Safle du
Term milwrol am leoliad, lle cynhalir prosiect du yw safle du (Saesneg: black site). Yn ddiweddar, defnyddir y term i ddisgrifio carchardai cudd, fel arfer tu allan i dir mawr ac awdurdod cyfreithiol Unol Daleithiau America, ac sydd ag ond ychydig neu ddim cydnabyddiaeth nac arolygiaeth wleidyddol neu gyhoeddus. Gall gyfeirio at gyfundrefnau a reolir gan y Gwasanaeth Cyfrin Canolog (CIA) a ddefnyddir gan yr Unol Daleithiau yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth i gaethiwo rhai a ddrwgdybir o fod yn frwydrwyr gelyniaethus. Un o'r amcanion honedig yw i gaethiwo rhai a ddrwgdybir o fod yn derfysgwyr tua allan i Ddeddf Arolygiaeth Cudd-wybodaeth, sy'n awdurdodi goruchwyliaeth Gyngresol.[angen ffynhonnell] Mae pwrpasau eraill, yn ôl adroddiad Chwefror 2007 Senedd Ewrop, yn cynnwys caethiwo carcharorion wrth i awyrennau'r CIA a ddefnyddir yn y rhaglen cipiad gwladwriaethol eithriadol (extraordinary rendition) hedfan trwy diriogaeth Ewropeaidd.[1]
Cydnabuwyd bod y CIA yn cynnal carchardai cudd gan Arlywydd yr Unol Daleithiau George W. Bush mewn araith ar 6 Medi, 2006.[2] Dywedodd The Washington Post yn Nhachwedd 2005 bod safleoedd duon yn bodoli, a dywedodd rhai NGOau hawliau dynol eu bod yn bodoli cyn hynny.[3] Mae nifer o wledydd Ewrop wedi gwadu'n swyddogol eu bod yn cynnal safleoedd duon i garcharu terfysgwyr neu'n cydweithredu yn rhaglen cipiad gwladwriaethol eithriadol yr Unol Daleithiau. Nid oes unrhyw wlad wedi cadarnháu ei bod yn cynnal safleoedd duon. Ond, yn ôl adroddiad yr Undeb Ewropeaidd, a fabwysiadwyd ar 14 Chwefror, 2007 gan fwyafrif o Senedd Ewrop (382 o ASEau yn pleidleisio o blaid, 256 yn erbyn a 74 yn ymwrthod), gweithredodd y CIA 1245 o deithiau awyr, a dywedodd nid oedd yn amhosib i wrth-ddweud tystiolaeth neu awgrymiadau bod canolfannau carcharu cyfrinachol yn cael eu gweithredu yng Ngwlad Pwyl a Rwmania. Mae'r adroddiad hwn yn "difaru bod gwledydd Ewropeaidd wedi bod yn gollwng rheolaeth dros eu gofod awyr a meysydd awyr trwy droi llygad ddall neu dderbyn teithiau awyr a weithredwyd gan y CIA sydd, mewn rhai achosion, yn cael eu defnyddio ar gyfer cludiant anghyfreithlon carcharorion".[1][4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 (Saesneg) EU endorses damning report on CIA. BBC (14 Chwefror, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
- ↑ (Saesneg) Bush: CIA holds terror suspects in secret prisons. CNN (7 Medi, 2006). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
- ↑ (Saesneg) CIA Holds Terror Suspects in Secret Prisons. The Washington Post (2 Tachwedd, 2005). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
- ↑ (Saesneg) EU rendition report: Key excerpts. BBC (14 Chwefror, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.