Hamas

Oddi ar Wicipedia
Hamas
حركة المقاومة الاسلامية
SefydlyddSheikh Ahmed Yassin, Abdel Aziz al-Rantissi & Mahmoud Zahar
ArweinyddKhaled Mashal[1][2]
Dirprwy ArweinyddMousa Abu Marzouq[1][2]
Sefydlwyd1987 (1987)[3]
Rhagflaenwyd ganPalestinian Muslim Brotherhood
Pencadlys
Rhestr o idiolegauHunanlywodraeth
Sunni,[4]
Islamic fundamentalism,[5] Cenedlaetholdeb Palesteinaidd, Palestinianism
CrefyddSunni
Partner rhyngwladolY Frawdoliaeth Fwslimaidd
Cyngor Cyfreithiol Palesteina
74 / 132
Gwefan
hamasinfo.net
Baner y blaid

Mudiad Palesteiniaid Islamaidd Sunni yw Hamas (llythrennol: "Brwdfrydedd"). Mae'r enw'n tarddu o'r blaen-lythrennau حركة المقاومة الاسلامية, sef Ḥarakat al-Muqawama al-Islamiyya "Y Mudiad Gwrthsafiad Islamaidd"). Gan y blaid hon mae mwyafrif y seddau ar gyngor Awdurdod Cenedlaethol Palesteina,[6] ac sydd felly'n llywodraethu'r Llain Gaza. Fe'u hetholwyd yn Ionawr 2006. Mae Israel, yr Unol Daleithiau[7] Canada,[8] yr Undeb Ewropeaidd,[9] a Japan yn disgrifio Hamas fel mudiad terfysgol,[10] ond mae Rwsia, Twrci,[11][12] Tsieina,[13][14][15][16] y gwledydd Arabaidd, Iran ac eraill yn gwrthod gwneud hynny.[17]. Mae Awstralia [18] a'r DU [19] yn nodi mai dim ond adain filwrol Hamas sy'n fudiad terfysgol.

Rali gan Hamas ym Methlehem, 2006

Sefydlwyd Hamas yn 1987 gan Ahmed Yassin a Mohammad Taha ar gychwyn yr Intifada Cyntaf ar y Lan Orllewinol fel cangen o'r Frawdoliaeth Fwslimaidd, Eifftaidd.[3][20]. Mae Hamas yn tarddu o'r anfodlonrwydd ag arweinyddiaeth y PLO yn y cyfnod hwnnw. Tyfodd o'r mudiad Mujama, plaid wleidyddol a gefnogwyd gan Israel ar y dechrau fel gwrthbwys i'r PLO. Daeth Hamas i rym yn Ionawr 2006 gan ennill mwyafrif y gynrycholiaeth ar Awdurdod Cenedlaethol Palesteina a threchu'r PLO a Fatah.

Mae hefyd yn gwneud gwaith cymdeithasol pwysig gan sefydlu a rhedeg ysbytai, llyfrgelloedd ac ysgolion [21] drwy'r Lan Orllewinol a Llain Gaza, lle mae'n rheoli. Caiff y bai gan Israel am saethu rocedi atynt; ac er mwyn dileu pwer Hamas y lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009 ar 27 Rhagfyr 2008 ac yna Ymosodiad arall gan Israel ar Lain Gaza yn 2014.

Mae Siarter Hamas[22] yn galw am ddatgymalu Gwladwriaeth Israel, gan sefydlu gwladwriaeth Islamaidd newydd ar y Tiriogaethau Palesteinaidd[23].

Mae gan y mudiad ei sianel deledu ei hun, Al-Aqsa TV, sy'n darlledu o ddinas Gaza.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Harakat al-Muqawama al-Islamiyya (Hamas)". Transnational and non state armed groups. Humanitarian Policy and Conflict Research Harvard University. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-10. Cyrchwyd 7 Chwefror 2009.
  2. 2.0 2.1 "Mash'al reelected leader of Hamas politburo". Ma'an news agency. 27 Ebrill 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-31. Cyrchwyd 2014-07-18.
  3. 3.0 3.1 Higgins, Andrew (24 Ionawr 2009). "How Israel Helped to Spawn Hamas". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-25. Cyrchwyd 24 Awst 2010.
  4. * "Understanding Islamism" Archifwyd 2013-03-07 yn y Peiriant Wayback., Cris is Group Middle East/North Africa Report N°37, 2 Mawrth 2005
    • Islamic fundamentalism in the West Bank and Gaza: Muslim Brotherhood and Islamic Jihad, gan Ziyād Abū 'Amr, Indiana University Press, 1994, tud. 66–72
    • Anti-Semitic Motifs in the Ideology of Hizballah and Hamas, Esther Webman, Project for the Study of Anti-Semitism, 1994. ISBN 978-965-222-592-4
  5. "Hamas sweeps to election victory", BBC News.
  6. "Country reports on terrorism 2005", United States Department of State. Office of the Coordinator for Counterterrorism. US Dept. of State Publication 11324. Ebrill 2006. tud 196
  7. "Currently listed entities". Department of Public Safety and Emergency Preparedness. November 22, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-09.
  8. "EU blacklists Hamas political wing". BBC News. Medi 11, 2003.
  9. If HAMAS is a Terrorist Organization, What Does That Make Israel? Archifwyd 2013-06-01 yn y Peiriant Wayback. Intifada: The Voice of Palestine. 11 Gorffennaf 2010
  10. Nodyn:Wayback BBC News. 4 Mehefin 2010
  11. Gaza flotilla: Turkey threat to Israel ties over raid BBC News, 4 Mehefin 2010
  12. "Bank of China may have helped Hamas kill Jews". Free Zionism. Cyrchwyd 30 March 2014.
  13. Abha Shankar (19 Hydref 2013). "Bank of China Terror Financing Case Moves Forward". Investigative Project on Terrorism. Cyrchwyd 30 Mawrth 2014.
  14. Joshua Davidovich (18 Rhagfyr 2013). "The China bank is not the issue here, dude". The Times of Israel. Cyrchwyd 30 Mawrth 2014.
  15. China's Palestine Policy
  16. How to Confront Russia's Anti-American Foreign Policy The Heritage Foundation. 27 Mehefin 2007
  17. "Gwefan Llywodraeth Awstralia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-04. Cyrchwyd 2009-01-04.
  18. "Gwefan y Llywodraeth Brydeinig". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-18. Cyrchwyd 2009-01-04.
  19.  This article incorporates public domain material from the Congressional Research Service document "Hamas: The Organizations, Goals and Tactics of a Militant Palestinian Organization".
  20. "Palestinian election raises varying opinions within U" Archifwyd 2008-06-09 yn y Peiriant Wayback.. The Minnesota Daily, 31 Ionawr 2006
  21. Siarter Hamas
  22. "Israeli Official Says Hamas Has Made Abbas Irrelevant", The New York Times, 27 Chwefror 2006.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]