 26.0 26.1 26.2 26.3 "September 11 attacks | Facts & Information". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  27. Frantz, Douglas; Jr, Don van Natta; Johnston, David; Bernstein, Richard; Bernstein, Mr (10 Medi 2002). "THREATS AND RESPONSES: PIECES OF A PUZZLE; On Plotters' Path to U.S., A Stop at bin Laden Camp". New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  28. "Staff Monograph on 9/11 and Terrorist Travel" (PDF). 9/11 Commission.
  29. Hudson, John. "How jihadists schedule terrorist attacks". Foreign Policy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  30. States, Government of the United. United Airlines Flight #93 cockpit voice recorder transcript.
  31. Shanksville, Mailing Address: P. O. Box 911; Us, PA 15560 Phone:893-6322 Contact. "History & Culture - Flight 93 National Memorial (U.S. National Park Service)". www.nps.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  32. "The phone line from Flight 93 was still open when a GTE operator heard Todd Beamer say: 'Are you guys ready? Let's roll'". old.post-gazette.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-01. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  33. "CNN.com - Transcripts". transcripts.cnn.com. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  34. Post, Bill Miller Washington. "SKYSCRAPER PROTECTION MIGHT NOT BE FEASIBLE, FEDERAL ENGINEERS SAY". OrlandoSentinel.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  35. "Profiles of 9/11 - About 9/11". web.archive.org. 2011-07-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  36. 36.0 36.1 "Accused 9/11 plotter Khalid Sheikh Mohammed faces New York trial - CNN.com". edition.cnn.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-28. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  37. Scot J. Paltrow and Queena Sook Kim (2001-10-23). "Could Helicopters Have Saved People From the Top of the Trade Center?". Wall Street Journal (yn Saesneg). ISSN 0099-9660. Cyrchwyd 2020-09-02.
  38. "CNN.com - Source: Hijacking suspects linked to Afghanistan - September 29, 2001". edition.cnn.com. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  39. ""Finality": 9/11 victim's remains identified 17 years later". www.cbsnews.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  40. Feinberg, Kenneth R. (2012-06-26). Who Gets what: Fair Compensation After Tragedy and Financial Upheaval (yn Saesneg). PublicAffairs. ISBN 978-1-58648-977-9.
  41. "Presidential Approval Ratings -- George W. Bush". web.archive.org. 2009-04-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-02. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  42. Pooley, Eric (2001-12-31). "Person of the Year 2001 - TIME". Time (yn Saesneg). ISSN 0040-781X. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  43. 43.0 43.1 "September 11 attacks - The September 11 commission and its findings". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  44. Savage, Charlie; Poitras, Laura (11 Mawrth 2014). "How a Court Secretly Evolved, Extending U.S. Spies' Reach". New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  45. Freedman, Samuel G. (2012-09-07). "Six Days After 9/11, Another Anniversary Worth Honoring". New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  46. "New York City Commission on Human Rights". web.archive.org. 3 Chwefror 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2004. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  47. "Hate crime reports up in wake of terrorist attacks". web.archive.org. 27 Tachwedd 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Tachwedd 2005. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  48. "Wayback Machine" (PDF). web.archive.org. 2010-12-03. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-03. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  49. "645 racial incidents reported in week after September 11 - India Abroad | HighBeam Research". web.archive.org. 2011-05-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-11. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  50. "Muslim Americans Condemn Attack - IslamiCity". www.islamicity.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  51. 51.0 51.1 Hertzberg, Hendrik. "Lost Love". The New Yorker (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  52. "Iran's President Says Muslims Reject bin Laden's "Islam"". ISNA (yn Saesneg). 10 Tachwedd 2001. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  53. "Khatami slams bin Laden, defends Hizbullah". Ynetnews (yn Saesneg). 2006-11-09. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  54. "CNN.com - Attacks draw mixed response in Mideast - September 12, 2001". web.archive.org. 2007-11-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-01. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  55. "Muslim community targets racial tension" (yn Saesneg). 2001-09-19. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  56. "September 11 attacks - The attacks". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  57. "G8 - Sommet Evian Summit 2003 - G8 counter-terrorism cooperation since September 11th backgrounder". web.archive.org. 2011-09-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-27. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  58. "Italian police explore Al Qaeda links in cyanide plot". Christian Science Monitor. 7 Mawrth 2002. ISSN 0882-7729. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2020.
