Ymgyrch Grym Cynghreiriol

Oddi ar Wicipedia
Ymgyrch Grym Cynghreiriol
Enghraifft o'r canlynolgweithrediad milwrol Edit this on Wikidata
Dyddiad10 Mehefin 1999 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Cosofo Edit this on Wikidata
Dechreuwyd24 Mawrth 1999 Edit this on Wikidata
Daeth i ben10 Mehefin 1999 Edit this on Wikidata
LleoliadGwladwriaeth Ffederal Iwcoslafia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymgyrch filwrol gan NATO o rym awyrennol ar ffurf bomio strategol yn erbyn Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia yn ystod Rhyfel Cosofo oedd Ymgyrch Grym Cynghreiriol (Saesneg: Operation Allied Force). Parhaodd y cyrchoedd awyr gan 11 o aelod-wladwriaethau NATO o 24 Mawrth 1999 hyd 10 Mehefin 1999.

Y rheswm swyddogol dros fomio Iwgoslafia oedd Ymgyrch Pedol. Yn sgîl ymchwiliadau dilynol ac achosion llys gan y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia, cadarnhawyd fod lluoedd diogelwch Iwgoslafaidd yn gyfrifol am droseddau yn erbyn dynoliaeth a chamdriniaethau hawliau dynol yn erbyn poblogaeth sifil Cosofo, yn enwedig yn ystod ymgyrch fomio NATO.

Yr ail ymgyrch filwrol fawr yn hanes NATO oedd Ymgyrch Grym Cynghreiriol, yn dilyn Ymgyrch Grym Bwriadol yn Bosnia-Hertsegofina yn ystod Rhyfel Bosnia ym mis Medi 1995. Ni chafwyd gefnogaeth y Cenhedloedd Unedig cyn i luoedd y cynghrair ddechrau bomio.

Arweiniodd y bomio at giliad lluoedd Iwgoslafaidd o Gosofo, a sefydlu Cenhadaeth Gweinyddu Dros Dro y Cenhedloedd Unedig yng Nghosofo (UNMIK) i ddod â therfyn i Ryfeloedd Iwgoslafia'r 1990au. Beirniadwyd yr ymgyrch fomio, yn enwedig oherwydd y niferoedd sifil a laddwyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]