Y Ras Ofod

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ras y Gofod)
Jump to navigation Jump to search
Armstrong on Moon (As11-40-5886) (cropped).jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol cystadleuaeth, space exploration Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 1957 Edit this on Wikidata
Daeth i ben 1975 Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Roedd y Ras Ofod yn gystadleuaeth yn yr 20fed ganrif rhwng y dau wrthwynebydd y Rhyfel Oer, sef yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau, i sicrhau'r cyntaf i gallu Teithio'r gofod.

Cafodd ei wreiddiau yn y ras arfau niwclear rhwng y ddwy wlad a ddigwyddodd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd . Ystyriwyd bod y fantais dechnolegol sy'n ofynnol i gyflawni'r cerrig milltir yma yn gyflym yn angenrheidiol ar gyfer diogelwch gwladol, ac roedd yn gymysg â symbolaeth ac ideoleg yr oes. Arweiniodd y Ras Ofod at ymdrechion arloesol i lansio lloerennau artiffisial, chwiliedydd gofod i'r Lleuad, Gwener, a'r blaned Mawrth, a teithio gofod dynol. [1]

Dechreuodd y gystadleuaeth o ddifrif ar 2 Awst, 1955, pan ymatebodd yr Undeb Sofietaidd i gyhoeddiad yr Unol Daleithiau bedwar diwrnod ynghynt o fwriad i lansio lloerennau artiffisial. Cyflawnodd yr Undeb Sofietaidd y lansiad llwyddiannus cyntaf ar Hydref 4, 1957 efo Sputnik 1, Yr Undeb Sofietaidd oedd y cyntaf hefyd i anfon person, Yuri Gagarin , i'r gofod ar Ebrill 12, 1961. Hefyd anfonodd yr Undeb Sofietaidd y fenyw gyntaf, Valentina Tereshkova, i'r gofod ar 16 Mehefin, 1963. Yn ôl ffynonellau Rwseg, arweiniodd y cyflawniadau hyn at y casgliad bod gan yr Undeb Sofietaidd fantais yn technoleg gofod yn gynnar yn y 1960au. [2]

Yn ôl ffynonellau'r UD, fe gyrhaeddodd y "ras" uchafbwynt ar Gorffennaf 20, 1969, pan glaniodd yr Unol Daleithiau y bodau dynol cyntaf ar y Lleuad gyda Apollo 11 . Bydd y rhan fwyaf o ffynonellau'r UD yn tynnu sylw at laniad lleuad Apollo 11 fel cyflawniad unigol sy'n llawer mwy pwysig nag unrhyw gyfuniad o gyflawniadau Sofietaidd. [3][4][5][6]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. history.com, Space Race
  2. history.com, From Sputnik to Spacewalking: 7 Soviet Space Firsts, Oct 4, 2012
  3. "Apollo 11 Command and Service Module (CSM)". NASA Space Science Data Coordinated Archive. Cyrchwyd November 20, 2019.
  4. "Apollo 11 Lunar Module / EASEP". NASA Space Science Data Coordinated Archive. Cyrchwyd November 20, 2019.
  5. "Apollo 11 Mission Summary". Smithsonian Air and Space Museum.
  6. Williams, David R. (December 11, 2003). "Apollo Landing Site Coordinates". NASA Space Science Data Coordinated Archive. NASA. Cyrchwyd September 7, 2013.