  59. "SE Asia unites to smash militant cells". edition.cnn.com. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  60. "President Declares "Freedom at War with Fear"". web.archive.org. 2009-05-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-27. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  61. "CNN.com - U.S. President Bush's speech to United Nations - November 10, 2001". web.archive.org. 2006-06-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-06-15. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  62. "Musharraf `bullied` into supporting US war on terror: ex-General". Zee News (yn Saesneg). 2009-12-11. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  63. "Pakistan and the 'key al-Qaeda' man" (yn Saesneg). 2005-05-04. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  64. "Euro MPs urge Guantanamo closure" (yn Saesneg). 2006-06-13. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  65. "Detainees in Guantanamo Bay, Cuba; Request for Precautionary Measures". hrlibrary.umn.edu. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  66. "USA: Release or fair trials for all remaining Guantánamo detainees". www.amnesty.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  67. "President Discusses Beginning of Operation Iraqi Freedom". georgewbush-whitehouse.archives.gov. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  68. Staff, Guardian (2003-09-07). "US public thinks Saddam had role in 9/11". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  69. "washingtonpost.com". www.washingtonpost.com. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  70. "TERRORISM IN INDONESIA : Role of the Religious Organisations". web.archive.org. 2007-06-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-11. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  71. "Phoenix rises: Pentagon honors 'hard-hat patriots'". web.archive.org. 18 Rhagfyr 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Rhagfyr 2004. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  72. "Lower Manhattan : Current Construction | Project Updates". web.archive.org. 2011-09-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-14. Cyrchwyd 2 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  73. Fessenden, Ford (18 Tachwedd 2002). "9/11; After the World Gave: Where $2 Billion in Kindness Ended Up". New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  74. Andy Newman. "At a Memorial Ceremony, Loss and Tension". City Room (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  75. 75.0 75.1 75.2 75.3 75.4 75.5 75.6 75.7 75.8 "20 Years Later – Remembering The Caribbean Immigrant Victims Of 9/11".
  76. "Página no encontrada". www.clarin.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2008.
  77. Sutton, Ron (8 Medi 2011). "September 11: The Australian stories". SBS. Awstralia: Special Broadcasting Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ebrill 2014. Cyrchwyd 26 Ebrill 2014.
  78. Salam, M. Tawsif (11 Medi 2009). "Tribute: The Bangladeshis Killed in 9/11". The Writer's Club. WordPress. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Tachwedd 2009. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2009.
  79. "Belarusian embassy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2008.
  80. "Overblijfselen enige Belgische slachtoffer 9/11 nog steeds niet gevonden". HLN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2012. Cyrchwyd 2 Medi 2011.
  81. "U.S. Consul Lays Wreath at 9/11 Memorial". BerNews. 11 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2014. Cyrchwyd 12 Hydref 2011.
  82. "Lembranças de dor e perplexidade: Emoção marca cerimônia pelos mortos em 11 de setembro". Jornal do Brasil (yn Portiwgaleg). 11 Hydref 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Hydref 2003. Cyrchwyd 19 Hydref 2003. Dentre eles, os de três brasileiros: Anne Marie Sallerin Ferreira, Sandra Fajardo Smith e Ivan Kyrillos Barbosa
  83. "List of the Canadian victims of 9/11". cnews.canoe.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 2 Mehefin 2011.
  84. "Canadians who died in the September 11, 2001 Disaster". members.shaw.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mehefin 2012. Cyrchwyd 26 Hydref 2008.
  85. 85.0 85.1 85.2 85.3 Atkins, Stephen E. (2011). "International Reactions to September 11". The 9/11 Encyclopedia: Second Edition. Santa Barbara, California: ABC-CLIO, LLC. t. 248. ISBN 978-1-59884-921-9. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mawrth 2019. Cyrchwyd 26 Ebrill 2014. Although the terrorist attacks on September 11, 2001, targeted the United States, many other countries throughout the world were also affected. In addition to the 2,657 Americans killed, 316 foreign nationals from 84 different countries also died in the attacks, including 67 Britons, 28 South Koreans, 26 Japanese, and 25 Canadians. The shock and horror engendered by the attacks were truly international in scope.
  86. Fenlon, Brodie (6 Med 2011). "The Canadians Who Died In 9/11: List Of Victims Of The September 11 Terrorist Attacks". The Huffington Post: Canada. The Huffington Post, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2011. Cyrchwyd 26 Medi 2011.
  87. 87.0 87.1 87.2 87.3 87.4 "Highest percentage of Hispanics killed in 9 /11 were Dominican". Dominican Today. Santo Domingo, Dominican Republic: The Dominican Republic News Source. 10 Medi 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Medi 2009. Cyrchwyd 17 Medi 2009.
  88. "Forty-Seven Dominicans to be Honored at National 9/11 Memorial". HS-News.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mawrth 2012. Cyrchwyd 10 Medi 2011.
  89. "Ethiopia -Two Ethiopians among those killed on September 11". 11 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Hydref 2015. Cyrchwyd 24 Hydref 2015.
  90. "Quatre Français ont péri dans le World Trade Center ce jour-là". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2014. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2013.
  91. "Remembering the Greek victims of the 9/11 terror attacks".
  92. Rajendran, P. (14 Medi 2006). "41 victims from India in 9/11". The Rediff Special. India Limited. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Chwefror 2008. Cyrchwyd 29 Chwefror 2008.
  93. "Eric Hartono: Modest Go-Getter". New York Times. 2 Mehefin 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ebrill 2009. Cyrchwyd 3 Ebrill 2009.
  94. "RTÉ News Interactive: US under siege". rte.ie. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Ionawr 2002.
