Ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Russell square ambulances.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolymosodiad gan hunanfomiwr Edit this on Wikidata
Dyddiad7 Gorffennaf 2005 Edit this on Wikidata
Lladdwyd56 Edit this on Wikidata
LleoliadTavistock Square, Liverpool Street tube station, Edgware Road tube station, Llinell Piccadilly Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthCamden Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lleoliad ffrwydradau Llundain

Cyfres o ffrwydradau bom cydamserol a darodd system cludiant cyhoeddus Llundain yn ystod cyfnod awr frys y bore oedd ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005. Am 8:50 BST 7 Gorffennaf 2005, ffrwydrodd dri bom o fewn 50 eiliad o'i gilydd ar dri trên London Underground. Ffrwydrodd bedwaredd fom ar fws bron i awr yn hwyrach am 9:47 y.b. yn Sgwâr Tavistock. Arweiniodd y ffrwydradau at chwalfa ddygn o isadeiledd trafnidiaeth a thelathrebu y ddinas am weddill y diwrnod.

Lladdwyd 56 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys y pedwar hunan-fomiwr, ac anafwyd 700. Hyn oedd yr ymosodiad terfysgol mwyaf difrifol yn y Deyrnas Unedig ers i Pan Am Flight 103 cael ei fomio dros dref Lockerbie, yr Alban, yn 1988 (a wnaeth lladd 270), a'r cyrch bomio a laddodd y fwyaf yn Llundain ers yr Ail Ryfel Byd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]