Wall Street
| Enghraifft o: | stryd |
|---|---|
![]() | |
| Rhanbarth | Manhattan |
| Hyd | 605 metr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09937 |

Mae yna 383 o Wall Streets gwahanol yn y byd, ond mae'r stryd hanesyddol ym Manhattan Isaf, Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, yn yr Unol Daleithiau. Rhed y stryd i'r dwyrain o Broadway i South Street ar yr Afon Ddwyreiniol, trwy ganol yr Ardal Ariannol hanesyddol. Dyma yw cartref cyntaf Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd; dros y blynyddoedd, mae'r enw Wall Street wedi ei ehangu i gynnwys y gymdogaeth daearyddol o'i hamgylch hefyd. Defnyddir "Wall Street" hefyd fel rhyw fath o dalfyrriad am y diwydiant ariannol Americanaidd, sydd wedi'i lleoli yn ardal Dinas Efrog Newydd. Mae nifer o gyfnewidfeydd stoc mawrion yr Unol Daleithiau a chyfnewidfeydd eraill wedi'u lleoli ar Wall Street ac yn yr Ardal Ariannol, gan gynnwys y NYSE, NASDAQ, AMEX, NYMEX, a NYBOT.