  95. "Ireland remembers their victims of 9/11 in nationwide ceremonies". IrishCentral.com. 12 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mai 2014. Cyrchwyd 6 Ionawr 2019.
  96. Cashman, Greer Fay (12 Medi 2002). "Five Israeli victims remembered in capital". The Jerusalem Post. t. 3. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Tachwedd 2002. Cyrchwyd 17 Hydref 2006.
  97. Consulate General of the United States in Milan, Italy Archifwyd 30 Hydref 2008 yn y Peiriant Wayback Opening of the World Trade Center Memorial in Padua, Italy
  98. Aldern, Natalie (9 Medi 2011). "Remembering the Italian Victims of 9/11". Italy Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2018.
  99. Long, Lolita (20 Medi 2001). "20 Jamaican victims: 3 dead, 17 missing". The Jamaica Gleaner. Gleaner Company Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2001. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2001.
  100. Kyodo News International, Inc. (14 Medi 2004). "Father of 9/11 victim asks Japanese to reflect on terrorism". Japan Policy & Politics. Kyodo News International, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 30 Ebrill 2014.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  101. Jumana Heresh (2 Hydref 2001). "Doany family schedules memorial service for son Ramzi". jordanembassyus.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2011. Cyrchwyd 2 Mehefin 2011.
  102. Marsh & McLennan Companies (11 Medi 2002). "Tribute Page for Ramzi Doany". Remembering Our Colleagues. Marsh & McLennan Companies, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mai 2003. Cyrchwyd 15 Mai 2003.
  103. "Family organizes memorial service for Elias Telhami, WTC victim". jordanembassyus.org. 4 Hydref 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2011. Cyrchwyd 2 Mehefin 2011.
  104. Yoga, S.S. (11 Medi 2011). "Never forgotten". The Star Online. Malaysia: Star Publications Berhad. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Chwefror 2013. Cyrchwyd 30 Ebrill 2014.
  105. Stone, Andrew (10 Hydref 2011). "Fallout from September 11 still drifting over us". The New Zealand Herald. New Zealand: APN New Zealand Limited. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2014. Cyrchwyd 27 Ebrill 2014. On a clear blue morning 10 years ago the world shifted gear. Terrorists flew aircraft into talismanic American buildings, taking nearly 3000 lives. The victims included two New Zealanders. One was an American who had become a New Zealand citizen, the other a New Zealander who had moved to the United States.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  106. Eriksen, Alanah (11 Medi 2009). "NZ victim of 9/11 has place in memorial". New Zealand Herald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2014. Cyrchwyd 27 Ebrill 2014. A September 11 memorial will include childhood details of the only New Zealander killed in the attacks, thanks to a chance meeting between a Californian flight attendant and a group from Invercargill. Alan Beaven, a 48-year-old environment lawyer, died eight years ago today on United Airlines Flight 93.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  107. "Remembering the Muslims who were killed in the 9/11 attacks". Newsweek magazine. 11 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Awst 2015. Cyrchwyd 11 Awst 2015.
  108. KBK (13 Hydref 2014). "US Embassy remembers 16 Pinoys killed in 9/11 attacks". GMA News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ebrill 2014. Cyrchwyd 30 Ebrill 2014.
  109. "Remembering the 9/11 Filipino American victims". FilipinoHome. 11 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ebrill 2014. Cyrchwyd 30 Ebrill 2014.
  110. Marwolaethau, Visão rhif 446 (20 Hydref 2001) Archifwyd 3 Gorffennaf 2007 yn y Peiriant Wayback
  111. "Patru români, victime ale atentatelor de la 11 septembrie 2001" Archifwyd 13 Medi 2012(Date mismatch) yn y Peiriant Wayback, A1.ro
  112. Lee, Aruna (5 Hydref 2011). "Ten Years After 9/11: Korean Families Still Hurting". New America Media. San Francisco, California: Pacific News Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2011.
  113. Las víctimas españolas del 11-S Archifwyd 23 Awst 2018 yn y Peiriant Wayback, El País 1 de septiembre de 2002
  114. "U.S. Embassy Honours September 11 Victims". Daily Mirror. 11 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Medi 2015. Cyrchwyd 23 Medi 2015.
  115. "Hans son omkom i attacken mot WTC". Sveriges Television. 11 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Awst 2016. Cyrchwyd 25 Awst 2016.
  116. Högström, Erik. "Svenske David Tengelin dog på 100:e våningen". Expressen. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Awst 2016. Cyrchwyd 25 Awst 2016.
  117. "9/11 commemorated in US, Thailand".
  118. Mark Beaumont, BayBytes. "British Memorial Garden, New York". Britishmemorialgarden.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 2 Mehefin 2011. The tally 68 in the source includes two fatality from Bermuda
  119. British and Irish nationals Archifwyd 23 Ebrill 2017 yn y Peiriant Wayback, The Guardian
  120. Alberto Domínguez, el uruguayo fallecido en los atentados contra las Torres Gemelas , La República 11 de septiembre de 2021
  121. Ten years later: Paying tribute to the forgotten Arab victims of 9/11. , Al Arabiya, 11 Medi 2011

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]