Ymosodiadau ym Mharis, Tachwedd 2015

Oddi ar Wicipedia
ymosodiadau ym Mharis, Tachwedd 2015
Mathymosodiad terfysgol cydgysylltiedig Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Nifer a laddwyd137 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolterrorism in France, terfysgaeth Islamaidd yn Ewrop Edit this on Wikidata
LleoliadBataclan, Stade de France, rue Bichat, rue de la Fontaine-au-Roi, La Belle Équipe, boulevard Voltaire, Le Petit Cambodge Edit this on Wikidata
SirParis, Saint-Denis Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.86303°N 2.37064°E Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod13 Tachwedd 2015 Edit this on Wikidata
Amserlen

13 Tachwedd:

  • 21:20 – Hunanfomiad cyntaf ger Stade de France.
  • 21:25 – Saethu yn lang
rue Bichat.
  • 21:30 – Saethu ger Stade de France.
  • 21:32 – Saethu yn Rue de la Fontaine-au-Roi.
  • 21:36 – Saethu yn Rue de Charonne.
  • 21:40 – Hunanfomio yn Boulevard Voltaire.
  • 21:40 – Tri dyn yn mynd i fewn i Theatr Bataclan ac yn saethu ar unwaith.
  • 21:53 – Trydydd hunanfomio ger y Stade de France.
  • 22:00 – Gwystlon yn cael eu cymryd yn Theatr Bataclan.[1]

14 Tachwedd:

  • 00:20 – Heddlu a Swyddogion Diogelwch Ffrainc yn mynd i fewn i Theatr Bataclan.
  • 00:58 – Diwedd cyrch y Bataclan.[1]

Error in Template:Align: the alignment setting "dde" is invalid.

Roedd Ymosodiadau Paris, Tachwedd 2015 yn gyfuniad o saethu, dal gwystlon a hunanfomio a ddigwyddodd tua'r un amser ar y 13eg Tachwedd 2015 ym Mharis, Ffrainc. Digwyddodd rhan o'r ymosodiad ym maestref Saint-Denis, a leolir yng ngogledd y brifddinas ac fe'i trefnwyd gan gefnogwyr ISIS. Lladdwyd o leiaf 130 o sifiliaid, ac anafwyd 368 (80–99 yn ddifrifol).

Dechreuodd yr ymososiad am 21:20 Amser Canolbarth Ewrop (CET) pan gafwyd tri hunanffrwydrad y tu allan i'r Stade de France yn Saint-Denis, ac o fewn dim, cafwyd hunanfomiad arall a saethwyd yn gelain nifer o bobl mewn pedwar lleoliad drwy Baris.[2] Lladdwyd 89 yn Theatr y Bataclan,[3] pan gymerodd y terfysgwyr wystlon cyn ymgymryd a sesiwn saethu teirawr gyda'r heddlu.[4][5][6] Lladdwyd 7 o'r terfysgwyr a pharhaodd y chwilio am wythnosau am gynorthwywr a therfysgwyr eraill.[7] Rhain oedd yr ymosodiadau mwyaf difrifol yn Ffrainc ers yr Ail Ryfel Byd,[8][9] gyda mwy o feirwon wedi'u lladd ar yr un diwrnod - o fewn unrhyw wlad drwy Ewrop - ers bomio tren Madrid yn 2004.[10]

Cyhoeddodd Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (ISIS neu ISIL) mai nhw oedd yn gyfrifol am gydgordio'r ymosodiadau,[11][12] a mynegodd Arlywydd Ffrainc, François Hollande fod y weithred hon yn "weithred o ryfel gan ISIL",[13] a gynlluniwyd ganddynt yn Syria, a drefnwyd yng Ngwlad Belg, ac a gafodd ei weithredu ar ein tir."[14][15] Credir i'r ymosodiad hwn ar Ffrainc ddigwydd i ddial am awyrennau Ffrainc a fu'n bomio ISIL yn Iraq a Syria ers Hydref 2015.[16]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Hollande : "Un acte de guerre commis par une armée terroriste"". Le Figaro. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2015.
  2. de la Hamaide, Sybille (14 Tachwedd 2015). "Timeline of Paris attacks according to public prosecutor". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-28. Cyrchwyd 15 November 2015.
  3. "Paris attacks: What we know so far". France 24. 15 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2015.
  4. M. Marcus (19 Tachwedd 2015). "Injuries from Paris attacks will take long to heal". CBS. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2015.
  5. "Paris attacks: Everything we know on Wednesday evening". The Telegraph. 18 Tachwedd 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-19. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
  6. "Search goes on for missing". BBC News. 16 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2015.
  7. Claire Phipps (15 Tachwedd 2015). "Paris attacker named as Ismaïl Omar Mostefai as investigation continues – live updates". The Guardian. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2015.
  8. "Parisians throw open doors in wake of attacks, but Muslims fear repercussions". The Guardian. 14 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
  9. Syeed, Nafeesa (15 Tachwedd 2015). "Yes, Parisians are traumatised, but the spirit of resistance still lingers". The Irish Independent. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
  10. "Europe's open-border policy may become latest victim of terrorism". The Irish Times. 19 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
  11. "ISIS claims responsibility of Paris attacks". CNN. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2015.
  12. "L'organisation État islamique revendique les attentats de Paris" (yn Ffrangeg). France 24. 14 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 14 Tachwedd2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  13. "Paris attacks: Hollande blames Islamic State for 'act of war'". BBC News. 14 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2015.
  14. Nodyn: Cyfieithiad o "planned in Syria, organised in Belgium, perpetrated on our soil with French complicity."
  15. Alicia Parlapiano, Wilson Andrews, Haeyoun Park and Larry Buchanan (17 Tachwedd 2015). "Finding the Links Among the Paris Attackers". The New York Times. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2015.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  16. "Middle east – 'Terrorists have no passports,' French PM says of Syria air strikes". France 24. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2015.