Ffrwydradau Llundain 21 Gorffennaf 2005
Enghraifft o'r canlynol | ymosodiad terfysgol |
---|---|
Dyddiad | 21 Gorffennaf 2005 |
Lladdwyd | 0 |
Lleoliad | Llundain, Rheilffordd Danddaearol Llundain, Shoreditch |
Ymosodiad terfysgol yn Llundain oedd yr hyn a adanbyddir fel Ffrwydradau Llundain 21 Gorffennaf 2005. Gosododd terfysgwyr bedwar bom ar y sustem gludiant i brifddinas tua chanol dydd 21 Gorffennaf 2005: yng ngorsafoedd tanddaearol Shepherd's Bush, Warren Street ac Oval ac ar fws yn Shoreditch. Gwaredwyd y pumed bom gan y bomiwr, heb ei ffrwydro.[1]
Bwriad y terfysgwyr oedd lladd cymaint o bobl ag oedd yn bosib, ond yn ffodus, dim ond y 'detonators' a ffrwydrodd, ac ychydig oedd y difod, gydag un anaf yn unig. Dihangodd y terfysgwyr am y tro.
Ar 9 Gorffennaf 2007, ymddangosodd pedwar diffinydd o flaen y llys: Muktar Ibrahim, 29, Yassin Omar, 26, Ramzi Mohammed, 25, a Hussain Osman, 28. Cafwyd hwy yn euog o gynllwynio i lofruddio.[2] Dedfrydwyd pob un o'r pedwar i garchar am oes, gyda lleiafswm o 40 mlynedd yr un.[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "21 July: Attacks, escapes and arrests". BBC News. 11 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-20. Cyrchwyd 2016-07-21. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Four guilty over 21/7 bomb plot". BBC News. 10 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-20. Cyrchwyd 13 Awst 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Percival, Jenny (11 Gorffennaf 2007). "Patient wait for life behind bars". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-20. Cyrchwyd 2016-07-21. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)