Palesteiniaid
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
Grŵp ethnig ![]() |
Mamiaith |
Palestinian arabic ![]() |
Label brodorol |
الفلسطينيون&Nbsp;![]() |
Crefydd |
Sunni, cristnogaeth ![]() |
Rhan o |
Arabiaid, Semitiaid ![]() |
Enw yn yr iaith |
الفلسطينيون ![]() |
Gwladwriaeth ble'i siaredir |
Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
![]() |
Grŵp ethnig yn y Dwyrain Canol yw'r Palesteiniaid (Arabeg: الشعب الفلسطيني, ash-sha`b al-filasTīni). Ei mamwlad yw Palesteina. Mae'r term Palesteiniaid sy'n cyfeirio at drigolion sy'n siarad Arabeg ac sy'n tarddu o Balesteina neu a symudodd yno ar ôl 1917. Pobol heb wlad sofran, sy'n ymgyrchu drwy'r Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd dros hawliau sylfaenol a thros greu gwladwriaeth Balesteinaidd annibynol.
Mae cyfanswm eu poblogaeth drwy'r byd rhwng 10 ac 11 miliwn. Mae eu hanner yn byw ym Mhalesteina; mae'r rhelyw wedi eu gwasgaru drwy wledydd eraill, yn aml heb ddinasyddiaeth swyddogol.[1]

Mwslemiaid Sunni yw trwch y boblogaeth, er bod llawer ohonynt yn Gristnogion ac yn ddilynwyr ambell grefydd arall erbyn heddiw. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd y dechreuwyd ddefnyddio'r term 'Palesteiniaid' i olygu'r Arabiaid hyn.[2]
Cânt eu cynrychioli o flaen gwledydd eraill y byd, yn bennaf, gan y PLO sef Mudiad Rhyddid Palesteina.[3][4] Yn 1921 cyhoeddodd Cynghrair Syria-Palesteina yr awydd a'r alwad am annibyniaeth. Yn yr Iorddonen mae tair miliwn o'r Palesteiniaid yn byw ac mae nifer sylweddol yn Llain Gaza, Y Lan Orllewinol ac Israel; mae'r gweddill (y pum miliwn arall) yn ffoaduriad mewn gwahanol wledydd, e.e. Libanus a Syria, gan nad oes ganddynt wlad sofranaidd.
Dros y blynyddoedd cafwyd cryn wrthdaro rhwng yr Israeliaid a'r Palesteiniaid; yn ddiweddar, ymosododd byddin Israel ar Balesteiniaid Llain Gaza o'r awyr.
Rhai Palesteiniaid enwog[golygu | golygu cod y dudalen]
- Yasser Arafat, gwleidydd
- George Habash, gwleidydd
- Diana Karazon, cantores
- Edward Saïd, awdur
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Reflections on the Palestinian Diaspora in Europe gan Abbas Shiblak: The Palestinian Diaspora in Europe: Challenges of Dual Identity, Institute of Jerusalem Studies, 2005. PDF
- ↑ britannica.com "Palestine" 2007-08-09
- ↑ imeu.net
- ↑ britannica.com