Y Tŷ Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
y Tŷ Gwyn
WhiteHouseSouthFacade.JPG
Math plasty, adeilad dinesig, preswylfa swyddogol, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 Hydref 1792 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Cyfadeilad y Tŷ Gwyn Edit this on Wikidata
Sir Northwest Edit this on Wikidata
Gwlad Baner UDA UDA
Cyfesurynnau 38.897669°N 77.03655°W Edit this on Wikidata
Cod post 20500 Edit this on Wikidata
Manylion
Arddull pensaernïol pensaernïaeth neoglasurol Edit this on Wikidata
Perchnogaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth National Historic Landmark District Edit this on Wikidata

Cartref swyddogol a phrif weithle Arlywydd yr Unol Daleithiau yw'r Tŷ Gwyn (Saesneg: The White House). Lleolir y Tŷ Gwyn yn 1600 Pennsylvania Avenue NW, Washington, DC, ac fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Gwyddelig James Hoban.[1] Mae e wedi bod yn gartref i bob Arlywydd yr Unol Daleithiau heblaw arlywyddiaeth John Adams.

Ym 1814, yn ystod Rhyfel 1812, cyneuwyd y plas gan y Fyddin Brydeinig, yn dinistrio'r tu mewn i'r Tŷ ac yn golosgi llawer o'r tu allan. Dechreuwyd ailadeiladu bron yn syth, a symudodd yr Arlywydd James Monroe i mewn i'r tŷ, roedd yn rhannol wedi'i ailadeiladu ar y pryd, ym mis Hydref 1817. Aeth adeiladu yn bellach gydag ychwanegu Portico'r De ym 1824, a Phortico'r Gogledd ym 1829. Oherwydd nid oedd dim llawer o le ar gael o fewn y plas ei hun, symudodd yr Arlywydd Theodore Roosevelt bron yr holl swyddfeydd gweithio i Adain Chwith yr adeilad ym 1901. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ehangodd yr Arlywydd William Howard Taft yr Adain Chwith, a chreodd y Swyddfa Hirgrwn cyntaf.

Heddiw, mae Cyfadeilad y Tŷ Gwyn yn cynnwys Preswylfa'r Adran Weithredol, yr Adain Chwith, Ystafell y Cabinet, Ystafell Roosevelt, Adain y Dwyrain, ac Adeilad yr Hen Swyddfa'r Gweithredwr, sydd yn gartref i swyddfeydd gweithredol yr Arlywydd ac Is-Lywydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]