Carchar

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ynys Alcatraz ym Mae San Francisco, carchar tan 1969.
Carchar Rhuthun, Gogledd Cymru.

Lle er mwyn caethiwo unigolion yw carchar neu benydfa. Maent fel arfer yn rhan o drefn cyfiawnder troseddol gwlad: mae carcharu yn gosb gyfreithlon a weinyddir ar ran y wladwriaeth, am i unigolyn cyflawni trosedd.

Ar wahân i'w ddefnyddio ar gyfer cosbi troseddau sifil, mae a carchardai yn cael eu defnyddio'n aml gan cyfundrefnau awdurdodol fel arfau gormes gwleidyddol, i gosbi beth yn cael eu hystyried fel troseddau gwleidyddol, yn aml heb dreial; mae hyn yn ddefnydd anghyfreithlon o dan cyfraith ryngwladol. Mewn adegau o ryfel, roedd carcharorion rhyfel yn cael eu gadw'n gaeth mewn carchardai milwrol, a grwpiau mawr o sifiliaid yn cael eu carcharu mewn gwersylloedd gaethiwed.

Mae carchardai fel arfer yn cael eu hamgylchynu gan ffensys, waliau, gwrthgloddiau, nodweddion daearyddol neu rwystrau eraill i atal dianc. Mae ffensys trydanol, goleuadau diogelwch, a chŵn fel arfer yn bresennol (yn dibynnu ar lefel diogelwch y carchardu).

Bwyd carchar[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae carchardai yn gyffredinol yn darparu bwyd i nifer fawr o unigolion, ac felly yn gyffredinol mae ganddynt ceginau mawr Mae llawer o ystyriaethau diogelwch, fodd bynnag, yn unigryw i'r amgylchedd bwyta carchar. Er enghraifft, mae'n rhaid i offer fel cyllyll a ffyrc gael eu monitro'n ofalus iawn, a mae angen chynllunio'r ceginau carchar mewn modd sy'n galluogi staff i arsylwi ar y gweithgaredd staff y gegin (sydd fel arfer yn garcharorion). Mae ansawdd yr offer cegin yn amrywio o garchar i garchar, yn dibynnu ar pryd gafodd y carchar ei hadeiladu, ac yn y lefel o gyllid sydd ar gael i gaffael offer newydd. Bydd y carcharorion yn aml yn cael eu gweini mewn caffi fawr gyda rhesi o fyrddau a meinciu sydd yn ynghlwm i'r llawr.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd carchardai’r cyfnod y 18fed ganrif yn leoedd ofnadwy. Nid oeddent wedi cael eu cynllunio i gadw carcharorion am dymor hir. Eu gwaith oedd cadw carcharorion hyd nes byddai’r llysoedd yn eistedd neu hyd nes byddent yn derbyn eu cosb. Roedd ganddynt llawer o anfanteision a gwendidau;

  • Roeddent yn llefydd afiach ac yn llaith, heb gyfleusterau fel dwr glan na systemau charthffosiaeth. Bu sawl carcharor farw oherwydd ‘twymyn y carchar’. Roedd dysentri a teiffoid yn gyffredin hefyd.
  • Roedd llwgrwobrwyaeth yn rhemp. Byddai’r carchardai yn cael eu rhedeg gan unigolion am elw, fel arfer drwy werthu bwyd a chwrw i’r carcharorion. Nid oedd y goruchwylwyr yn cael cyflog ac felly roeddent yn agored i gael eu llwgrwobrwyo gan y carcharorion.
  • Roedd pob math o garcharorion yn cael eu taflu fewn gyda’i gilydd – dynion, menywod, pobl gwallgof, meddwon a dyledwyr.


Nid oedd cyweirdai (Houses of Correction) a sefydlwyd adeg teyrnasiad Elisabeth I fawr gwell. Eu bwriad nhw oedd diwygio y rhai a oedd yn cael eu disgrifio fel y tlawd cadarn eu cyrff oedd yn gwrthod gweithio, fel crwydriaid, y diog a’r rhai annigybliedig. Byddent yn cael eu diwygio drwy gosbi a disgyblu.[1]

John Howard[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd amodau ofnadwy y carchardai wedi tynnu sylw diwygwyr carchardai fel John Howard. Cynrychiolai ei agwedd gyfnod newydd yn hanes y carchardai gyda’r pwyslais ar ddiwygio’r carcharor. Roedd Howard yn credu y dylai troseddwyr gael celloedd eu hunain er mwyn iddynt fyfyrio dros eu troseddau. Roedd ganddo agwedd ddyngarol tuag at driniaeth carcharorion ac roedd o’r farn y dylai carchardai fabwysiadu agwedd newydd tuag at y ffordd roedd y carcharorion yn cael eu trin. Oherwydd ei ymdrechion ef dechreuwyd ar y gwaith o wella carchardai Prydain. Wedi iddo cael ei benodi yn Uchel Siryf Swydd Bedford yn 1773 ymwelodd John Howard gyda charchar y sir a synnwyd ef gan safon gwael yr amodau roedd y troseddwyr yn eu dioddef. Sbardunwyd ef i ymweld gyda charchardai eraill yn Lloegr, yr Alban, Cymru a rhai gwledydd eraill yn Ewrop, gan gasglu llawer o fanylion amdanynt.  Cyhoeddodd ei adroddiad  The State of Prisons yn 1777. Roedd ei adroddiad yn feirniadol iawn ac awgrymodd nifer o welliannau:

