Rhyfel Chwe Diwrnod

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Israel a'r tiriogaeth a feddiannodd yn ystod (ac wedi) y Rhyfel Chwe Diwrnod.

Ymladdwyd y Rhyfel Chwe Diwrnod (Hebraeg: מלחמת ששת הימים, Milhemet Sheshet Ha‑Yamim; Arabeg: حرب الأيام الستة, ħarb al‑ayyam as‑sitta), a elwir hefyd yn "Rhyfel Israel-Arabaidd 1967", y Trydydd Rhyfel Arab-Israelaidd, Rhyfel Mehefin, neu an‑Naksah yn Arabeg ("Yr Atalfa"), rhwng Israel a'r gwladwriaethau Arabaidd yr Aifft, Gwlad Iorddonen, Irac, a Syria. Mae'r rhyfel hwn yn rhan o'r Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd.

Cynyddai'r tensiynau rhwng Israel a'i chymdogion Arabaidd ar ddechrau 1967. Pan orfodwyd Llu Argyfwng y Cenhedloedd Unedig gan yr Aifft i adael gorynys Sinai, gan gynyddu ei gweithgareddau milwrol ger y ffin ag Israel a gwrthod mynediad i longau Israelaidd a geisiai fynd i Gulfor Tiran (ger Aqaba). Lansiodd Israel gyrch milwrol rhagflaenol ar lu awyr yr Aifft am ei bod yn ofni ymosodiad buan o du'r Aifft. Yn ei thro ymosododd Gwlad Iorddonen ar ddinasoedd Israelaidd Jerwsalem a Netanya. Erbyn diwedd y rhyfel roedd Israel wedi cipio Llain Gaza, gorynys Sinai, y Lan Orllewinol, ac Ucheldiroedd Golan. Mae canlyniadau'r rhyfel tyngedfennol hwnnw yn effeithio ar wleidyddiaeth y Dwyrain Canol hyd heddiw.

Gweler hefyd[golygu]

Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato