Ruth Ellis

Oddi ar Wicipedia
Ruth Ellis
Ganwyd9 Hydref 1926 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 1955 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmodel Edit this on Wikidata

Ruth Ellis (9 Hydref 192613 Gorffennaf 1955) oedd y ferch olaf i ddioddef y gosb eithaf yn y Deyrnas Unedig.

Ganed hi fel Ruth Neilson yn y Rhyl. Roedd ei mam, Bertha, yn ffoadur o Wlad Belg, a'i thad, Arthur Hornby, yn ganwr soddgrwth o Fanceinion. Symudodd y teulu i Lundain yn 1941.

Yn 1953, roedd yn gweithio fel rheolwraig clwb nos, pan gyfarfu a David Blakely. Datblygodd carwriaeth rhyngddynt, ond erbyn dechrau 1955, roedd ef yn dechrau colli diddordeb. Ar 10 Ebrill 1955, saethodd Ruth chwech ergyd o rifolfyr ato y tu allan i dafarn Magdala [1], a chyhoeddwyd ef yn farw yn yr ysbyty.

Wedi ei chael yn euog o lofruddiaeth mewn prawf yn yr Old Bailey yn Llundain, condemniwyd hi i farwolaeth. Codwyd deiseb yn gofyn am drugaredd iddi, ond gwrthododd yr Ysgrifennydd Gwladol, Gwilym Lloyd George, ymryrryd. Gorfodwyd Pennaeth y Carchar i alw am gymorth ychwanegol wrth yr heddlu pan ddaeth torf o 500 i du allan y carchar. Llwyddodd canran o'r protestwyr i dorri drwy linell yr heddlu, gan daro ar ddrws y carchar yn galw ar Ellis i weddïo gyda hwy.[1]

Cyrhaeddodd y dienyddiwr, Albert Pierrepoint, yn y carchar y diwrnod cynt ar ôl iddo deithio o Preston, Swydd Gaerhirfryn. Roedd torf wedi ymgynnull o amgylch Carchar Holloway i aros am y dienyddiad. Fe'i crogwyd hi yn y carchar 18 munud yn ddiweddarach a rhoddwyd y wybodaeth am ei marwolaeth y tu allan i'r carchar.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1955: Ruth Ellis hanged for killing lover Gwefan BBC On This Day. Adalwyd ar 26-02-2010