  • Mwy o le yn y carchardai
  • Gwell bwyd
  • Swyddogion carchar cyflogedig fel nad oedd llwgrwobrwyo      
  • Cadw carcharorion gwrywaidd ar wahan i garcharorion benywaidd
  • Cadw dyledwyr yn y carchar ar wahan i droseddwyr  a sicrhau bod carcharorion yn cael eu gwahanu yn ol y math o drosedd
  • Gwell amodau iechyd.[2][3][4]

Elisabeth Fry[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yr agwedd mwy dyngarol a ddangosodd Howard tuag at garcharorion yn dangos bod yna newid yn datblygu mewn agweddau tuag at driniaeth carcharorion.  Diwygio ac ataliaeth oedd nod y carchardai yn eu golwg hwy. Adlewyrchwyd hyn yng ngwaith Elisabeth Fry.

Roedd Elisabeth Fry yn un o’r Crynwyr ac roedd ei ffydd Gristnogol wedi bod yn hollbwysig yn ei hymgyrch i ddiwygio’r carchardai.  Yn ystod ei hymweliad a Charchar Newgate yn 1813 dychrynwyd hi gan yr amodau erchyll. Roedd adran y menywod yn orlawn gyda menywod a’u plant wedi cael eu cywasgu i gelloedd bach ble fyddent yn golchi, cogionio a chysgu. Roedd ymladd, trais a rhegi yn rhan o fywyd pob dydd y carchar. Trefnodd gwersi darleniadau o’r Beibl ar gyfer y menywod ac ymgyrchodd i wella amodau i fenywod yn y carchardai.

John Howard, diwygiwr carchardai

Deddf Carchardai 1823[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd agwedd a gwaith Howard a Fry yn ganolog i benderfyniad Robert Peel i basio Deddf 1823.  Trwy’r ddeddf hon:

  • Cyflogwyd ceidwaid carchardai
  • Rhoddwyd menywod yn geidwaid i fenywod
  • Gwahanwyd carcharorion benywaidd oddi wrth y rhai gwrywaidd
  • Roedd caplaniaid a meddygion i ymweld gyda charchardai.[3]

Y System Arwahanu a'r System Dawel[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn y 1830au penderfynodd y Llywodraeth bod angen codi rhagor o garchardai gan fod trawsgludo yn dechrau dod i ben ac roedd agweddau yn newid tuag at gosbau cyhoeddus. Gyda hynny troeodd y sustem garchardai yn fwy llym pan gyflwynodd y Llywodraeth ddulliau newydd o gynnal disgyblaeth tu fewn I garchardai. Roedd y dulliau yma wedi dod draw o’r Unol Daleithiau a ‘u henwau oedd y ‘System Arwahanu’  a gyflwynwyd yn 1839 a’r ‘System Dawel’ a gyflwynwyd yn 1865.


Pwrpas y carchardai newydd yma oedd cadw carcharorion yn gaeth.  Gobeithiwyd eu diwygio drwy wneud hynny.  Roedd yn rhaid iddynt wisgo iwnifform (fel arwydd o gywilydd), eu bwydo gyda bwyd o safon isel a’u cadw mewn celloedd ar ben eu hunain.  Byddent yn cael eu cosbi am dorri rheolau’r carchar, ac roedd yn rhaid iddynt weithio bob dydd o’r flwyddyn heblaw ar ddydd Sul.  Roedd yr amserlen yn llym ac roedd y gwaith yn galed ac undonog, er enghraifft, mynd ar y felin droed (treadmill) neu’r cranc, torri cerrig neu pigo ocwm, sef gwahanu ffibrau oddi wrth raffau wedi eu gorchuddio gyda thar.  Byddent wedyn yn cael eu hail ddefnyddio i lanw’r tyllau mewn hylciau llongau.


