Rheilffordd Danddaearol Llundain
(Ailgyfeiriad oddi wrth London Underground)
System trafnidiaeth gyflym yw'r Rheilffordd Danddaearol Llundain neu'r Tiwb (Saesneg: London Underground neu the Tube) sydd yn gwasanaethu rhan helaeth o Lundain Fwyaf ynghyd ag ardaloedd cyfagos Essex, Swydd Hertford a Swydd Buckingham yn Ne-Ddwyrain Lloegr, Y Deyrnas Unedig.
Pan agorwyd rhan gyntaf y system ym 1863 hon oedd rhwydwaith reilffordd danddaearol gyntaf yn y byd. Er bod yr enw yn awgrymu system danddaearol, mae 55% o'r rhwydwaith yn gweithredu uwchben y ddaear.
Llinellau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae 11 llinell ar y Rheilffordd Danddaearol Llundain:
- Llinell Bakerloo (brown)
- Llinell Ganolog (coch)
- Llinell Gylch (melyn)
- Llinell y Cylch (gwyrdd)
- Llinell Hammersmith a'r Ddinas (pinc)
- Llinell Jiwbilî (llwyd)
- Llinell Fetropolitan (magenta)
- Llinell Ogleddol (du)
- Llinell Piccadilly (glas tywyll)
- Llinell Victoria (glas golau)
- Llinell Waterloo a Dinas (glaswyrdd)