Ffrwydradau trenau Madrid 11 Mawrth 2004

Oddi ar Wicipedia
Ffrwydradau trenau Madrid 11 Mawrth 2004
Enghraifft o'r canlynolllofruddiaeth torfol, ymosodiad terfysgol Edit this on Wikidata
Dyddiad11 Mawrth 2004 Edit this on Wikidata
Lladdwyd193 Edit this on Wikidata
Rhan oterfysgaeth yn Sbaen Edit this on Wikidata
LleoliadMadrid Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gorsaf drenau Atocha

Ymosodiadau bom yn Madrid, 11 Mawrth 2004. Dydd Iau, 11 Mawrth 2004, ffrwydrodd deg bom ar cercanías (trenau lleol) yn ninas Madrid, Sbaen rhwng 07:39 a 07:42 yn y bore. Bu farw 190 o bobl, o leiaf, a chafodd dros 1,800 o bobl eu hanafu.

Ffrwydrodd tair bom, ym mlaen, canol, a thu ôl y trên ym mhrif orsaf y ddinas, Atocha, am 07:39, a hefyd ffrwydrodd pedair bom ar yr un pryd ar drên arall tu allan i orsaf Atocha, yn Calle Téllez. Am 07:41 ffrwydrodd dwy fom ar drên arall yng ngorsaf El Pozo del Tío Raimundo, ac am 07:42 ffrwydrodd un bom ar drên yng ngorsaf Santa Eugenia.

Bu farw'r mwyafrif o'r dioddefwyr yn Atocha/Téllez (89 o bobl), ac El Pozo (67), efo 17 yn Santa Eugenia.

Roedd 41 o'r meirwon yn dod o 13 gwlad dramor—15 o Rwmania, 5 yr un o Ecwador a Pheriw, 4 o Wlad Pwyl, 3 o Colombia, 2 o Hondwras, ac un yr un o Bwlgaria, Tsile, Ciwba, Gweriniaeth Dominica, Gini Bisaw, Ffrainc a Moroco.

Pwy oedd ar fai?[golygu | golygu cod]

Roedd llywodraeth Sbaen yn beio'r mudiad Basg, ETA, ar y dechrau, ond roedd modd yr ymosodiad yn anarferol i ETA—byddan nhw fel arfer yn rhoi rhybudd, neu yn ymosod ar blismyn neu swyddogion y llywodraeth. Ar 11 Mawrth gyda'r hwyr, dywedodd y papur newydd Arabeg rhyngwladol Al-Quds Al-Arabi, a gyhoeddir yn Llundain, eu bod wedi cael e-bost gan rywun yn dweud mai Al Qaeda oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Tri diwrnod ar ôl yr ymosodiad, collodd Aznar yr etholiad, mewn canlyniad syn.