Roedd y ddwy system yn sicrhau nad oedd carcharorion yn cael cyfleoedd i gyfathrebu gyda’I gilydd drwy siarad neu arwyddo. Bwriad arall y ddwy system oedd torri ysbryd y carcharorion. Byddai’r carcharor yn cael ei gloi mewn cell ar ben ei hun drwy’r dydd, a gyda Beibl a chymorth y caplan, gobeithiwyd y byddai’n edifarhau am ei bechodau.  Roedd cyfnodau hir o dawelwch ar ben eu hunain yn gyfle i sylweddoli eu beiau. Ond y canlyniad yn aml iawn oedd gwallgofrwydd, nerfau yn chwalu, hunanladdiad neu ymosodiadau ar y caplan.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y Swyddfa Gartref wedi cymryd rheolaeth dros y carchardai ac ail-edrychwyd ar ddulliau newydd o ddiwygio troseddwyr.[5][6]

Yr 20fed ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyda chychwyn canrif newid daeth newidiadau mawr ym meddylfryd yr oes i’r ffordd roedd troseddwyr yn cael eu cosbi. Carchardai oedd y prif ffordd i gosbi troseddwyr yn y cyfnod yma. Roedd cosbau corfforol yn cael eu defnyddio llawer llai erbyn yr 20fed ganrif hefyd. Cafodd fflangellu ei ddiddymu yn 1948 a diddymwyd y gosb eithaf yn 1965.[7]

Roedd dienyddiad wedi bod yn bwnc llosg yn ystod y 1950au, yn enwedig yn sgil crogi Ruth Ellis, y fenyw olaf ym Mhrydain i gael ei chrogi, am lofruddio ei chyn-gariad oherwydd cenfigen a chrogi Timothy Evans am lofruddiaethau a oedd wedi cael eu cyflawni gan John Christie.  Gyda phasio Deddf Llofruddiaeth 1965 cafodd y gosb eithaf ei dileu a dywedwyd mai carchar am oes fyddai’r dewis arall i grogi ar gyfer pob llofruddiaeth heblaw teyrnfradwriaeth a môr-ladrata treisgar.  Nodwyd na fyddai unrhyw droseddwr oedd wedi ei ddedfrydu i garchar am oes yn medru cael ei ryddhau heb ganiatad yr Ysgrifennydd Cartref ac mae’r ddedfryd am y llofruddiaethau mwyaf difrifol oedd 20 mlynedd.[8]

Erbyn y 1920au  roedd y drefn o eillio pen a’r wisg saethau wedi diflannu ac roedd y pwyslais ar ail-addysgu’r troseddwr.   Ar ôl yr Ail Ryfel Byd rhoddwyd mwy o bwyslais ar hyfforddi carcharorion mewn gwaith a dysgu sgiliau newydd fel y gallent gael gwaith ar ôl eu rhyddhau, fel eu bod ddim yn troi nôl at droseddu.  Darparwyd gwell cyfleusterau byw, fel bwyd gwell, teledu, gallent wisgo dillad eu hunain a chaniatwyd mwy o ymwelwyr fel carcharorion yn medru cadw cyswllt gyda’r byd tu allan i furiau’r carchar.[8]

Categoreiddio[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers diwedd y 1960au mae carchardai wedi cael eu categoreiddio o A i D.  Y carchardai Categori A ydy’r rhai diogelwch uchel ar gyfer y troseddwyr mwyaf peryglus tra mai Categori D ydy’r carchardai agored ble mae mân-droseddwyr neu troseddwyr sydd wedi troseddu am y tro cyntaf yn cael eu cadw.  Mae Carchar Caerdydd yn Gategori B a Charchar Abertawe B/C.  Mae Carchar HMP Berwyn, ger Wrecsam yn Gategori C a agorwyd ar ddechrau 2017.

Carchardai agored[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelodd yr 20fed ganrif math newydd o garchar yn cael ei gyflwyno, sef y carchar agored a gyflwynwyd gyntaf yn 1934. Mewn carchar agored mai’r rheolau yn llai llym. Mae carcharorion yn cael gwaith i’w wneud yn ystod y dydd, weithiau tu allan i’r carchar ac mae ganddynt allweddi eu hunain i’w hystafelloedd.  Nod y math yma o garchar ydy ail-hyfforddi’r troseddwr a’u darparu gyda’r sgiliau angenrheidiol er mwyn ail-gydio yn eu bywydau tu allan i’r carchar wedi iddynt gael eu rhyddhau. Mae llawer o’r carchardai agored yn darparu gweithdai ac mae ganddynt ffermydd eu huanin sy’n rhan o’r hyfforddiant mae nhw’n ei gynnig.[8]

Un o broblemau carchardai yr 20fed ganrif ydy gor-boblogi sydd wedi bod yn un o achosion terfysgoedd yn y carchardai, er enghraifft, yng Ngharchar Strangeways, ger Manceinion yn 1990.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Parry, Glyn (2001). Naid i Dragwyddoldeb. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. t. 34.
  2. Parry, Glyn (2001). Naid i Dragwyddoldeb. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. t. 34.
  3. 3.0 3.1 "Defnyddio carchardai i gosbi a diwygio yn y 19eg ganrif - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  4. "The need for prison reform - Methods of punishment – WJEC - GCSE History Revision - WJEC". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  5. Parry, Glyn (2001). Naid i Dragwyddoldeb. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. t. 34.
  6. "Y systemau ar wahân a thawel - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  7. "Dulliau eraill o ddelio â charcharorion yn yr 20fed ganrif - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  8. 8.0 8.1 8.2 "Agweddau tuag at y gosb eithaf yn yr 20fed ganrif - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Law template.png Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am carchar
yn Wiciadur.