Shoreditch
Gwedd
Math | tref, ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Hackney |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Dalston |
Cyfesurynnau | 51.526°N 0.078°W |
Cod OS | TQ325825 |
Cod post | E1, E2, EC1, EC2 |
Ardal yn Llundain yw Shoreditch, wedi ei lleoli ym mwrdeistref Hackney. Lleolir yn union i'r gogledd o Ddinas Llundain 2.5 milltir (4 cilometr) i'r gogledd-ddwyrain o Charing Cross.
Mae Shoreditch, ynghyd â Hoxton gerllaw wedi bod yn ganolbwynt traddodiadol i artistiaid ifanc dros yr 20g, ac fe gaiff hyn ei dystio gan y nifer o orielau celf (yn enwedig celf modern) sydd yn yr ardal. Ers i brisiau tai godi fodd bynnag, mae ffocws y sîn gelf yn dechrau symud allan i'r dwyrain tuag at ardaloedd Hackney Wick, Stepney, Bow a Mile End neu i'r de o'r afon (e.e. Peckham, New Cross).
Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Ers 27ain Ebrill 2010 gwasanaethir yr ardal gan Orsaf Reilffordd Shoreditch High Street sydd yn rhan o rwydwaith Overground Llundain.